Gemau a Chrisialau o Gymru
Mae mwynau wedi chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru ers yr
Oes Efydd. Byth oddi ar y cyfnod hynafol hwnnw, mae brigiadau mwynol a mwyngloddiau wedi cael eu gweithio ledled Cymru, gan y Rhufeiniaid, mynachod Sistersaidd, cymeriadau enwog byd mwyngloddio'r ail ganrif ar bymtheg megis Thomas Bushell, ac yna ymlaen hyd oes aur y diwydiant mwyngloddio metelau yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan aed ati i agor siafftiau neu fwyngloddiau ar frigiad bron pob gwythïen a ffawt y wlad.Ar hyn o bryd mae oddeutu 4,900 o wahanol fathau o fwynau yn cael eu cydnabod yn fyd-eang, ac mae presenoldeb 430 ohonynt wedi'i gadarnhau yng Nghymru.
Yma, cyflwynir detholiad o ddelweddau o fwynau a gedwir yn storfeydd Amgueddfa Cymru, gan ganolbwyntio ar rai o'r enghreifftiau mwyaf lliwgar yn y casgliadau.
Gemau a Chrisialau
Crisial o fflworsbar (17 mm x 12 mm) ac ynddo gylchfâu o liw, o Ferthyr Tudful. Fflworsbar yw un o'r mwynau cyntaf i'w gyfnodi yng Nghymru. Llun: M.P. Cooper.
Crisial byrddol, glas o anatas o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Llun: D.I. Green.
Clwstwr o grisialau prismatig linarit (1.5 mm yw hyd y mwyaf). Mwynglawdd Dolwen, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper.
Clwstwr o grisialau asurfaen, o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green.
Crisialau asurfaen ar eu traed eu hunain ar galsit tyllog. Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green.
Calcanthit o lefel 16 gwrhyd, Gwythïen Carreg-y-doll, Mynydd Parys. Mae crisialau naturiol yn brin iawn, er bod modd cynhyrchu rhai artiffisial yn ddidrafferth. Llun: D.I. Green.
Crisialau llafnog o wroewolffeit, hyd at 1 mm o hyd, o Fwynglawdd Eaglebrook.
Crisialau langit (hyd at 1 mm o hyd) o lefel-brawf gopr Lodge Park, ger Tre'r-ddôl, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper.
Clystyrau rheiddiol o'r mwyn tyrolit, ynghyd ag asurfaen, mewn calchfaen. Chwarel Dôl-hir. Llun: D.I. Green.
Casgliadau sfferaidd mân iawn o schmiederit o Fwynglawdd Llechweddhelyg, Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Maes gwelediad 3 mm o led. Llun: D.I. Green.
Rhosglymau o serpierit (hyd at 5 mm o hyd) o Fwynglawdd Ystrad Einion ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper.
Crisialau hirfain, tebyg i nodwyddau bach, o awricalsit o Chwarel Machen.
Crisialau byrddol o'r mwyn botallakit o Gwm Nedd, de Cymru. Llun: T.F. Cotterell.
Clwstwr o grisialau defilin (hyd at 0.75 mm ar draws) o gyffiniau'r Bont-ddu, Gwynedd. Llun: M.P. Cooper.
Microgrisialau llafnog, gwyrddloyw golau o lawtenthalit, o Fwynglawdd Eaglebrook. © D.I. Green.
Clwstwr cywrain o grisialau redgilit o Fwynglawdd Eaglebrook. Llun: D.I. Green.
Crisialau brochantit ar ffurf dici-bô, o Fwynglawdd Eaglebrook. Llun: D.I. Green.
Crisialau ramsbeckit (1.5 mm) o Fwynglawdd Pen-rhiw. Llun: D.I. Green.
Clystyrau o redgilit ynghyd â brochantit, o Fwynglawdd Eaglebrook. Llun: D.I. Green.
Crisialau llafnog o'r mwyn brochantit (hyd at 0.5 mm ar draws) o lefel-brawf gopr Lodge Park ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper.
Haen werdd o ddeunydd anhysbys ar nodwyddau o'r mwyn milerit, o Fwynglawdd Wyndham Deep. Arferid credu mai morenosit ydoedd ond mae dadansoddiad pelydr-X diweddarach, a wnaed gan Amgueddfa Cymru, wedi methu cadarnhau hynny. Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu mai nicelhecsahydrit yw'r haen werdd. Llun: M.P. Cooper.
Crisialau prismatig, gloyw o epidot o Fae Marloes, Sir Benfro. Llun: D.I. Green.
Blociau o grisialau enargit ar fflworsbar, o Fynydd Helygain, Sir y Fflint. Llun: T.F. Cotterell.
Barytocalsit o Fwynglawdd Mwyndy, Llantrisant. Llun: M.P. Cooper.
Crisial melynllwyd, chweochrog, 2.5 mm o hyd o ewaldit o Chwarel Dôl-hir. Mae ewaldit yn fwyn prin iawn. © D.I. Green.
Pyrit — crisial ciwbig rhychedig, clasurol (10 mm x 12 mm) mewn llechfaen Cambriaidd o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, Gwynedd.
Crisialau maen tân (marcasit) ar ffurf olwynion cocos hyd at 10 mm ar draws, o Fwynglawdd Gwynfynydd ym Maes Aur Dolgellau.
Crisial melyn o risial trwm (barytes), Mwynglawdd Mwyndy, Llantrisant. Llun: M.P. Cooper.
Nodwyddau o goethit, hyd at 4 mm o hyd, o Faes Aur Dolgellau. Llun: M.P. Cooper.
Goethit rheiddiol o Fwynglawdd Mwyndy, Llantrisant, Morgannwg Ganol. Llun: M.P. Cooper.
Crisial oren (1 mm) o'r mwyn monasit yn gysylltiedig â chwarts, o Fronoleu, ger Pren-teg, Gwynedd. Llun: M.P. Cooper.
Crisialau melyn, prismatig o risial trwm (barytes) (hyd at 7 mm o hyd) o Dŷ Peiriant Llwyn-saer, Mwynglawdd Mwyndy. Llun: M.P. Cooper.
Crisialau plwm melyn (wlffenit) (hyd at 1 mm o hyd) o Fwynglawdd Elgar. Llun: D.I. Green.
Plwm melyn (wlffenit) byrddol ar hemimorffit, o Fwynglawdd Bwlchrhennaid. Llun: M.P. Cooper.
Crisial byrddol mawr o blwm melyn (wlffenit) (5 mm yw hyd yr ymyl) o Fwynglawdd Llechweddhelyg, Ceredigion.
Cnepyn dŵr-dreuliedig o aur yn pwyso 6.5 g ac yn 20 mm o hyd. Fe'i darganfuwyd yng ngwely afon Eden yn 2001 yn dilyn fflachlifau enbyd. Mae cnepynnau o'r maint hwn yn hynod brin yng Nghymru. © J.S. Mason.
Rhosglwm o syncysit (2 mm ar draws), wedi'i trawsnewid yn rhannol, o Chwarel Gloddfa Ganol, Gwynedd. Llun: T.F. Cotterell.
Wafelit prismatig, gwydrog ynghyd â chacocsenit sfferaidd, o draeth Pwll-du, Bro Gŵyr. Llun: D.I. Green.
Crisialau gefeilliog anarferol o siderit yn gysylltiedig â sffalerit (brown; canol dde) a milerit (nodwyddau pŵl), o Bwll Glo Wyndham.
Calcopyrit tetrahedrol (crisialau hyd at 0.5 mm ar draws), Pwll Glo Caerau, Maesteg. Calcopyrit yw prif fwyn copr. Llun: M.P. Cooper.
Crisial byrddol o'r mwyn brwcit, o Fronoleu, Pren-teg. Mae'r crisial yn 20 mm o hyd. Llun: M.P. Cooper.
Crisialau di-liw, prismatig a lluniaidd o hemimorffit mewn ceudod mewn gwythïen o risial trwm (barytes). Chwarel Machen.
Crisialau deubyramidaidd, brown cochlyd o anatas (hyd at 1.5 mm o ran maint) o Chwarel Hendre, Glyn Ceiriog. © M.P. Cooper.
Brwcit byrddol (2.5 mm ar draws) ac anatas, o Chwarel Hendre. © M.P. Cooper.
Crisialau ciwbig o'r mwyn cwprit (hyd at 0.2 mm sgwâr), o lefel-brawf gopr Lodge Park, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper.
Santhoconit o Chwarel Dôl-hir. Llun: D.I. Green, © D.I. Green.
Crisial gemog coch o'r mwyn proustit (1 mm o hyd) o Chwarel Dôl-hir, Pencraig, Maesyfed. Mae proustit yn un o fwynau prinnaf Cymru ac mae galw mawr amdano ymhlith casglwyr. © D.I. Green.
Cramen o erythrit ar gwarts o Faes Aur Dolgellau. Llun: D.I. Green.
Crisialau wythochrog o'r mwyn cwprit (hyd at 0.09 mm ar draws), o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green.
Microgrisialau disglair, pinc o erythrit o Fwynglawdd Clogau. Mae erythrit, a gâi ei alw'n 'fflŵr cobalt' gan fwynwyr, yn fwyn amlwg iawn, oherwydd ei liw pinc llachar. Llun: M.P. Cooper.
Crisial di-liw o gwarts, Penmaendewi. Llun: D.I. Green.
Crisial ciwbo-wythochrog o siegenit (1.5 mm ar draws) ar siderit. Pwll Glo'r Gelli, Morgannwg Ganol. Llun: M.P. Cooper.
Crisial prismatig o syncysit, ynghyd ag anatas a rhyw fymryn o senotim. Chwarel Cwmorthin, Gwynedd. Llun: D.I. Green.
Crisialau gemog, di-liw o'r mwyn ceriwsit (1—2 mm ar draws), o Fwynglawdd Rhyd Fach, ym Maes Mwynol Canolbarth Cymru. Llun: M.P. Cooper.
Crisial byrddol o risial trwm (barytes), maes glo de Cymru. Llun: M.P. Cooper.
Clwstwr o'r mwyn milerit (25 mm o hyd) ar siderit o faes glo de Cymru. Mae milerit yn haeddu cael ei gydnabod yn un o fwynau enwocaf Cymru, dyfarniad y mae'n ei rannu ag aur, brwcit ac anglesit. Llun: M.P. Cooper.
Senotim prismatig, lliw hufen, yn gysylltiedig ag anatas deubyramidaidd, o Flaenau Ffestiniog. Llun: D.I. Green.
Electronmicrograff sganio o glystyrau dici-bô o agardit-(Y). Hyd y gwyddom, mae agardit-(Y) i'w cael ar dri safle yn unig yn y Deyrnas Unedig — un yng Nghymru, sef Mwynglawdd Gwaith-yr-afon yn y canolbarth, a dau yng Nghernyw.
Delwedd electronmicrograff sganio, modd ôl-wasgaru, o grisial cymhleth o albit, ynghyd ag anatas (llwyd golau; chwith, pen uchaf), Chwarel Gloddfa Ganol, Blaenau Ffestiniog.
Electronmicrograff sganio o grisial deubyradmidaidd o anatas (0.5 mm), Chwarel Cwmorthin, Blaenau Ffestiniog.
Electronmicrograff sganio o ddarn bach o grisialau blociog arsentsumebit o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green.
Electronmicrograff sganio o grisial unigol o'r mwyn beudantit o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green.
Electronmicrograff sganio o grisial o ewaldit, yn dangos patrymau tyfu grisiog, o Chwarel Dôl-hir. Mae ewaldit yn fwyn hynod brin sydd, hyd yma, ond wedi'i gofnodi ar dri safle arall yn y byd.
Electronmicrograff sganio o glwstwr o grisialau harmotom, o Chwarel Dôl-hir.
Electronmicrograff sganio o grisialau hynod brin mattheddleit. Dim ond mewn ambell fan yng Nghymru y ceir crisialau o fattheddleit, a'r rheiny ar ffurf microsgopig.
Electronmicrograff sganio o grisial lluniaidd o realgar, o Chwarel Dôl-hir. © D.I. Green.
Electronmicrograff sganio o grisialau haenaidd o syncysit-(Ce), o Chwarel Dôl-hir, ger Pencraig, Maesyfed. Delwedd: T.F. Cotterell.
Electronmicrograff sganio o grisialau perffaith o senotim-(Y), llai na milimetr o ran eu maint ac ar lun Colofn Cleopatra, o Chwarel Cwmorthin ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd.
Mae abhurit i'w gael dim ond ar ingotau tun mewn llongddrylliadau. Fe'i crëir gan adwaith cemegol rhwng tun a'r ïonau clorid sydd i'w cael mewn dŵr môr. Dengys yr electronmicrograff sganio yma y crisialau haenaidd o abhurit y cafwyd hyd iddynt ar ingotau tun a achubwyd o'r llong hwyliau
Electronmicrograff sganio o grisial o byrit. Mae pyrit i'w gael mewn amryw o wahanol amgylchiadau daearegol, gan gynnwys creigiau gwaddod, igneaidd a metamorffig o bob oes.
Electronmicrograff sganio o grisial pyramidaidd alstonit (y crisial mwyaf) ynghyd â chrisialau pennau dwbl, llai o'r mwyn paralstonit, o Chwarel Dôl-hir.
sylw - (36)
Kindest regards Julie
just wondering who would be the best person to contact to take a look at it the stone is approximately 50mm x 50mm and looks very unique thanks for your time
Thanks for your time,
Rose
I am going to start a venture soon to hunt for crystals I'm the North wales Region is there is prospective locations you would suggest to look into or recommend please
I have found what I believe is an Amethyst Crystal on a bridal path in Saundersfoot, Pembrokeshire.
I maybe wrong but I didn’t think Amethyst existed naturally in Wales??
Please Help.
Dear Sue Tansley,
Thank you very much for contacting us about your find. Our Curator of Petrology will get in touch with you, via the email address you have provided.
Best wishes,
Marc
Digital Team
Many thanks
Lewis