Ymweliad Amgueddfa

Taith ysgol i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Archwilio a phrofiad:

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i archwilio casgliadau hanes natur a chelf rhyngwladol-bwysig Cymru. Drwy ein casgliadau, bydd dysgwyr yn archwilio miliynau o flynyddoedd o hanes Cymru. O ddarganfod y deinosoriaid oedd yn crwydro Cymru gynhanesyddol i archwilio ein casgliad celf o'r radd flaenaf, bydd dysgwyr yn cael eu grymuso i ymchwilio, creu a dysgu drwy ein gweithdai ymarferol, rhyngweithiol dan arweiniad ein Tîm Addysg gwych.

Gweithdai dan arweiniad Hwylusydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig nifer o weithdai wedi'u hwyluso i'ch dysgwyr.

Cynefin | Archwiliwch y syniad o gynefin drwy'r orielau celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Synau'r Deinosoriaid | Camwch yn ôl mewn amser a dod â'r byd cynhanesyddol yn fyw mewn antur ryngweithiol a swnllyd! 

Fy Ymweliad Cyntaf ag Oriel Gelf | Dewch i weld detholiad o weithiau celf amrywiol yn yr orielau!⁠ Bydd dysgwyr yn archwilio gwahanol fathau o gelf ac yn rhoi cynnig ar greu eu gweithiau celf eu hunain.

LEGO® Build the Change: Gwarchod y Moroedd | Ymchwiliwch i effaith newid hinsawdd ar ein moroedd ac adeiladu datrysiad gyda LEGO.

Archwilio Hunaniaeth drwy Bortreadau | Dewch i ddarganfod rhai o'r portreadau hanesyddol a modern yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac archwilio sut mae celf yn dangos ein hunaniaeth.

Ditectifs Amgueddfa | Gan ddefnyddio ein casgliadau trin a thrafod, bydd dysgwyr yn archwilio sbesimenau hanes natur megis ffosilau, gemau, trychfilod a mwy!

Ymwybyddiaeth Ofalgar | Treuliwch amser yn ein horielau celf drwy arafu, archwilio eich synhwyrau ac ymgysylltu â'r casgliad mewn ffordd feddylgar a myfyriol.

Realaeth a Chelf Haniaethol | Archwiliwch y gwahaniaeth rhwng celf haniaethol a realaidd yn y gweithdy rhyngweithiol hwn.

Darganfod y Lleuad | Dewch i ddarganfod y lleuad yn y gweithdy rhyngweithiol hwn lle bydd disgyblion yn cael cyfle i drin a thrafod cerrig lleuad go iawn.

Cymru, Ymerodraeth a Gwladychiaeth | Drwy wrthrychau, straeon ac ymatebion creadigol, archwiliwch waddol cymhleth ymerodraeth a sut mae'n parhau i effeithio ar Gymru a'r byd ehangach heddiw.

Byd Gwych y Deinosoriaid | Dewch i ddysgu am y deinosoriaid oedd yn crwydro Cymru filiynau o flynyddoedd yn ôl, a sut cawson nhw eu darganfod.

Chi yw'r Curadur | Dewch i chwarae rôl curadur celf i archwilio sut all un darn o gelf ymateb i un arall, gan greu ystyron newydd.⁠ 

Celf ac Ymgyrchu | Dysgwch sut mae celf ac artistiaid yn defnyddio creadigrwydd i herio materion cymdeithasol. 

Os hoffech chi neu'r disgyblion wybod beth i'w ddisgwyl wrth ymweld â'r Amgueddfa, gallwch archwilio ein ⁠Stori Weledol. Canllaw gweledol yw hwn ar gyfer grwpiau addysg sydd am ymweld.

Gallwch chi weld map digidol o'r Amgueddfa yma.

Gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad gyda gweithdy rhithiol AM DDIM o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cynhelir sesiynau rhithiol yn eich ystafell ddosbarth dros Teams cyn neu ar ôl eich ymweliad!

Chwilfrydig am Ddeinosoriaid? | Darganfyddwch fwy am ddeinosoriaid gan gynnwys eu harferion bwyta a'u cylchoedd bywyd, eu hamgylchedd a'u cynefinoedd.

Darganfod Deinosoriaid | Gan weithio gydag un o'n hwyluswyr, byddwch chi'n defnyddio ffosilau ac esgyrn go iawn i feddwl fel palaeontolegydd a datrys cyfres o bosau deinosoriaid yn seiliedig ar dystiolaeth.

Chwilfrydig am Gelf | Bydd ein hwylusydd yn eich tywys ar daith rithiol o baentiadau, cerameg, ffotograffau a cherfluniau.

Archwilio Celf | Darganfod sut mae tirwedd Cymru wedi ysbrydoli artistiaid.

Bathodyn ansawdd Learning Outside of the Classroom

https://www.lotc.org.uk 

Taith ysgol
Taith ysgol
Taith ysgol
Taith ysgol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk