Articulation yn Amgueddfa Cymru
Beth yw Articulation?
Ein rhaglen genedlaethol i bobl ifanc, wedi ei chynllunio i ddefnyddio celf fel cam cychwyn i ddatblygu sgiliau ieithyddol hanfodol, ymchwil annibynnol, a sgiliau cyflwyno.
Mae Articulation yn ymgysylltu â phobl ifanc, dim ots am cefndir neu brofiad gyda chelf, ac yn datblygu eu hyder a'u gallu i fynegi eu barn, eu meddyliau a sut i ddod i gasgliad.
Dyddiau Darganfod Articulation
Gweithdai am ddim i fyfyrwyr 14-19 yw Dyddiau Darganfod Articulation i helpu datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol, ymchwil a sgiliau araith, gan gynnwys siarad cyhoeddus. Mae'r gweithdai ar agor i ysgolion o'r sector cyhoeddus yn unig.
Yn ystod y gweithdy un diwrnod hwn bydd myfyrwyr yn:
- Archwilio gweithiau celf trwy arsylwi personol, trafodaeth ag ymchwil sylfaenol
- Cael eu hannog i feddwl yn annibynnol, dadansoddi gwybodaeth, a gofyn cwestiynau gwybodus
- Dysgu sut i concro nerfau, paratoi'n gorfforol, a chyflwyno cyflwyniad yn llwyddiannus i gynulleidfaoedd mawr
- Cyfarfod a chyfweld â gweithwyr proffesiynol o'r byd celf
Mae Articulation yn cefnogi menter Arts Award ar gyfer Arian a Aur (cynhyrchu pwyntiau UCAS), yr EPQ, Gwobr Dug Caeredin, a datganiadau personol UCAS.
Dyddiadau ar gael i’w harchebu:
Sesiynau Saesneg: 6 Hydref, 3 Tachwedd, 1 Rhagfyr 2026
Sesiynau Cymraeg: 20 Hydref, 17 Tachwedd, 8 Rhagfyr 2026
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Iechyd a Lles
Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.
Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd.
Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch.
Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Sut i archebu