Paentio a Phlannu | Stori Cedric Morris
Mae’r adnodd hwn yn edrych ar artist a phlanhigydd unigryw o Gymru a ddefnyddiodd ei sgiliau i hyfforddi artistiaid ifanc a helpu pobl Cymru yn ystod y Dirwasgiad. Gall gael ei ddarllen yn unigol neu fel dosbarth. Mae wedi’i anelu at ddisgyblion Cam Cynnydd 3 (8-11 oed), ond yn addas ar gyfer disgyblion hŷn hefyd.
Yn yr adnodd hwn byddwch chi’n...
- Dysgu am fywyd a gwaith yr artist o Gymru, Cedric Morris.
- Darganfod ei gysylltiadau â’r Gymru ddiwydiannol a sut y dechreuodd baentio a phlannu.
- Dysgu am ei dechnegau paentio ac am wahanol fathau o baent.
- Cael cyflwyniad i wyddoniaeth blodau hybrid.
(Darluniau o Cedric Morris gan @riannerowlands)
Cwricwlwm
Celfyddydau Mynegiannol
Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
Mae ymateb a myfyrio, fel artist a chynulleidfa, yn rhan allweddol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Mae’n cyfuno sgiliau a gwybodaeth, ac yn defnyddio synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.