Trin a Thrafod Gwrthrychau yng Nghanolfan Ddarganfod Clore
Sesiwn am ddim! Dewiswch amser wrth archebu
🔍 Darganfod ac Archwilio
Gallwch edrych o gwmpas y casgliadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn yr oriel trin a thrafod: Canolfan Ddarganfod Clore. Bydd dysgwyr yn gallu gweld ystod eang o wrthrychau ar eu cyflymder eu hunain o ystod eang o bynciau gan gynnwys ffosiliau deinosoriaid go iawn, creaduriaid bach a cherrig gwerthfawr.
✏️ Cymryd Rhan
Bydd cyfle unigryw gan ddysgwyr i drin a thrafod gwrthrychau o'n casgliad gydag un o'n hwyluswyr wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Cwricwlwm
Celfyddydau Mynegiannol
- Mae’n cyfuno sgiliau a gwybodaeth, ac yn defnyddio synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Y Dyniaethau
- Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
- Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn.
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
- Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk