Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd

Adluniad ar ffurf paentiad o trigolion Neanderthalaidd cynnar.

Gorfant plentyn tua 9 oed.

Dant Neanderthalaidd cynnar (chwith), a llun pelydr-X (dde). Mae'r llun pelydr-X yn dangos ceudod bywyn mawr a fu'n gymorth i archaeolegwyr adnabod dannedd Pontnewydd a'u priodoli i ddynion Neanderthalaidd.

Cloddiwyd Ogof Pontnewydd gan archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru rhwng 1978 a 1995. Codwyd y mur ar draws mynedfa'r ogof yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd y câi Ogof Pontnewydd ei defnyddio fel storfa arfau.

Ogof Pontnewydd

Wrth gloddio yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych, cafodd archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru hyd i'r gweddillion dynol cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru, esgyrn yn dyddio'n ôl tua 230,000 o flynyddoedd.

Ym mherfeddion yr ogof y darganfuwyd y rhan fwyaf o'r

pedwar dant ar bymtheg a gafodd eu sgubo danddaear gan ddŵr tawdd adeg enciliad y llen iâ a orchuddiai Gymru gyfan, yn ôl pob tebyg, yn ystod Oes yr Iâ. Yn ôl arbenigwyr yn yr Amgueddfa Byd Natur, Llundain, mae'r dannedd yn nodweddiadol o ddynion Neanderthalaidd cynnar.

Neanderthalaidd cynnar

Roedd y bobl Neanderthalaidd yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol y credir iddi ddarfod tua 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Yr un oedd eu hynafiad hwy â'r rhywogaeth y perthynwn ni iddi, ond ni esblygodd yr hil ddynol bresennol o'r bobl Neanderthalaidd.

Roedd y dynion Neanderthalaidd yn gymharol fyr a byrdew a chanddynt wrymiau o dan eu haeliau, genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw.

Drwy astudio'r dannedd a ddarganfuwyd yn Ogof Pontnewydd sylweddolwyd eu bod yn cynrychioli pump o unigolion.

Dannedd Neanderthalaidd

Dengys lluniau pelydr-X o'r holl ddannedd yr un nodwedd ddiddorol, sef tawrodontiaeth - dannedd ac iddynt geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai. Mae tawrodontiaeth yn nodwedd neilltuol (ond nid unigryw) o ddannedd Neanderthalaidd, a chyffredinolrwydd y cyflwr hwn sydd wedi darbwyllo arbenigwyr mai pobl Neanderthalaidd oedd trigolion Ogof Pontnewydd ac nid bodau dynol cynharach.

Roedd

plant ifanc ac oedolion ymhlith y rhai oedd yn byw yn Ogof Pontnewydd. Y darganfyddiad mwyaf cyflawn y cafwyd hyd iddo ar y safle yw darn o orfant plentyn tua 9 oed. Yn y rhan hon o'r ên gellir gweld un dant sugno, sydd wedi'i dreulio'n arw, y drws nesaf i gilddant arhosol sydd newydd ymddangos.

Bwyd y Neanderthal

Ni chafwyd hyd i'r dannedd ar eu pennau eu hunain y tu mewn i'r ogof. Mewn cysylltiad â hwy, darganfuwyd

arfau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ag olion bwtsiera ar rai ohonynt - tystiolaeth mai'r esgyrn hyn oedd gweddillion prydau bwyd y dynion Neanderthalaidd cynnar a drigai yn yr ogof.

Ni wyddys p'un ai a gafodd y bodau dynol hyn eu claddu'n wreiddiol mewn beddau yn yr ogof. Gwaetha'r modd, mae'r grymoedd a fu'n gyfrifol am gadw'r dannedd yng nghrombil Ogof Pontnewydd wedi dinistrio unrhyw olion o'r man lle roeddent yn gorwedd yn wreiddiol.

Darllen Cefndir

Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan S. Green ac E. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991).

In search of the neanderthals: solving the puzzle of human origins gan C. Stringer a C. Gamble. Cyhoeddwyd gan Thames and Hudson (1993).

Pontnewydd Cave: a lower Palaeolithic hominid site in Wales: the first report gan H. S. Green. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984).

Neanderthals in Wales: Pontnewydd and the Elwy Valley Caves gan by Stephen Aldhouse-Green, Rick Peterson and Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Cymru a Oxbow Books (2012).

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nia Evans Staff Amgueddfa Cymru
31 Gorffennaf 2020, 09:02

Hi Zara,

Thank you for getting in touch with us. This place is called Pontnewydd Cave, and is located near St Asaph, which is a city in Denbighshire, North Wales. I hope you're enjoying the study!

Kind regards,

Nia
(Digital team)

Zara
29 Gorffennaf 2020, 18:32
We’re is this place to as I’m also reading and have a book .:) be nice to study
John Hyde
13 Mehefin 2020, 13:29
The trouble with studies of ancient humanity is that new discoveries make the picture change so rapidly. Buy a newly published book and it's out of date in five years!