Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Er mwyn cydnabod dau gan mlynedd ers adeiladu Castell Cyfarthfa, mae Adran Addysg BBC Cymru - gyda chyngor gan Amgueddfa Cymru - wedi datblygu adnoddau dwyieithog i ddathlu hanes diwydiannol Merthyr Tudful.
Mae’r pecyn hwn yn gasgliad o adnoddau parod i athrawon fydd yn ysbrydoli disgyblion ac yn dod â’r Chwyldro Diwydiannol yn fyw drwy gyfrwng gwersi a thasgau cyffrous.
Ceir yma weithgareddau hwyliog – wedi eu creu gan athrawon – sy’n addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6. Mae’r gweithgareddau wedi eu cynllunio i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru ac yn darparu cyfleoedd cyfoethog i athrawon ddatblygu’r Pedwar Diben ac archwilio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad gyda’u dosbarth. Mae hyblygrwydd o fewn y gweithgareddau i'w haddasu ar gyfer pob disgybl a’u llwybrau dysgu unigol.
Lawrlwythwch Becyn Bitesize Merthyr sy’n addas ar gyfer disgyblion cynradd (Blynyddoedd 4, 5 a 6)
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol. / Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn.