Atgofion trwy grefft, gan Rachel Evans

1 Ebrill 2026

Fel artist, mae fy ngwaith yn archwilio olion hanes cymdeithasol a gedwir o fewn arteffactau domestig a thirweddau lleol. Rwy'n cael fy nenu at fanylion sy'n myfyrio ar feithrin a dyfeisgarwch, yn enwedig rhai a luniwyd gan brofiadau dyddiol menywod, sydd yn aml ar goll o hanesion swyddogol. Roedd y project hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu â chyfranogwyr, clywed straeon, ac archwilio sut mae gwrthrychau bob dydd yn dal atgofion a hanesion. 

Dechreuodd ein sesiynau yn yr ‘ystafell ddydd’ ar ward Morfa, Ysbyty Alltwen, gyda sgyrsiau am fywyd domestig y gorffennol, wedi’u sbarduno gan arteffactau o'r amgueddfa, fel crochenwaith, cyllyll a ffyrc, a thecstiliau. 
 

Baner o luniau wedi dynnu yn ystod gweithdai creadigol Ysbyty Alltwen.


Fe wnaethon ni greu darnau personol wedi'u hysbrydoli gan fywyd domestig gan ddefnyddio clai aer-sychu, gyda gweadau sy'n adlewyrchu llafur diwydiannol a llafur cartref. Drwy ddefnyddio stampiau llythrennau, roedd modd argraffu atgofion o'n trafodaethau i'r clai, gan ychwanegu haen bersonol at straeon torfol. Ychwanegwyd lliw gydag inc a graffit, neu de a choffi, wedi'i bwffio i roi naws oedrannus i’r darnau - proses a oedd yn adleisio tasgau domestig. 


Ysbrydolodd y matiau rhacs sydd yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa Lechi, ac yn symbol o ddyfeisgarwch domestig, ni i greu ein sampl gydweithredol ein hunain. Yn draddodiadol, gwnaethpwyd y matiau hyn trwy wthio stribedi rhacs trwy ddeunydd sach; fe wnaethon ni addasu'r dull er mwyn symlrwydd drwy lapio defnydd o amgylch glanhawyr pibellau, yna eu cysylltu â'u gwnïo i siâp mat rhacs bychan.

Gweithiau creadigol a gwnaed yn ngweithdai Ysbyty Alltwen.


Mae'r darnau cylch brodwaith wedi'u hysbrydoli gan flanced chwarelwr o tua 1900, wedi'i gwneud o ddarnau clytiog o frethyn llwyd wedi'u trimio â choch, i amddiffyn ei berchennog rhag amodau llym y barics. Mae ein darnau wedi'u gwnïo yn cyfuno dyfeisgarwch gwnïo a thrwsio â symbolau o'r llefydd tân cerfiedig a welir mewn rhai cymunedau chwarelyddol.


Mae'r darnau maint cerdyn post yn parhau â'r thema, yn cynnwys symbolau o'r llefydd tân, gyda thestun wedi'i dynnu o sgyrsiau ac atgofion.


Mae'r project hwn wedi bod yn ffordd wych o rannu straeon personol a chreadigrwydd, gan ddod â phobl ynghyd trwy greu gyda’n gilydd - diolch i bawb a gymerodd ran!

"Braf oedd dod at ein gilydd a dysgu sgiliau newydd" - claf o ward Morfa, Ysbyty Alltwen

Manylion cyswllt: rachelevanscelf@gmail.com

Instagram: rachelevans_artist 
 

Cynhaliwyd y gweithgareddau yma fel rhan o broject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, a ariennir gyda nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill.  
 

Gwanwyn yn Sain Ffagan

Ellen Davies, 18 Mawrth 2026

Mae’r gwanwyn yn gyfnod arbennig yn Sain Ffagan. Mae’r cennin pedr a’r crocysau yn blodeuo ac mae’r fferm yn gwch gwenyn o weithgarwch.  

O fis Chwefror i Ebrill, mae Llwyn-yr-eos yn llawn sŵn brefu wrth i’r defaid gysgodi yn y siediau wyna. Eleni, rydym yn disgwyl dros 350 o ŵyn. Mae 200 o ŵyn wedi’u geni hyd yn hyn ac mae mwy i ddod.  

Rydyn ni’n cadw tri brid prin o ddefaid yn Sain Ffagan:  

  • Llanwenog  
  • Defaid Mynydd Maesyfed
  • Defaid Mynydd Duon Cymreig

Mae cadw bridiau prin yn bwysig oherwydd eu bod yn rhan o dreftadaeth ffermio Cymru.  Gallwch dysgu mwy am y bridiau prin yn y blog hwn

Unwaith mae ŵyn yn cael eu geni, maen nhw’n cael eu marcio gyda’r un rhif a’u mam fel bod modd i’r ffermwyr wybod pa ŵyn sydd yn perthyn i bwy!  

Mae’r ŵyn a’r mamau yn cael eu symud allan o’r sied wyna i ardal dawel cyn iddyn nhw fynd allan i’r caeau. Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r mamau a’r ŵyn wrth gerdded o amgylch yr amgueddfa?  

I ddiogelu lles ein defaid, ni chaniateir cŵn ar y fferm yn ystod y tymor wyna.  

Methu ymweld â Sain Ffagan? Does dim ffrwd byw eleni ond gallwch fwynhau uchafbwyntiau’r sied dros y blynyddoedd ar ein gwefan. 

Data Tywydd ar gyfer Chwefror

Megan Naish, 11 Mawrth 2026

Helo Cyfeillion y Gwanwyn!

Gobeithio eich bod wedi cael mis Chwefror hyfryd ac wedi mwynhau parhau â'ch gwaith caled yn casglu eich data tywydd! Mae rhai ysgolion hyd yn oed wedi dechrau cofnodi eu data blodeuo, sy'n wych i'w weld.

Roedd mis Chwefror yn fis eithaf gwlyb i lawer o ardaloedd ledled y DU gyda rhai ardaloedd yn gweld mwy na chyfartaledd glawiad y mis cyfan o fewn 14 diwrnod cyntaf y mis, fel yr adroddwyd gan y Met Office. Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau rhanbarthol, gyda'r Alban ac yn enwedig gorllewin yr Alban yn nodi glawiad is na'r cyfartaledd. Roedd y tymheredd hefyd yn amrywiol, gyda'r tywydd yn oerach ar ddechrau'r mis ac yn fwynach tua'r diwedd.

Efallai bod rhai ardaloedd wedi profi ychydig o ddiwrnodau o heulwen, sy'n cael ei adlewyrchu yn rhai o'ch sylwadau, a rhai delweddau rydw i wedi'u tynnu o amgylch Sain Ffagan yn ystod y mis! Tybed a welwn ni fwy o heulwen nawr wrth i ni fynd i mewn i fis Mawrth.

Beth am i ni edrych ar eich arsylwadau ar gyfer y mis diwethaf, yn ogystal â rhai o'ch diweddariadau blodeuo!

Arsylwadau Tywydd:

Henllys Church in Wales School

It has been very rainy this week

Lammack Primary School 

Extremely windy and very cold

Henllys Church in Wales School 

It has not been as cold as it has been

Irvinestown Primary School 

We really loved all the sunny weather we had this week

Athro’r Ardd:

Diolch i chi gyd am barhau i ychwanegu'r manylion hyn yn eich sylwadau. Gallwn weld yn bendant y duedd i'r tywydd fynd yn fwynach wrth i ni ddarllen drwy linell amser y sylwadau, sy'n golygu bod ein data yn cyd-fynd ag adroddiadau tywydd eraill! 

Rwy'n cytuno ag Irvinestown Primary ynglŷn â mwynhau'r ychydig bach o heulwen rydyn ni wedi llwyddo i'w chael!

I bob ysgol nad oeddent yn gallu cymryd darlleniadau tywydd oherwydd hanner tymor, peidiwch â phoeni! – ond diolch i chi am wneud sylwadau ar hyn o dan eich uwchlwythiadau 'Dim Cofnod'.


Diweddariadau Blodeuo:

Llanmartin Primary School

Our daffodils in pots are blooming (up against the wall) and those planted in the bed and alongside the pathway in the ground are only just beginning to bloom.

Pinehurst Primary School

Our lovely daffodils opened today. They look so pretty and really brighten up our school.

We have a lovely Crocus. We love the purple colour on it.

Lammack Primary School

One of the mystery bulbs flowered on Wednesday. It is a snowdrop.

Another mystery bulb is almost flowering. It looks to be deep purple.

Leslie Primary School 

We are so Excited. Out first Crocus has flowered

We were all so excited to see the purple.

St Chrysostom's C of E Primary School

Many plants daffodils have flowered in the pots Only two have not flowered yet. Daffodils in the ground planter box have also flowered.

Mountain Lane School

A lovely week in Buckley. It was warm and sunny. We all went to check on the flowers on Friday afternoon. None of the daffodils have flowered yet but several looked ready to pop

 St Francis' Primary - Aghaderg 

The pots in the sunnier location of the school grew taller and have opened first

St Mary's CE Primary - Manchester

One daffodil has bloomed; the rest are slowly growing still.

Athro’r Ardd:

Mae'n wych clywed eich bod wedi dechrau gweld eich Cennin Pedr, Crocws a Bylbiau Dirgel yn blodeuo! Mae mor gyffrous gweld eich gwaith caled yn gweithio wrth i chi wylio'ch planhigion yn tyfu o fylbiau bach i flodau bywiog.

Mae'n hyfryd gwybod eich bod chi'n teimlo eu bod nhw'n bywiogi ardal eich ysgol, Pinehurst Primary.

Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel yn gofalu am eich blodau, Gyfeillion y Gwanwyn.

-

Y mis hwn (Mawrth) yw ein mis olaf o gasglu data am y flwyddyn hon, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn uwchlwytho popeth rydych chi wedi'i gasglu i'n gwefan erbyn y 27ain. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yn hyn.

Athro’r Ardd

Ar daith gyda Cranogwen

Norena Shopland, 6 Mawrth 2026

Wrth geisio creu darlun o fywydau pobl, yn enwedig rhai o’r gorffennol, y pethau bach sy’n aml yn dod â nhw'n fyw – broets neu docyn darlith efallai – ac mae dwy eitem yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn sicr yn gwneud hynny.

Mae'r ddwy yn perthyn i Cranogwen – enw barddol Sarah Jane Rees (1839–1916), capten llong, bardd, llenor, golygydd ac ymgyrchydd dirwest wnaeth fyw rhan fwyaf o'i hoes yn nhref fechan Llangrannog, Sir Aberteifi. Yno y cafodd hi’i geni, ac oddi yno fe deithiodd hi drwy gydol ei hoes nes dod erbyn troad yr 20fed ganrif yn un o ferched mwyaf adnabyddus Cymru. Dyma hefyd lle roedd hi’n byw gyda’i phartneriaid – Fanny Rees “Phania” (1853-1874) fu farw yn 21 oed, a Jane Thomas (1850-?) sy’n cael ei disgrfio yn y rhan fwyaf o’i datganiadau cyfrifiad fel ‘gweithiwr domestig’, ‘morwyn’ neu ‘glanhawraig’. 

Byddai Cranogwen yn aml oddi cartref, yn cyfrannu at fyrdd o brojectau ac yn darlithio, ond aeth ar ei thaith gyntaf ym 1866. Roedd hyn flwyddyn ar ôl ennill gwobr farddoniaeth yr Eisteddfod – oedd yn ddadleuol pan ddatgelwyd bod menyw wedi curo’r dynion. Felly, pan ddechreuodd ar ei theithiau roedd hi eisoes yn adnabyddus, fel y nododd un o newyddiadurwyr Y Gwladgarwr:

“Fe gofia y darllenydd mai y ferch ieuanc hon a gymerodd y wobr yn Eisteddfod Aberystwyth am y gan i'r Fodrwy Briodasol. Wedi clywed hynny, a deall hefyd bod ein beirdd blaenllaw, megys Islwyn a Ceiriog yn cystadlu, braidd nad oeddwn yn hanner credu fod rhyw 'faw yn y caws' yn rhywle.” [i]

Canolbwynt taith Cranogwen oedd ei darlith Ieuenctyd a Diwylliant eu Meddyliau, ond dyma hi’n ddiweddarach yn cynnwys dwy ddarlith arall, Anhebgorion Cymeriad da ac Elfennau Dedwyddwch – pob un yn trafod gwella cymeriad pobl. Gan ei bod hi'n darlithio yn Gymraeg, cafodd y darlithiau sylw yn y wasg Gymraeg a braidd dim sylw yn y wasg Saesneg. 

Dechreuodd Cranogwen ei thaith yn ardal Aberystwyth, felly gobeithio bod Jane wedi gallu mynd gyda hi i gynnig rhywfaint o gefnogaeth. Ond wrth i’w darlithoedd ddod yn fwy poblogaidd roedd Cranogwen yn teithio ymhellach oddi cartref, ac o fewn deufis daeth bron i fil o bobl i wrando arni yng Nghapel Brynhyfryd Abertawe – tipyn o her i unrhyw un felly gobeithio bod Jane yno i i’w chefnogi.

Lledodd y sôn amdani’n gyflym, ac fel y nododd un o newyddiadurwyr Baner ac Amserau Cymru: ‘Nid oes angen yn y byd myned i drafferthu rhoddi canmoliaeth i'r ddarlithyddes hon, o herwydd mae ei henw wedi myned eisoes yn eithaf adnabyddus bron trwy Gymru.[ii]

Roedd yn cael ei chanmol ym mhobman gan wneud i un newyddiadurwr feddwl i ddechrau na fedrai fod cystal ag yr oedd pobl yn ei ddweud: ‘a chan ein bod wedi clywed y fath ganmoliaeth iddi, yr oeddym yn dysgwyl ei bod yn dda. Ond ni ddaeth erioed un ddychymyg i galon neb o honom ei bod mor gampus ag y mae, ac mor feistrolgar ar ei gwaith.’ [iii]

Dro ar ôl tro cafodd adolygiadau gwych a tyfodd ei darlith awr yn ddwy awr a mwy wrth i bwysigion lleol ymddangos ar y llwyfan ochr yn ochr â hi, gan fynnu siarad hefyd. Heidiai beirdd lleol ati, gan ysgrifennu englynion iddi, a llawer o'r rheini'n cael eu cyhoeddi yn y papurau. Roedd merched hefyd yn dilyn ôl ei throed ac yn camu i’r llwyfan. 

Roedd hyn yn achosi pryder. 

Ddylai merched, yn enwedig ‘merched ifanc’ (roedd hi’n 27 ar y pryd) ddim darlithio, meddai’r dynion oedd yn cwyno bod merched yn siarad yn gyhoeddus ynamhriodol. ‘The inhabitants of South Wales,’ meddai'r Cardiff Times, ‘are running wild with the young ladies who are lecturing about the country [and] in the opinion of many eminent men this is going too far. At the recent meeting of the Association of the Calvinistic Methodists held at Caernarvon, the Rev. Henry Rees, and eminent minister, whose name is known through the Principality, spoke against female preachers, and stated that it would be far more becoming in those who are fond of preaching to attend to those duties which belong to their sex. We are glad that a gentleman of Mr Rees’s standing has set his face against this new mania.[iv]

‘Ai nid gartref mae lle y merched hyn?’ gofynnodd Seren Cymru 'a ydym yn barod i weled ein heglwysi yn cael eu britho, os nad yn gorlifo â merched yn darlithio.’[v]

Anwybyddodd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y cwyno, a pharhau i ganmol Cranogwen. 

Roedd y sgyrsiau fel arfer yn cychwyn am 7pm gyda thocynnau yn 6d (tua £2 heddiw). Roedd y cynulleidfaoedd yn enfawr a nifer yn nodi sut y byddai gwrandawyr yn aml yn eistedd wedi'u cyfareddu am ddwy awr yn nodio mewn cytundeb, cyn rhoi cymeradwyaeth fyddarol iddi. Nodwyd bod elw bron pob un o'i sgyrsiau yn mynd i dalu dyledion capeli. 

