Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Bydd disgyblion yn dechrau casglu gwybodaeth, defnyddio offer ac anfon data drwy'r wefan o fis Tachwedd ymlaen. Mae rhai ysgolion ar wyliau'r wythnos o 4 Tachwedd a byddant yn dechrau casglu data unwaith y byddant yn ôl yn yr ysgol. Rhowch 'dim cofnod' ar gyfer unrhyw ddyddiad mae'r ysgol ar gau neu nad ydych yn gallu casglu darlleniadau tywydd. Gallwch ychwanegu fanylion am hyn o dan 'sylwadau' wrth rannu eich data.
Plîs sicrhewch bod pob disgybl yn cael tro i gofnodi data tywydd a uwchlwytho hyn i'r wefan. Eleni rydym yn cyflenwi calendr i gofnodi eich darlleniadau tywydd dyddiol ac i gofnodi bod data wythnosol wedi'i uwchlwytho i'r wefan. Mae'r calendr yn rhestru pum grŵp ac yn nodi'n glir pa grŵp sy'n gyfrifol am ddarlleniadau bob dydd.
Os mae'n bosib, mae'n well i gymryd darlleniadau ar yr un pryd bob dydd. Trafodwch y ffordd gorau i afaelio'r dasg hon hefo'r dosbarth. Anogi'r disgyblion i gymryd perchnogaeth o'r project a chyfrifoldeb am gasglu data. Os bydd disgyblion yn anfon data yn wythnosol gall ysgolion gymharu cofnodion tywydd, astudio’r map ac adnabod tueddiadau lleol. Anfonwch y canlyniadau yn wythnosol ar brynhawn dydd Gwener os yn bosibl. Gall ysgolion hefyd astudio cofnodion a chanfyddiadau’r llynedd. Mae mewnbynnu data yn rheolaidd yn cynyddu eich siawns o ennill gwobrau ar ddiwedd y prosiect!
Bydd angen i athrawon gasglu:
Defnyddiwch y Dangosfwrdd i lanlwytho data a i weld lleoliadau ysgol a data tywydd.
Astudio'r data o flynyddoedd blaenorol.
Adnoddau dysgu
Ein gwyddonwyr tywydd wrth eu gwaith.
Ysgol Carnbroe yn cymryd cofnodion tywydd.
Map yn dangos ysgolion a gymerodd ran yn Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Ysgol Llandwrog yn cofnodi data tywydd i'r wefan.