Gweithgaredd Addysg

DPP Athrawon: Addysgu Hanesion Sensitif

Gweithdy Datblygiad Proffesiynol

Hanesion sensitif: Trychineb Aberfan, 1966. 

Gweithdy datblygiad proffesiynol, delfrydol os ydych chi’n cynnal sesiynau hyfforddi ar ôl Ysgol. Mae’r gweithdy yma yn rhad ac AM DDIM. Fydd y gweithdy yma yn canolbwyntio ar sut i ddysgu trychineb Aberfan 1966, i arwyddocâd yn hanes Cymru a sut i gyflwyno hanesion sensitif yn y dosbarth.  

Yn ystod y gweithdy fe fyddwn yn:

  • Cefnogi athrawon I gyflwyno hanesion sensitif fel trychineb Aberfan i mewn I’r dosbarth.
  • Archwilio cyd-destun hanesyddol trychineb Aberfan.
  • Cyflwyno eitemau a hanesion llafar o archifau Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa ac Oriel Celf Castell Cyfarthfa.
  • Trafod ffyrdd o gyflwyno hwn i ystod o oedrannau a chamau cynnydd mewn ffordd sensitif a feddyliol.
  • Darganfod adnoddau i ddefnyddio yn y dosbarth a phrofiadau sydd wedi datblygu i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

Ffurflen Archebu

Hyd: 2 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
oedolion yn astudio wrth fwrdd