Adnodd Dysgu

Cymru a’r Terra Nova

Cymru a’r Terra Nova

Ar ddechrau’r 1900au, yr Antarctig oedd y cyfandir oedd pobl yn gwybod y lleiaf amdano. Roedd llawer o wledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, am fod y cyntaf i archwilio’r Antarctig a chyrraedd Pegwn y De – pwynt mwyaf deheuol y Ddaear. Yn 1910 hwyliodd y Terra Nova a’i chriw i archwilio’r Antarctig a cheisio cyrraedd Pegwn y De, ac fyddai’r alldaith ddim wedi bod yn bosib heb gyfraniad Cymru.

Ble mae’r Antarctig?

Llusgwch y pin a’i osod ar y marc glas ble mae’r Antarctig. (Trowch ffôn symudol ar ei ochr)

Sut ddaeth Cymru yn rhan mor bwysig o’r alldaith?

Yn 1910 roedd teithio o Brydain i’r Antarctig yn anodd, yn beryglus, ac yn ofnadwy o ddrud! Byddai’r holl offer a nwyddau oedd eu hangen i gyrraedd yr Antarctig yn costio tua £50,000 (tua £7 miliwn yn arian heddiw!).

Daeth criw y Terra Nova i Gaerdydd i chwilio am noddwyr, a dyna sut daeth pobl Cymru yn rhan o un o’r alldeithiau enwocaf a mwyaf anffodus erioed – hanes Capten Scott a’r Terra Nova.

Y daith i’r Antarctig

Gadawodd y Terra Nova Gaerdydd ar 15 Mehefin. Ar y mast roedd baner Cymru’n chwifio, a dywedodd y criw y bydden nhw’n dychwelyd i Gaerdydd ar ddiwedd y daith. Byddai hi’n daith hir, ond byddai Teddy yn ysgrifennu llythyrau i Gaerdydd i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda phawb. 

Dilynwch y daith a darllen rhai o’r llythyrau ar y map. 

Cystadleuaeth

Ond nid y Terra Nova oedd yr unig long oedd yn hwylio tua’r Antarctig. Roedd y Fram (ymlaen) hefyd wedi dechrau o Norwy gan gludo’r anturiaethwr enwog, Roald Amundsen, i hawlio Pegwn y De. Dechreuodd Amundsen a phedwar o’r criw ar y cymal anodd olaf ar 10 Hydref 1911. Ar 15 Rhagfyr Roald Amundsen a’i griw oedd y bobol gyntaf i gyrraedd Pegwn y De.

Doedd Scott a chriw’r Terra Nova ddim yn gwybod bod Amundsen eisoes wedi cyrraedd y Pegwn. Dechreuodd Scott a 15 o’r criw drwy’r eira ar 1 Tachwedd 1911, ond criw llawer llai fyddai’n gwneud yr ymgais olaf i gyrraedd y Pegwn.

Criw y Pegwn

Erbyn 4 Ionawr 1912, roedd Teddy’n agos at farw. Roedd yn dioddef o’r sgyrfi ac roedd yn rhaid i William Lashly a Tom Crean ei lusgo ar sled yn ôl i’r gwersyll. Tra bod Teddy’n dychwelyd i’r gwersyll, dewisodd Scott y pedwar dyn fyddai’n mynd gydag ef i Begwn y De.

Roedd Teddy, Crean a Lashly yn dal i geisio cyrraedd y gwersyll. Ar 18 Chwefror 1912 gwthiodd Crean ymlaen ar ei ben ei hun dros y 35 milltir olaf i chwilio am help, gan adael Lashly gyda Teddy. Dyma fe’n cyrraedd y gwersyll a llwyddodd y tri i oroesi. Teithiodd Teddy i Seland Newydd ac yna i Brydain i wella, ond arhosodd gweddill y criw am Capten Scott a’r lleill, heb wybod eu bod nhw i gyd wedi marw.

The Terra Nova Returns

Ar ôl gwella, dychwelodd Teddy i Seland Newydd a fe oedd capten y Terra Nova ar ei thaith yn ôl i’r Antarctig i gasglu gweddill y criw. Roedd hyn bron i flwyddyn gyfan ar ôl iddo adael. Dim ond ar ôl cyrraedd yr Antarctig ar 18 Ionawr 1913 wnaeth e glywed fod Scott a’r lleill wedi marw.

Gwnaeth Teddy gynlluniau i ddilyn yr addewid o 1910 a hwylio’r Terra Nova yn ôl i Gaerdydd, i orffen lle ddechreuodd y llong ei thaith. Mewn llythyr ysgrifennodd, Rydw i wedi gorchymyn y Terra Nova yn ôl i Gaerdydd fel y gall gwir ffrindiau’r Alldaith, y dynion hynny a roddodd yn fwyaf hael, weld y llong fach a gariodd eu gobaith am gyflawni gorchwyl anodd yn anrhydeddus.

Dychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ar 14 Mehefin 1913. Roedd pobl Caerdydd yn teimlo gymaint o gysylltiad â’r alldaith, dyma nhw’n codi sawl cofeb i aelodau’r criw a gollodd eu bywydau. 

Archwiliwch yr albwm am luniau o ddychweliad y Terra Nova a’r cofebau yng Nghaerdydd.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau  

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. 

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. 

Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. 

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.