Ymweliad Amgueddfa

Taith ysgol i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Archwilio a phrofiad:

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i archwilio casgliadau hanes natur a chelf rhyngwladol-bwysig Cymru. Drwy ein casgliadau, bydd dysgwyr yn archwilio miliynau o flynyddoedd o hanes Cymru. O ddarganfod y deinosoriaid oedd yn crwydro Cymru gynhanesyddol i archwilio ein casgliad celf o'r radd flaenaf, bydd dysgwyr yn cael eu grymuso i ymchwilio, creu a dysgu drwy ein gweithdai ymarferol, rhyngweithiol dan arweiniad ein Tîm Addysg gwych.

Gweithdai dan arweiniad Hwylusydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig nifer o weithdai wedi'u hwyluso i'ch dysgwyr.

Cynefin | Archwiliwch y syniad o gynefin drwy'r orielau celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Synau'r Deinosoriaid | Camwch yn ôl mewn amser a dod â'r byd cynhanesyddol yn fyw mewn antur ryngweithiol a swnllyd! 

Fy Ymweliad Cyntaf ag Oriel Gelf Dewch i weld detholiad o weithiau celf amrywiol yn yr orielau!⁠ Bydd dysgwyr yn archwilio gwahanol fathau o gelf ac yn rhoi cynnig ar greu eu gweithiau celf eu hunain.

LEGO® Build the Change: Gwarchod y Moroedd Ymchwiliwch i effaith newid hinsawdd ar ein moroedd ac adeiladu datrysiad gyda LEGO.

Archwilio Hunaniaeth drwy Bortreadau | Dewch i ddarganfod rhai o'r portreadau hanesyddol a modern yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac archwilio sut mae celf yn dangos ein hunaniaeth.

Ditectifs Amgueddfa Gan ddefnyddio ein casgliadau trin a thrafod, bydd dysgwyr yn archwilio sbesimenau hanes natur megis ffosilau, gemau, trychfilod a mwy!

Ymwybyddiaeth Ofalgar Treuliwch amser yn ein horielau celf drwy arafu, archwilio eich synhwyrau ac ymgysylltu â'r casgliad mewn ffordd feddylgar a myfyriol.

Realaeth a Chelf Haniaethol | Archwiliwch y gwahaniaeth rhwng celf haniaethol a realaidd yn y gweithdy rhyngweithiol hwn.

Darganfod y Lleuad Dewch i ddarganfod y lleuad yn y gweithdy rhyngweithiol hwn lle bydd disgyblion yn cael cyfle i drin a thrafod cerrig lleuad go iawn.

Cymru, Ymerodraeth a Gwladychiaeth | Drwy wrthrychau, straeon ac ymatebion creadigol, archwiliwch waddol cymhleth ymerodraeth a sut mae'n parhau i effeithio ar Gymru a'r byd ehangach heddiw.

Byd Gwych y Deinosoriaid | Dewch i ddysgu am y deinosoriaid oedd yn crwydro Cymru filiynau o flynyddoedd yn ôl, a sut cawson nhw eu darganfod.

Chi yw'r Curadur Dewch i chwarae rôl curadur celf i archwilio sut all un darn o gelf ymateb i un arall, gan greu ystyron newydd.⁠ 

Celf ac Ymgyrchu Dysgwch sut mae celf ac artistiaid yn defnyddio creadigrwydd i herio materion cymdeithasol. 

Os hoffech chi neu'r disgyblion wybod beth i'w ddisgwyl wrth ymweld â'r Amgueddfa, gallwch archwilio ein ⁠Stori Weledol. Canllaw gweledol yw hwn ar gyfer grwpiau addysg sydd am ymweld.

Gallwch chi weld map digidol o'r Amgueddfa yma.

Gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad gyda gweithdy rhithiol AM DDIM o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cynhelir sesiynau rhithiol yn eich ystafell ddosbarth dros Teams cyn neu ar ôl eich ymweliad!

Chwilfrydig am Ddeinosoriaid? Darganfyddwch fwy am ddeinosoriaid gan gynnwys eu harferion bwyta a'u cylchoedd bywyd, eu hamgylchedd a'u cynefinoedd.

Darganfod Deinosoriaid | Gan weithio gydag un o'n hwyluswyr, byddwch chi'n defnyddio ffosilau ac esgyrn go iawn i feddwl fel palaeontolegydd a datrys cyfres o bosau deinosoriaid yn seiliedig ar dystiolaeth.

Chwilfrydig am Gelf Bydd ein hwylusydd yn eich tywys ar daith rithiol o baentiadau, cerameg, ffotograffau a cherfluniau.

Archwilio Celf | Darganfod sut mae tirwedd Cymru wedi ysbrydoli artistiaid.

Taith ysgol
Taith ysgol
Taith ysgol
Taith ysgol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk