Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac Archwilio
Ymunwch â hwylusydd i archwilio'r coed, adar, pryfed a'r anifeiliaid sy'n gwneud Sain Ffagan ei gartref. Mae'r gweithdy ymarferol hwn yn gyfle gwych i gysylltu â natur a dysgu sut i'w hamddiffyn.
✏️ Cymerwch Ran
Gall gweithgareddau tymhorol gynnwys:
Bydd cyfleoedd gan ddisgyblion i:
ℹ️ Am y Sesiwn Hon
Bydd y gweithdy hwn yn cymryd lle yn yr awyr agored a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y tywydd a'r tymor.
Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer yr amodau.
Yn y gweithdy hwn byddwn yn archwilio themâu sensitif newid hinsawdd a chadwraeth.
Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych chi unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn ni'n gwneud ein gorau i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus!
Yn dilyn y gweithdy, mae adnoddau ar gael i gefnogi gweithgareddau hunan-dywys fel Gweld Adar ac Adnabod Planhigion, sy'n ymestyn y sgiliau a ddefnyddir yn y sesiwn.
Mae'r adnoddau hyn ar gael i'w defnyddio am y diwrnod gan grwpiau sydd wedi archebu'r gweithdy hwn a gellir eu casglu wrth gyrraedd.
Neu, gallech gael mynediad at yr adnoddau a'u hargraffu isod, os hoffech ddod â'ch copïau eich hun i'ch ymweliad.
Datblygwyd y gweithdy hwn gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Edina. Mae'r 20 lle cyntaf yn rhad ac am ddim i ysgolion sy'n cymryd rhan yn y prosiect Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Amrywiaeth biolegol ac ecosystemau: Mae disgyblion yn archwilio pethau byw a'u cynefinoedd, yn arsylwi newidiadau tymhorol, ac yn deall dibyniaeth rhyngddynnol rhywogaethau.Ymchwil wyddonol: Mae gweithgareddau fel cyfrif rhywogaethau a hela creaduriaid bach yn datblygu sgiliau arsylwi, dosbarthu, a chasglu data.
Dyniaethau
Daearyddiaeth a chynaliadwyedd: Mae dysgwyr yn ystyried sut mae gweithredoedd dynol yn effeithio ar yr amgylchedd ac yn archwilio ffyrdd o warchod ecosystemau lleol.Dinasyddiaeth foesol: Yn annog cyfrifoldeb am y byd naturiol ac yn hyrwyddo meddwl cynaliadwy.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk