Gwyddoniaeth yn y Glannau | Suddo ac Arnofio
🔍 Darganfod ac Archwilio
Dewch i ddarganfod hanes cyffrous morwrol Cymru. Fe wnaeth y chwyldro diwydiannol ddechrau gyda’r môr. Fe wnaeth dociau Cymru ddod yn borth i gyfoeth enfawr, roedd yr angen am longau addas ar gyfer hwylio yn angenrheidiol.
Rhowch dro ar ddod yn beiriannydd i archwilio beth sydd yn gwneud i long arnofio, cydbwyso a symud. Byddwn yn archwilio syniadau fel hynofedd, deunyddiau addas, siâp a phwrpas llongau yn hanes Cymru.
✏️Cymryd rhan
Fydd yna gyfle i drin a thrafod gwrthrychau go iawn, a rhoi eu gwybodaeth ar waith drwy ddylunio ac adeiladu llong allan o ffoil. A fydd eich llong chi yn arnofio neu suddo? Byddwn yn archwilio syniadau fel hynofedd, deunyddiau addas, siâp a phwrpas llongau yn hanes Cymru.
ℹ️Ynglŷn â'r sesiwn hon
Yn ystod y gweithdy yma fydd eich disgyblion yn gweithio mewn timau er mwyn dewis a phrofi'r llongau ffoil mewn padell dŵr.
Nodwch: Fe fydd y sesiwn yma ar gael yn ystod tymor y Gwanwyn a Haf.
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffenol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffenol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600