Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
I ddathlu 20 mlynedd o Broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, rydyn ni'n cynnal pedwar gweithdy rhithwir fydd yn edrych ar baentio, newid hinsawdd, y Chwyldro Diwydiannol a llawer mwy! Gellir dod o hyd i recordiadau o bob sesiwn isod, ynghyd ag unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen.
Bydd y sesiynau ar Microsoft Teams. Mae'r sesiynau ar gyfer disgyblion Cam Cynnydd 3 (8-11).
Sesiwn 1 | 14/01/26 | Darlunio fel Artist, Meddwl fel Gwyddonydd!
Bydd y sesiwn yn edrych ar ddarluniau botanegol, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd gwyddonol a sut oedd artistiaid ar un adeg yn wyddonwyr. Byddwn ni hefyd yn edrych ar waith celf a bywyd Cedric Morris, a greodd lawer o blanhigion a'u peintio mewn ffyrdd unigryw.
Sesiwn 2 | 21/01/26 | Paentio gyda'n Gilydd: Creu campwaith botanegol
Yn yr ail sesiwn bydd y disgyblion yn edrych ar wahanol rannau’r blodyn, cyn creu darn celf eu hunain gyda blodau.
Lawrlwythwch yr adnodd paratoi yma
Sesiwn 3 | 4/03/26 | Cliwiau Hinsawdd: O'r gorffennol i'n dyfodol
Bydd y sesiwn yn defnyddio delweddau hanesyddol, gwaith celf a sbesimenau planhigion ac anifeiliaid diflanedig o Amgueddfa Cymru i edrych ar ddechrau newid hinsawdd. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ddata gwyddonol project Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion ac yn trafod beth mae’n ei olygu.
Kahoot
Sesiwn 4 | 11/03/26 | Cyfrannu at newid: Addewid dros y Blaned
Sesiwn i drafod addewid hinsawdd Amgueddfa Cymru a beth mae pob amgueddfa ledled Cymru yn ei wneud i leihau ei ôl troed carbon. Gall y disgyblion drafod a chreu addewidion hinsawdd digidol eu hunain.
Lawrlwytho taflen adnoddau