Parhaodd Cranogwen i deithio drwy gydol 1867 ac mae dyddiad 2 Ionawr ar y tocyn sydd yn Amgueddfa Cymru. Does dim adroddiad papur newydd ar y ddarlith ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr, ond gyda cymaint o ddarlithoedd a’r daith erbyn hyn yn flwydd oed, fyddai pob noson ddim yn cael yr sylw.

Ym 1869–1870 aeth Cranogwen ar daith i’r Unol Daleithiau gan draddodi'r un math o ddarlithoedd – byddai angen i ni archwilio’r cofnodion mewnfudo i weld a aeth Jane gyda hi. 

Parhaodd Cranogwen â’i gwaith da ar ôl dychwelyd i Gymru, ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif dechreuodd ymwneud â'r mudiad dirwest, fel llawer o wragedd amlwg eraill. Roedd meddwdod, yn enwedig ymhlith merched, yn endemig wrth iddyn nhw geisio dianc rhag eu bywydau caled, a sefydlwyd nifer o undebau i geisio mynd i’r afael â hyn gan gynnwys Undeb Merched y Rhondda, a sefydlwyd ym mis Ebrill 1901. Roedd y mudiad mor llwyddiannus fe benderfynwyd ei ehangu, a Cranogwen, fel yr Ysgrifenyddes Defnyddol gyda’i chyfeiriad yn Llangrannog, yn allweddol yn newid yr enw i Undeb Dirwestol Merched y De (UDMD). Unwaith eto, roedd Cranogwen yn teithio'n helaeth gyda'r Undeb.

Wrth gyrraedd pob tref byddai aelodau’r Undeb yn gorymdeithio drwy’r strydoedd gan gario baneri, cyn aros mewn capel i weddïo, canu emynau a darllen o'r Beibl cyn gwrando ar areithiau gan aelodau blaenllaw. Byddai siaradwyr gwadd hefyd gan gynnwys menywod adnabyddus o Gymru fyddai’n denu'r cynulleidfaoedd yn eu cannoedd. Ar ôl y digwyddiad byddai te a theisen a chyfle i gymdeithasu, arian yn cael ei gasglu, a byddai pamffledi a bathodynnau ar gael i'w prynu. Yn dechnegol, broets yw’r enghraifft yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ac nid yw’n glir ai’r broetsys hyn oedd y bathodynnau fyddai Cranogwen yn eu gwerthu.

Erbyn Rhagfyr 1901, roedd canghennau newydd o UDMD yn ymddangos ledled de Cymru ac erbyn i Cranogwen farw ym 1916 roedd 140 o ganghennau ar draws y De.

Roedd Cranogwen yn ddiflino, ac allwn ni ond rhyfeddu at ei hegni. Yn ogystal â’i holl weithredoedd da, roedd hi’n esiampl i gymaint o ferched ifanc i fod yn llenorion ac areithwyr, dim ots beth ddwedai’r dynion. 

Bu farw Cranogwen yn 1916 yn nhŷ ei nith yn Wood Street Cilfynydd, Rhondda Cynon Taf. ‘No other woman enjoyed popularity in so many public spheres'[vi] nododd y Cambrian Daily Leader. Yn anffodus, wyddon ni ddim pryd fu Jane farw, ond gobeithio y bydd y cofiant sydd i ddod gan Jane Aaron yn datgelu mwy. Prin bum mlynedd ynghynt roedd y ddwy yn dal i fyw gyda’i gilydd yn Llangrannog a thŷ yn y dref honno oedd y cyfeiriad a ddefnyddiodd Cranogwen am y rhan fwyaf o’i hoes. Waeth pa mor bell y byddai’n teithio, byddai bob amser yn mynd adref at Jane.

