Gweithdy Rhithiol

Cyflwyniad i'r Rhufeiniaid: Y Rhufeiniaid yng Nghymru

Darganfod ac Archwilio 

Pwy oedd y Rhufeiniaid? Dysgwch am hanes y Rhufeiniaid, o sefydlu'r ddinas gyntaf i oresgyn Ymerodraeth anferth oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o ynys Britannia. Drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru gallwch chi weld pam ddaeth y Rhufeiniaid i Brydain, pwy oedden nhw, a beth wnaethon nhw ddod gyda nhw.

Cymryd Rhan 

Yn ystod y cyflwyniad hwn bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod pynciau sy'n codi wrth weld y gwrthrychau. 

Am y Sesiwn hon 

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.

Cwricwlwm

Dyniaethau: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. 

Oed: 8+

Amcanion dysgu:

  • Adolygu’r ffyrdd y caiff y digwyddiadau a’r profiadau hyn eu gweld, eu dehongli a’u cynrychioli.
  • Ystyried beth allwn ni ei ddysgu o gyfnod y Rhufeiniaid i wella cymdeithas heddiw.
Rhufeiniaid
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk