Y Dyniaethau yn y Glannau | Cymru a chaethwasiaeth Trawsatlantig
🔍Darganfod ac Archwilio
Ymunwch a ni wrth i ni ddarganfod ac archwilio cysylltiadau cudd rhwng diwydiannau Cymru a’r fasnach o gaethion.
✏️Cymryd rhan
Fyddwch yn edrych ar gasgliadau a Chelf Amgueddfa Cymru er mwyn archwilio, dadansoddi ac adeiladu ar eich dysgu i ddod o hyd hanesion caethweision y fasnach Drawsatlantig. Fe fydd cyfle i drin a thrafod gwrthrychau e.e. Manila neu dadgodio gwaith Celf Henry De La Beche.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Fe fydd yna drafod o gynnwys sensitive yn ystod y sesiwn, lle fydd caethwasiaeth a’r fasnach Drawsatlantig yn cael eu trafod.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600