Llwybrau Amgueddfa

LEGO® Build the Change: Gwarchod y Moroedd - Llwybr Oriel

Neges i bob gwyddonwr ifanc! Rydyn ni angen eich syniadau i helpu i wneud y blaned yn lle gwell!

Gallwch chi ddefnyddio'r llwybr hwn i edrych o gwmpas orielau morol yr Amgueddfa. Gallwch chi ddysgu mwy am yr anifeiliaid anhygoel sy'n byw yn ein cefnforoedd, y bygythiadau maen nhw'n eu hwynebu, a sut y gallwn ni eu helpu.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.

Y Dyniaethau

Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Llun o lwybr oriel LEGO: Build the Change