Gwyddoniaeth yn y Glannau | Cyfarfod a’r Gwenyn
🔍Darganfod ac Archwilio
Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd tu fewn i gwchgwenyn? Beth mae gwenyn yn ei wneud, a pham eu bod mor arbennig? Dewch i ymuno â'n Gwenynwr, Alyson Williams, wrth iddi egluro bywyd gwenyn mêl a'r holl weithgareddau maent yn gwneud o fewn y cwch.
✏️Cymryd rhan
Dewch I ddysgu am gylch bywyd gwenyn mêl, cychod gwenyn, a cynhaeafu mêl.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Fydd gwenyn byw yn rhan o’r gweithdy yma, ond fyddan nhw o dan glo mewn bocs. Fe fydd y gofalydd gwenyn gyda chi yn ystod y sesiwn. Gwiriwch unrhyw alergeddau cyn archebu a mynychu gweithdy.
Nodwch: Fe fydd y sesiwn yma ar gael yn ystod tymor y Gwanwyn a Haf.
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600