Cofeb i Sarah Jane Rees, Llangrannog (WikiCommons)

[i]Y Gwladgarwr, 5 Mai, 1866 

[ii]Baner ac Amserau Cymru, 14 Ebrill 1866

[iii]Cardiff Times, 5 Hydref 1866

[iv]Seren Cymru, 4 Ionawr 1867

[v]Y Tyst Dirwestol Cyf. XIII rhif. 154 - Hydref 1910

[vi]Cambrian Daily Leader, 28 Mehefin 1916

Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 

6 Mawrth 2026

Dathlu Merched sy’n Arwain: Dyma Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect yn Amgueddfa Lechi Cymru.  

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn rhoi’r llwyfan i rai o’r merched anhygoel sy’n siapio dyfodol Amgueddfa Lechi Cymru. Heddiw, rydym yn falch o gyflwyno Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer ein rhaglen ailddatblygu. 

Arwain gyda Phwrpas 

Fel Cyfarwyddwr Prosiect, mae Helen yn goruchwylio pob agwedd ar ailddatblygiad uchelgeisiol yr Amgueddfa Lechi. Ei rôl yw sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei botensial yn llawn- yn greadigol, yn ddiwylliannol ac o fudd i gymunedau ledled Cymru ac ehangach. 

Dwi’n gyfrifol am y prosiect yn ei gyfanrwydd,” meddai Helen, “a sicrhau ei fod yn cyflawni ei uchelgais.”  

Taith drwy Dreftadaeth 

Cyn ymuno â’r amgueddfa, bu Helen yn gweithio fel archeolegydd ac archeolegydd cymunedol. Treuliodd lawer o’i gyrfa gynnar yn Ynysoedd hardd y Gogledd a’r Gorllewin yn yr Alban, gan weithio’n agos ag ynyswyr ar brosiectau treftadaeth a chymunedol. 

Symudodd Helen i Gymru yn 2011 - gyda’r nod o ddysgu Cymraeg - a chafodd ei chymhwyso’n weithwyr amgueddfeydd wrth weithio i Gyngor Sir Conwy. 

Merched sy’n Arwain y Ffordd 

Mae Helen yn angerddol dros weld mwy o ferched yn camu i mewn i sectorau sydd yn hanesyddol yn cael eu harwain gan ddynion. Er bod cynrychiolaeth dda o ferched ym maes treftadaeth, mae’r sector adeiladu angen dal i fyny. Ond yma yn yr Amgueddfa Lechi, mae’r darlun yn newid. 

“Mae gennym nifer o ferched mewn rolau arweinyddiaeth yma,” meddai.  

“Ein Pennaeth Safle, Elen; y Rheolwr Datblygu Arddangosfeydd, Ulli; ein Curadur, Cadi; a’n Penaethiaid Prosiectau Cyfalaf, Julie a Diane. Maent i gyd yn ferched eithriadol.” 

Ei chyngor i ferched sy’n dymuno dilyn llwybrau tebyg? 

Arwain o’r galon. Ti ddim angen ymddwyn mewn ffordd wrywaidd i arwain. Mae’n iawn i ddangos emosiwn, i gydweithio, ac ymddiried yn dy dîm”. 

Bywyd y Tu Allan i’r Amgueddfa 

Tu hwnt i’r Amgueddfa Lechi, mae gan Helen nifer o straeon annisgwyl - gan gynnwys un bennod gofiadwy yn ei bywyd: 

“Nes i weithio ar gwch pysgota yn Ynysoedd Heibridiau unwaith!” 

Ysbrydoliaeth gan Ddynes Gryf 

Mae Helen yn nodi ei mam fel un o’i dylanwadau mwyaf: 
Daeth fy mam o deulu o 10 o blant yn byw mewn tlodi gwledig, ond gwnaeth hi greu ei llwybr ei hun. Nath hi fyth roi’r gorau i’r freuddwyd o helpu pobl, ac aeth ymlaen i ddod yn Nyrs Ymarferydd tuag at ddiwedd ei gyrfa.” 

Diolch am rannu, Helen, mi wyt yn ysbrydoliaeth ac yn arweinydd bendigedig