Gweithdy Rhithiol
Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru (Gweithdy Rhithiol)
🔍 Darganfod a Dysgu
O’r ffyrdd rydym ni’n gweithio i sut rydym ni’n byw, i’r swyddi, y tirwedd, yr amgylchedd, a chymaint mwy, ganwyd Cymru o’r newydd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Daw’r sesiwn rhithiol unigryw yma a straeon glo, llechi, gwlân a phorthladdoedd Cymru ynghyd er mwyn esbonio sut y daeth Cymru i fod y genedl ddiwydiannol gyntaf.
✏️ Cymryd Rhan
Cysylltwch â staff ar draws Amgueddfa Cymru a chymryd rhan mewn archwiliad rhyngweithiol o’r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru.
ℹ️ Ynglŷn â’r Sesiwn
Mae’r sesiwn yma’n ymdrin a themâu megis iechyd ac anafiadau. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych unryw ddisgyblion fyddai’n sensitif i’r pynciau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud bawb deimlo’n gyfforddus!
Sut i archebu: E-bost | llechi@amgueddfacymru.ac.uk
Hyd:
1 awr
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
- Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau