Planhigion Goresgynnol

Sophie Hocking, 15 Mehefin 2026

Mae cadw golwg ar blanhigion sy’n cael eu cyflwyno a lledaeniad planhigion goresgynnol, a gwybod sut i adnabod y rhywogaethau hyn, yn bwysig er mwyn gwarchod ein hecosystemau – ac mae hyn yn rhan o waith Llysieufa Genedlaethol Cymru... 

Ydych chi wedi clywed y term rhywogaeth “oresgynnol”?

Wrth i deithio rhyngwladol ddod yn haws ac yn fwy hygyrch dros amser, rydym wedi gallu symud planhigion, anifeiliaid, ffyngau ac algâu yn haws o amgylch y byd. Weithiau mae hyn yn digwydd yn fwriadol – er enghraifft, mewnforio planhigion tlws i’w tyfu mewn gerddi – ac weithiau’n ddamweiniol, fel rhywogaethau morol sy’n cael eu codi yn nŵr balast llongau cargo. Gallwch ddysgu mwy am rywogaethau goresgynnol a goresgynwyr morol yma.

Rhywogaethau estron neu rywogaethau goresgynnol...

Mae nifer y rhywogaethau sydd wedi cael eu cyflwyno o’u hamgylchedd brodorol (lle roedden nhw’n bodoli’n wreiddiol) i leoliadau newydd wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd. Gelwir rhywogaethau sydd wedi cael eu cludo i ardal na allent fod wedi’i gwladychu ar eu pennau eu hunain yn “rhywogaethau estron”.

Er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddiniwed, mae 10-15% o rywogaethau estron yn ffynnu yn y cynefinoedd lle cawsant eu cyflwyno – maen nhw’n lledaenu ac yn achosi effeithiau negyddol ar ein bioamrywiaeth a’n hecosystemau brodorol. Gelwir y rhain yn “rhywogaethau goresgynnol”, a gallant gael sgil-effeithiau difrifol ar ein hiechyd, yr hinsawdd a’n heconomi.

Pam mae planhigion yn bwysig?

Rydym yn aml yn anghofio ein bod yn rhyngweithio â phlanhigion bob dydd. Mae’r gwahanol gynefinoedd sydd i’w cael yng ngwledydd Prydain yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau sydd wedi addasu’n benodol ar eu cyfer, ac mae planhigion yn sail i lawer o’r cynefinoedd hyn. Mae planhigion yn ffynonellau bwyd i amrywiaeth enfawr o organebau (gan gynnwys ni!); maen nhw hefyd yn dylanwadu ar ein hamgylchedd ffisegol, er enghraifft lleihau’r risg o lifogydd drwy sefydlogi glannau afonydd a storio dŵr. Mae rhai rhywogaethau o blanhigion yn arbennig am eu bod yn brin ac ond yn tyfu ar Ynysoedd Prydain. Fodd bynnag, mae ein fflora yn newid; mae gennym fwy o rywogaethau estron na rhywogaethau brodorol o blanhigion ym Mhrydain erbyn hyn!

Planhigion goresgynnol – sut maen nhw’n cyrraedd yma a beth yw’r broblem?

Yng ngwledydd Prydain, mae 36 o rywogaethau planhigion sy’n destun pryder arbennig, ond mae yna fwy o rywogaethau sy’n cael eu hystyried yn rhai goresgynnol ac mae deddfwriaeth arbennig ynghylch sut y gellir eu trin er mwyn rheoli eu lledaeniad. Yn bennaf, mae’r rhywogaethau hyn wedi cyrraedd gwledydd Prydain drwy arddwriaeth, ond yn llai cyffredin, mae planhigion goresgynnol yn cyrraedd drwy gael eu cario mewn deunyddiau sydd wedi’u mewnforio neu ym malast llongau.

Garddwriaeth

Mae llawer o rywogaethau wedi cael eu mewnforio fel planhigion addurnol oherwydd eu bod yn brydferth ac yn cael eu hystyried fel planhigion da mewn gardd – roedd hyn yn arbennig o gyffredin yn y cyfnod Fictoraidd, cyn i ni wybod llawer am risgiau cyflwyno rhywogaethau estron i diroedd newydd!

Mae Clymog Japan yn enghraifft berffaith. Cafodd y rhywogaeth hon ei chyflwyno i Brydain yn y 1800au, cyn cael ei lluosogi a dod yn blanhigyn gardd egsotig poblogaidd. Fodd bynnag, mae cofnodion o’r planhigyn yn dianc o erddi mor gynnar â 1907 ym Morgannwg, a hyd heddiw, mae Clymog Japan yn blanhigyn sy’n peri llawer o broblemau yn y de. Mae tystiolaeth yn dangos bod pob planhigyn Clymog Japan (Reynoutria japonica amr. japonica) sy’n tyfu ym Mhrydain wedi tarddu o un planhigyn benywaidd a gyflwynwyd flynyddoedd lawer yn ôl! Mae’r planhigyn hwn yn tyfu ar hyd ochrau ffyrdd, glannau afonydd, rheilffyrdd, coetiroedd a glaswelltiroedd, lle mae’n lledaenu drwy risomau tanddaearol dwfn (coesynnau tanddaearol sy’n cynhyrchu egin newydd) ac yn lleihau bioamrywiaeth yn ddifrifol. Mae tua £1.7 miliwn yn cael ei wario yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn er mwyn ceisio rheoli Clymog Japan a lliniaru difrod y planhigyn!

Clymog Japan yn tyfu yn De Cymru.

Clymog Japan yn tyfu yn De Cymru.

Sbesimen o glymog Japan yn Llysieufa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Cymru)

Sbesimen o glymog Japan yn Llysieufa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Cymru), a gasglwyd o Sain Ffagan.

Cafodd Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) hefyd ei gyflwyno fel planhigyn addurnol o’r Himalayas ym 1839. Heddiw, mae’n tyfu ar hyd glannau afonydd, mewn coetiroedd ac ar hyd ffyrdd. Mae ganddo godennau hadau ffrwydrol sy’n caniatáu iddo ledaenu dros bellteroedd mawr. Er bod y blodau’n brydferth, mae’n cystadlu â rhywogaethau brodorol, gan leihau bioamrywiaeth. Mae ganddo hefyd systemau gwreiddiau bas sy’n gallu gwaethygu erydiad glannau afonydd, sydd yn ei dro yn lleihau ansawdd dŵr ac yn cynyddu’r perygl o lifogydd. Yn ôl astudiaeth gan fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Amy Wyatt, ers 1865 mae planhigyn Jac y Neidiwr wedi esblygu i addasu’n well i’w amgylchedd newydd.

Sbesimen o Jac y Neidiwr.

Sbesimen o Jac y Neidiwr.

Deunyddiau halogedig sydd wedi’u mewnforio

Llwyddodd y planhigyn Pirri-pirri (Acaena novae-zelandiae) i gyrraedd Prydain o dde-ddwyrain Awstralia a Seland Newydd wrth gael ei gludo ar wlân a gafodd ei fewnforio. Mae ganddo hadau bachog sy’n gallu glynu’n hawdd wrth ffwr a dillad. Fel llawer o blanhigion goresgynnol, gall y rhywogaeth hon gystadlu â’n planhigion brodorol a ffurfio clystyrau trwchus sy’n lleihau bioamrywiaeth.

Enghraifft o flodyn burr Pirri-pirri, yn dangos bachau/pigau sy'n caniatáu i hadau ledaenu trwy lynu wrth ffwr a dillad.

Enghraifft o flodyn burr Pirri-pirri, yn dangos bachau/pigau sy'n caniatáu i hadau ledaenu trwy lynu wrth ffwr a dillad.

Sbesimen o blanhigyn Pirri-pirri.

Sbesimen o blanhigyn Pirri-pirri.

Mae’r planhigyn Ambrosia (Ambrosia artemisifolia) yn frodorol i Ogledd America a chredir iddo gyrraedd Prydain mewn hadau adar, pridd garddwriaethol a phridd a ddefnyddir i sadio llongau. Mae ei baill yn alergenig iawn a gall achosi clefyd y gwair.

Mwsogl goresgynnol yw Serennog y Waun (Campylopus introflexus) a chredir iddo darddu yn hemisffer y De ac iddo gael ei gyflwyno gyda chynnyrch a gludwyd gan longau. Mae hefyd yn cael ei alw’n Fwsogl y Tanciau, oherwydd credir iddo gael ei ledaenu gan danciau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n wladychwr arbenigol ar dir noeth asidig, fel tir tomenni glo, ac mae bellach yn gyffredin yng Nghymru lle mae’n bygwth y cynefinoedd cyfoethog hyn o fywyd gwyllt.

Serennog y Waun yn tyfu yn Pendyrus.

Serennog y Waun yn tyfu yn Pendyrus.

Yn ddiweddar, mae ffwng newydd (Bryoscyphus granulosus) wedi’i ddarganfod sy’n heintio Serennog y Waun a mwsoglau tebyg. Mae’r ffwng yn achosi i’r mwsogl farw a ffurfio clytiau marw sy’n ehangu allan, fel cylch tylwyth teg. Mae sbesimenau o’r ffwng hwn wedi cael eu rhoi i’r amgueddfa yn ddiweddar gan y cyn-guradur George Greiff. Mae’r rhain yn cynnwys yr ‘holoteip’, y sbesimen gwreiddiol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r ffwng fel un newydd i wyddoniaeth. Mae gan y parasit ffwngaidd hwn bwysigrwydd ecolegol sylweddol, ac o bosib mae ganddo’r potensial i reoli mwsogl goresgynnol a all achosi niwed sylweddol.

Sut rydym yn gweithio ar blanhigion goresgynnol yn Amgueddfa Cymru

Mae Llysieufa Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cynnwys dros dri chwarter miliwn o sbesimenau planhigion, sy’n cynrychioli tua 300 mlynedd o waith yn casglu a chwmpasu bron pob rhywogaeth yng Nghymru. Mae’r llysieufa yn drysorfa o wybodaeth sy’n gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer adnabod planhigion, gwybod ble mae rhywogaethau i’w cael, a sut mae planhigion estron a goresgynnol yn lledaenu ar draws Ynysoedd Prydain. Gallwch ddysgu mwy am beth yw llysieufa a sut rydym yn cadw sbesimenau planhigion yma. Mae’r tîm Botaneg yn gweithio’n galed i ofalu am y casgliadau hyn o sbesimenau a’u datblygu er budd pawb, ac i gefnogi ymchwil barhaus i amrywiaeth newidiol ein hecosystemau. Rydym yn rhan fach o dîm Gwyddorau Naturiol Amgueddfa Cymru, sy’n cynnwys curaduron sy’n gofalu am y casgliadau hanes natur. Mae rhai ohonom yn arbenigo mewn tacsonomeg rhywogaethau (enwi a dosbarthu rhywogaethau) ac ecoleg; mae rhai ohonom yn ymchwilio i rywogaethau estron a goresgynnol er mwyn i ni allu deall eu lledaeniad a’u heffaith.

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Mae yna lawer o ffyrdd o helpu i atal lledaeniad planhigion goresgynnol. Mae rhagor o wybodaeth yma. Gallwch chi helpu i atal goresgynwyr yn y dyfodol drwy gadw llygad ar y planhigion yn eich gardd a rhybuddio eraill am rywogaethau a allai neidio dros wal yr ardd. Mae yna hefyd ffyrdd o atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol mewn dŵr ac o amgylch dŵr – dysgwch fwy yma.

Gwen John: Eicon Cwiar Cymreig?

Helena Anderson, 9 Mehefin 2026

Yn ddiweddar mae Gwen John wedi adennill ei lle fel un o eiconau ciwar Cymru. Doedd rhywioldeb Gwen byth yn gyfrinach (fe soniodd ei brawd, Augusutus, ei bod hi'n cael ei thynnu at ddynion a menywod yn ei ragair i gatalog yr Arddangosfa Goffa yn 1946, ac mae'n codi yn y tri bywgraffiad ohoni), ond mae'r diddordeb newydd yn ein hannog i ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei gwaith a sut fyddai hi'n gweld y byd. Sut mae rhywedd a rhywioldeb yn newid sut fyddwn ni'n dehongli dewis artist o destun ac arddull, a sut fyddan nhw'n darlunio'r byd?

Cafodd Gwen berthynas ramantus a rhywiol gyda dynion a menywod drwy gydol ei hoes. Yn ei hunangofiant fe soniodd Augustus sut y cafodd hi ei chroesi mewn cariad gan gyd-fyfyrwraig yn Ysgol Gelf Slade, wnaeth arwain at ddrama a Gwen yn ei heiddigedd yn mynnu bod y ferch yn gorffen ei charwriaeth gyda dyn priod. Awgrymodd Susan Chitty, awdur y bywgraffiad cyntaf ohoni, taw Grace Westray oedd hon – cyd-fyfyrwraig oedd yn rhannu fflat gyda Gwen ac Augustus am gyfnod. ⁠Efallai taw hi yw'r fenyw ifanc yn y blaendir yn Portread Grŵp – un o'r gweithiau prin sy'n bodoli o ddyddiau coleg Gwen. Drwy'r ffenest fe welwn ni ddau ffigwr arall, sef Gwen a'r artist Ambrose McEvoy o bosib (cariad arall). Mae'r portread grŵp yn dangos y cwlwm cymhleth o gariad, cyfeillgarwch a theulu oedd yn nodwedd o fywyd coleg Gwen. Roedd y fflat roedd y myfyrwyr yn ei rannu ar 21 Fitzroy Street yn bair creadigol wnaeth sbarduno ei datblygiad artistig, ac yn hafan ddiogel iddi arbrofi a darganfod ei rhywedd.

Gwen John, Portread Grŵp, 1897

Gwen John, Portread Grŵp, 1897. Casgliad Celf UCL – i'w weld ar hyn o bryd yn Gwen John: ⁠Hardd a Hynod

Patrwm tebyg welwn ni yn nifer o'i pherthnasau: atyniad cryf a theimladau dwys yn gorlifo'n ddefosiwn llethol gan Gwen. Yn fuan ar ôl symud i Baris yn 1904 dyma hi'n cyfarfod y cerflunydd Auguste Rodin. Cyn hir roedd hi'n hoff fodel iddo, a datblygodd perthynas ramantus. Mae'r berthynas wedi'i chofnodi yn y cannoedd o lythyrau anfonodd hi ato, ac sydd bellach yn archifau'r Musée Rodin. Mae nifer yn llythyrau caru sy'n trafod rhyw a chwant yn agored (gan gynnwys atyniad at fenywod) a rhai hefyd yn sôn am ei gwaith modelu dydd-i-ddydd i artistiaid eraill. Roedd nifer o'r rhain yn fenywod cwiar, fel Ottilie Roederstein, Ida Gerhardi, Anna Wood Brown, a Hilda Flodin – pob un yn gleientiaid a ffrindiau am flynyddoedd. Dyw hi ddim yn glir os fyddai Gwen byth yn mynychu'r caffis a'r salons oedd yn ganolbwynt i fyd artistig, Saffig y menywod hyn, ond byddai hi'n bendant yn cylchdroi yn yr un cylchoedd.

Ac fel nifer o'r menywod y byddai hi'n cydweithio â nhw, roedd rhentu lle ei hun yn hanfodol i'w byd personol a phroffesiynol. Yr apartment dan y distiau a welwn ni yn Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis oedd ei chartref a'i stiwdio. Mae'r hanesydd Alicia Foster wedi dangos sut oedd ystafell ei hun yn allweddol i'w gwaith fel artist, ond fel menyw ddibriod, roedd hefyd yn lle diogel i wahodd ffrindiau a chariadon. Mewn oes pan allai cerdded y strydoedd heb gwmni ddenu sylw digroeso, roedd gallu rhentu lle bach, preifat yn rhoi rhyddid personol, rhywiol, cymdeithasol ac economaidd. Pa ryfedd fod ystafelloedd Gwen yn ymddangos mor aml, ac mor aml yn destun ei gwaith? I fenyw ac artist cwiar, sengl, roedd lle fel hyn yn hafan a bywoliaeth.

Gwen John, Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis, 1907-9

Gwen John, Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis, 1907-9, NMW A 3397

Ddiwedd 1926 dyma Gwen yn cyfarfod yr athronwyr Pabyddol enwog Jacques Maritain, oedd yn byw ym Meudon gyda'i wraig Raissa a'i chwaer yng-nghyfraith Véra Oumançoff. Buan y datblygodd Gwen deimladau dwys at Vera, ddaeth yn gyfaill mynwesol ac arweinydd ysbrydol iddi. Byddai'r ddwy yn siarad yn aml ar ôl yr offeren yn yr eglwys, ac yn cerdded yn y goedwig gyda'i gilydd. Datblygodd agosatrwydd Gwen yn deimladau rhamantus, ond mae'n debyg nad oedd Véra'n teimlo'r un fath. Mae sawl drafft o lythyrau angerddol at Véra ymhlith papurau Gwen John yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn y llythyrau mae Gwen yn plethu myfyrdodau crefyddol a defosiwn rhamantus, gan ofyn i Dduw sut i garu Véra, a gofyn am gael cusanu ei dwylo. Cafodd Véra ei llethu gan yr holl sylw, a gofynnodd i Gwen beidio â llythyru ac ymweld fwy nag unwaith yr wythnos. Fe wnaeth Gwen hynny, ond yn ogystal â llythyrau, dechreuodd ddod â darluniau o'r enw dessins de lundi (darluniau dydd Llun) yn anrhegion gyda hi ar ei hymweliadau. Bob wythnos am bron i ddwy flynedd fe gyflwynodd Gwen ddarlun neu ddyfrllun i Véra, yn gymysgedd o weithiau unigryw a fersiynau o syniadau cynharach. Mae'r testunau, yr arddull, a'r cyfrwng yn amrywio'n fawr. Byddai'n cyflwyno rhai wedi'u glynu ar bapur lliw, gyda'r teitl a'r dyddiad ar y cefn. Dyma sut ydyn ni'n gwybod teitlau cymaint o waith Gwen ar bapur (fel Mademoiselle Pouvereau a Souvenir du Dimanche des Rameaux⁠).

 Gwen John, Mademoiselle Pouvereau

Gwen John, Mademoiselle Pouvereau, NMW A 3607

Fe gadwodd Véra'r darluniau hyn ymhell ar ôl i'r berthynas orffen, hyd yn oed ar ôl iddi ffoi i'r UDA yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd dros gan dessins de lundi eu hailddarganfod yn archif y teulu Maritain yn y 1960au, ac mae nifer o'r gweithiau sydd nawr yng nghasgliad stiwdio Amgueddfa Cymru yn fersiynau o'r dessins de lundi a roddodd Gwen yn anrheg. Wrth edrych o'r newydd ar y rhain o safbwynt rhywioldeb Gwen, maen nhw'n amlwg yn fwy nag astudiaethau o gyfansoddiad ac arlliw. Maen nhw'n arwydd o gariad mynwesol yn deillio o gyd-addoli a chyd-weddïo, ac oherwydd taw unwaith yr wythnos y gallai Gwen gysylltu â Véra daeth y darluniau yn fodd ychwanegol o ddangos ei chariad. ⁠Lluniau dydd Llun yn lle llythyrau.

Un o'r delweddau wnaeth Gwen eu hanfon fel dessins de lundi oedd darlun o Santes Thérèse o Lisieux (1873-1897). Lleian gyfoes o Ffrainc oedd hon, wnaeth farw'n ifanc a chael ei dyrchafu'n sant cyn gynted â phosib. Roedd hi'n un o'r seintiau cyntaf i ymddangos mewn ffotograff, a defnyddiwyd hyn gan y cwfaint i gynhyrchu eiconau ohoni a sbarduno'r ymgyrch i'w dyrchafu. Fe gyhoeddodd y cwfaint yn Lisieux lyfrau, cardiau gweddi, a chofroddion gyda llun Thérèse. ⁠Fel artist wnaeth droi at y ffydd Babyddol, cafodd Gwen ei chyfareddu gan y ffotograffau hyn oedd yn dangos am y tro cyntaf wir wyneb sant, yn hytrach nag eicon delfrydol wedi'i gynhyrchu ganrifoedd ar ôl eu marw. Datblygodd hoffter arbennig at lun o Thérèse a'i chwaer hŷn, Céline, yn blant a dyma hi'n darlunio a phaentio'r cyfansoddiad gannoedd o weithiau. Anaml fydd y delweddau hyn yn cael sylw mewn astudiaethau o waith Gwen John, ac maen nhw'n aml yn cael eu wfftio fel brasluniau difeddwl neu obsesiynol. Ond mae hyn yn anwybyddu pa mor bwysig fyddai gweld 'gwir wyneb' santes oedd prin dair blynedd yn hŷn na Gwen. Yn goron ar y cyfan, erbyn i Gwen ddechrau ei darlunio hi yn y 1920au roedd Thérèse wedi dod yn dipyn o eicon cwiar ei hun, gyda Jean Cocteau, Henri Ghéon, Lucie Delarue-Mardrus, Vita Sackville-West, a Radclyffe Hall yn ddilynwyr brwd. Roedd ei neges o 'wneud y pethau bychain' – gallai bywyd tawel, amherffaith fod yn ddwyfol diolch i weithredodd bach cyffredin – yn apelio at bobl oedd wedi cael tröedigaeth, artistiaid avant-garde, a phobl ar gyrion cydeithas. Roedd 'ffordd fychan' Thérèse yn apelio'n fawr at Gwen a byddai hi'n ysgrifennu yn ei llyfrau nodiadau diweddarach ei bod hi am ddod yn santes ei hun. Fel rhywun ar y cyrion, oedd ddim yn cydymffurfio â safonau cyffredin yn ei gwaith na'i rhywioldeb, roedd delwedd a dysgeidiaeth Thérèse yn gysur mawr iddi.

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15561

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15534

Wrth edrych ar waith Gwen o safbwynt rhywedd hyblyg gallwn ni ddehongli ei gwaith o'r newydd. Dim ond ychydig o esiamplau mae'r erthygl hon yn eu trafod, ac mae digon o waith i'w wneud eto. Wrth gydnabod bod Gwen John yn berson cwiar ac ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei ffordd hi o weld y byd, rydyn ni'n dyfnhau ein dealltwriaeth ohoni. I ddysgu mwy am Gwen fel artist cwiar, darllenwch lyfr Norena Shopland Forbidden Lives (2017), Erthygl Tabitha Deadman yn Art UK ‘Bi visibility: Gwen John and multiple gender attraction’, ac erthyl Mair Jones yn Art UK ‘Queer Welsh women in art’.

Ymgyrch Mai Di-Dor yn Amgueddfa Wlân Cymru: Beth rydyn ni’n ei wneud a pham mae’n bwysig

Heather Jackson & Debby Mercer, 3 Mehefin 2026

Bob mis Mai, fel rhan o ymgyrch Mai Di-Dor, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn caniatáu i rannau o’i thirwedd dyfu, gan greu lle i flodau gwyllt, pryfed a’r ecosystem ffynnu. Drwy gamu’n ôl rhag torri’r gwair fel arfer, hyd yn oed am gyfnod byr, mae’r tiroedd yn cael eu trawsnewid, gan ddangos faint mae bywyd yn dibynnu ar wair hir a newid tymhorol.

Mae gan yr Amgueddfa gysylltiad dwfn â’r dirwedd o’i chwmpas, o’r defaid sy’n cyflenwi’r gwlân i’r cynefinoedd ar garreg ei drws. Ar y safle mae tair erw a hanner o ddôl, gyda Nant Bargod a Nant Bran, llednentydd yr Afon Teifi, yn ffinio â hi. Ochr yn ochr â hyn mae gardd liwurau’r amgueddfa—gofod sydd wedi’i drin, ond sydd yr un mor gyfoethog o ran lliw, hanes a bywyd gwyllt.

Gyda’i gilydd, mae’r mannau hyn yn dangos sut gall newid syml yn y dull o reoli tir gefnogi amgylchedd ffyniannus a chydgysylltiedig.

Tirwedd Dôl Fyw

I ffwrdd o sŵn peiriannau’r felin, mae’r ddôl yn cynnig man mwy tawel a myfyriol. Caiff y gwair ei dorri’n dymhorol yn lle ei dorri’n aml, ac mae’n cynnig cynefin pwysig i amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae’r dull hwn wrth wraidd ymgyrch Mai Di-Dor, gan ganiatáu i wair a blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.

Mae’r math hwn o laswelltir garw a llaith—a elwir yn rhos—yn dod yn gynyddol brin. Mae’n hanfodol ei reoli’n ofalus, gan y gall torri gormod ar y gwair neu rywogaethau ymledol fel Clymog Japan darfu’n gyflym ar y cydbwysedd sy’n galluogi bywyd gwyllt i ffynnu.

Yn y gwanwyn a’r haf, mae’r ddôl yn dod yn fyw. Mae gloÿnnod byw fel yr Iâr Fach Dramor a’r Fantell Goch yn hedfan ymhlith y blodau, tra bod y Brithribin Brown prin yn dodwy wyau ar ddrain duon yn y gwrychoedd. Mae gwenyn yn casglu neithdar o feillion a drain gwynion, mae buchod coch cwta yn bwydo ar bryfed gleision, ac mae mursennod yn hofran ar hyd glannau’r afon. Mae arolygon hyd yn oed wedi cofnodi dros 30 rhywogaeth o chwilod ar y safle.

Mae bywyd planhigion yr un mor bwysig. Mae glaswelltau brodorol fel cynffonwellt y maes a pheiswelltydd yn cefnogi blodau gwyllt gan gynnwys y bengaled, blodau’r llefrith a thansi, tra bod ardaloedd gwlypach yn gartref i frwyn, erwain a thriaglog. Gyda’i gilydd, mae’r planhigion hyn yn darparu bwyd a lloches i bryfed, adar ac anifeiliaid eraill.

Un ardal arbennig o gyfoethog yw sianel gorlif yr afon, lle mae llifogydd tymhorol yn cludo maetholion sy’n annog amrywiaeth dwys o fywyd planhigion. Mae’n ein hatgoffa bod prosesau naturiol yn dal i siapio’r dirwedd.

Drwy ganiatáu i’r ddôl dyfu drwy fis Mai, mae ymgyrch Mai Di-Dor yn cefnogi’r cynefin cymhleth a ffyniannus hwn.

Yr Ardd Liwurau: Crefft a Bywyd Gwyllt

Ochr yn ochr â’r ddôl, mae’r ardd liwurau yn cynnig amgylchedd mwy strwythuredig, gyda’i gwreiddiau yn hanes cynhyrchu tecstilau. Am filoedd o flynyddoedd, byddai pobl yn defnyddio planhigion a mwynau i liwio ffibrau, arfer a barhaodd ym melinau gwlân Cymru ymhell i’r ugeinfed ganrif cyn i liwurau synthetig ddod yn fwy cyffredin.

Heddiw, mae’r ardd liwurau yn ailgysylltu â’r traddodiad hwn, gan ganiatáu i’r amgueddfa archwilio’r daith o blanhigyn i ffabrig lliw. Wedi’i datblygu dros lawer o flynyddoedd a bellach yng ngofal yr ymarferydd lliwio naturiol Susan Martin, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’n ardd weithredol ac yn lle i ddysgu.

Yn ystod y tymor tyfu, mae’r ardd yn llawn lliw—yn ofod croesawgar i ymwelwyr ond hefyd yn denu ystod eang o fywyd gwyllt. Mae’r ardal hon yn elwa ar yr un egwyddor sydd y tu ôl i ymgyrch Mai Di-Dor—rhoi lle ac amser i blanhigion dyfu.

Bywyd gwyllt ar draws y safle

Ar draws y ddôl a’r ardd liwurau, mae ystod amrywiol o rywogaethau, gyda phob un yn chwarae eu rhan yn cynnal iechyd yr amgylchedd.

Mae gloÿnnod byw ymhlith yr ymwelwyr amlycaf, ond mae llawer o rywogaethau yn profi dirywiad hirdymor. Un rheswm am hyn yw’r diffyg planhigion addas i lindys. Nid yw’r blodau sy’n denu gloÿnnod byw bob amser yr un rhai â’r planhigion maen nhw’n dodwy wyau arnynt.

Yn yr Amgueddfa, mae planhigion a gaiff eu hystyried yn aml yn “chwyn”—fel danadl poethion, ysgall a helyg—yn cael tyfu mewn ardaloedd penodol, gan ddarparu cynefinoedd hanfodol i lindys.

Mae gwenyn yr un mor bwysig, o’r cacwn cyfarwydd i rywogaethau fel y cardwenyn. Mae pryfed hofran, sy’n aml yn cael eu camgymryd am wenyn meirch, hefyd yn chwarae rôl ddeuol: fel oedolion maen nhw’n peillio planhigion, tra bod eu larfa yn bwydo ar bryfed gleision, gan helpu i amddiffyn bywyd planhigion.

Nid yw bywyd gwyllt bob amser yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Mae mwydod yn hanfodol i iechyd pridd, gan awyru’r tir a thorri deunydd organig i lawr. Maen nhw hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’r gadwyn fwyd—does dim byd yn well gan wahadden na gwledd o fwydod.

Mae adar yn ymwelwyr rheolaidd hefyd. Mae’r robin goch yn gydymaith cyfarwydd i arddwyr, yn aml yn ymddangos pan fydd y pridd yn cael ei aflonyddu gan olygu bod pryfed yn dod i’r wyneb.

Mae’r ystod o gynefinoedd ar draws y safle hefyd wedi arwain at nodi rhywogaethau llai cyffredin. Mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi cofnodi’r pry cop Araeoncus humilis, sydd wedi’i ddosbarthu’n rhywogaeth fregus yng ngwledydd Prydain—gan amlygu pwysigrwydd cynnal yr amgylcheddau hyn.

Edrych ymlaen ac ymweld

Dim ond un o’r ffyrdd mae Amgueddfa Wlân Cymru yn cefnogi bioamrywiaeth yw ymgyrch Mai Di-Dor, ond mae ei heffeithiau i’w gweld ar draws y safle cyfan.

Drwy ganiatáu i wair a blodau gwyllt dyfu, mae’r amgueddfa’n creu amodau lle gall pryfed, adar ac anifeiliaid ffynnu. Mae mannau fel yr ardd liwurau yn dangos nad yw cadwraeth a threftadaeth ddiwylliannol yn ddau beth ar wahân, ond bod cysylltiad dwfn rhyngddynt.

Mae hi wedi bod yn gyffrous gweld yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n ymweld â thir yr amgueddfa, ond mae bob amser mwy i’w ddarganfod. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi’r cynefinoedd hyn, gan gynnwys cynlluniau i gamerâu bywyd gwyllt ganfod mwy fyth o rywogaethau sy’n ymweld.

Anogir ymwelwyr i archwilio’r dirwedd. Ym mis Ebrill eleni, gwnaed llwybr cul drwy’r ddôl, gan alluogi ymwelwyr i ymlwybro drwy’r gwair hir heb darfu ar y bywyd gwyllt.

Mae Llwybr y Ddôl yn amlygu rhai o’r planhigion a’r anifeiliaid sydd i’w cael ar draws y safle, tra bod arwyddion, a gefnogir gan brosiect TYFU Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn esbonio pwysigrwydd mentrau tymhorol fel ymgyrch Mai Di-Dor.

Drwy adael i’r gwair dyfu, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn datgelu byd cudd—un sy’n newid gyda’r tymhorau ac sy’n gwobrwyo’r rhai sy’n cymryd amser i edrych ychydig yn agosach.

Gwneud yn bosibl gan Cronfa Treftadaeth

Bylbcast 2025-2026!

Megan Naish, 29 Mai 2026

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Dyma ein ffilmiau Bulbcast anhygoel ar gyfer eleni!

Enillwyr/Winners

Cortamlet Primary

Yn Ail / Runners-up: 

St Patrick’s RC Primary

Leslie Primary

Pinehurst Primary

Yn Drydydd/Third Place:

St Michael’s Clady

Da iawn bawb, mae wedi bod yn hyfryd gweld yr holl waith caled rydych chi wedi'i roi i'r prosiect eleni. Diolch i chi am gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich gwobrau!

-Athro’r Ardd

Aelod o staff Amgueddfa Cymru yn graddio o gwrs Cenedlaethau'r Dyfodol!

Kate Breeze, 21 Mai 2026

Ym mis Mawrth fi oedd y person cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru i raddio o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol (AACD)!

Mae AACD yn cael ei redeg gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac yn dod â grŵp dethol o bobl ifanc 18-30 oed o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddatgloi sgiliau arwain ac ehangu gwybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dechreuodd hyn i gyd pan gyhoeddodd Amgueddfa Cymru eu bod nhw wedi derbyn cyllid drwy Broject Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol #GROW i noddi cyfranogwr, sy’n arwain at y person yn gweithio gydag Arweinydd Project #GROW i gefnogi cynaliadwyedd a gweithredu dros yr hinsawdd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dwi wastad wedi bod yn angerddol am natur a sut all natur siapio ein hunaniaeth, ein lle yn y byd a'n lles. Fel siaradwr Cymraeg ail iaith hefyd, dw i wastad wedi ffeindio’r ffordd mae iaith a natur yn pontio ac yn gallu ysgogi cysylltiadau gwahanol â'n cynefin yn hynod ddiddorol. Roedd hwn yn gyfle perffaith i roi’r angerdd hwn ar waith a chyfoethogi fy sgiliau a ’ngwybodaeth drwy AACD.

Roeddwn i mor gyffrous i fod yn rhan o AACD 5.0 eleni a'r cyfranogwr cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru – roedd yn wefreiddiol ac ychydig yn frawychus i fod y person cyntaf erioed. Ond mae wedi bod yn gyfle anhygoel i ennill sgiliau i danio newidiadau cadarnhaol yn y sefydliad wedi'u hysbrydoli gan werthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel corff cyhoeddus, mae Amgueddfa Cymru yn dod dan ofynion y Ddeddf, ac mae'n hanfodol bod gan y cenedlaethau nesaf o staff y wybodaeth a'r profiad i'w sianelu yn weithredoedd cadarnhaol.

Dechreuodd fy nhaith AACD gyda chyfnod preswyl lle cwrddais i â'm cohort am y tro cyntaf. Fe wnaethon ni rannu syniadau ac amcanion, ac yn rhwydweithio fel arweinwyr y dyfodol. Cwrddon ni hefyd â'r siaradwyr preswyl, cyn-fyfyrwyr yr Academi, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker. Roedd hyn yn hynod ysbrydoledig ac yn gosod y naws ar gyfer fy sesiynau hyfforddi bob pythefnos ar draws y rhaglen 8 mis.

Dysgais amrywiaeth o bethau – o sut i weithredu ac ystyried saith cenhedlaeth i’r dyfodol ac adeiladu economi lles, i sut mae arweinwyr eraill yn arloesi dan y Ddeddf. Gwnaeth ein cwrs preswyl olaf yng Ngogledd Cymru sbarduno fy syniadau ymhellach ac adeiladu fy rhwydweithiau gyda phobl sy'n gwneud gwaith mor anhygoel ar draws y sector cyhoeddus, trydydd a phreifat yng Nghymru. Wrth I'r hyfforddiant ddatblygu, roeddwn i hefyd yn rhannu ac yn trafod syniadau gyda gwahanol gydweithwyr, ac mae wedi bod mor foddhaol gweld sut mae pobl eraill yn gyffrous am y potensial o weithio mewn ffyrdd newydd.

O'r diwedd, daeth fy mhrofiad i ben gyda seremoni raddio llawn hwyl ond chwerw-felys yng Nghaerdydd gyda fy nghohort, Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol, cyn-fyfyrwyr, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau. Fe wnes i hyd yn oed gymryd rhan fel siaradwr i gyflwyno fy nghynllun newid (mwy am hynny isod!). Roedd yn anhygoel gallu rhannu sut rydw i wedi ymgorffori fy sgiliau a'm gwybodaeth newydd mewn cynllun.

Felly beth sy’n nesaf? Fel rhan o'r AACD, mae pob person yn creu rhywbeth o'r enw 'Cynllun Newid'; sef cynnig yn eich maes arbenigol sy'n sianelu eich gwybodaeth newydd yn gynllun ymarferol fel bod eich gweithle yn alinio'n well â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae fy nghynllun newid yn edrych ar sut allwn ni gyfuno iaith, natur a chynefin i ddatblygu cyfleoedd i gynulleidfaoedd Amgueddfa Cymru sy'n ysgogi cysylltiad, perthyn a lles ac yn helpu pobl i gysylltu â'u cynefin ac â natur yn gyffredinol. Mae cysylltu'r rhain nid yn unig yn meithrin dysgu dyfnach a gofalu am y byd naturiol, mae'n gwahodd pobl i ailgysylltu â natur, yn rhannu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ac yn cysylltu iaith â llythrennedd ecolegol.

Canlyniad hyn fydd cyfrannu at Gymru yfory lle mae cysylltiadau, gwybodaeth a gofal cynyddol pobl am natur yn meithrin gwytnwch. Mae hefyd yn dangos sut y gall Amgueddfa Cymru fod yn ganolbwynt i'r Gymraeg fel ffordd o fwynhau natur a chynefin – wedi'u hysbrydoli gan ein casgliadau, ein lleoliadau, ein rhaglenni, ein digwyddiadau a'n profiadau.

Rydw i'n hynod falch o fod wedi cael y cyfle hwn i ddatblygu cynllun uchelgeisiol, newydd sbon, creadigol sy'n cyd-fynd â nodau sefydliadol Amgueddfa Cymru. Dw i wedi cyffroi i weld sut all gael ei ddefnyddio er mwyn cyfrannu at ddyfodol gwell i Gymru.

Ni fyddai'r cyfle hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Project #GROW Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n adeiladu gwytnwch yn y gweithle yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Rydw i hefyd yn estyn diolch twymgalon i 'nghydweithwyr ar oject GROW, – Sarah Younan, Heather Jackson, Steph Burge, a Victoria Hillman am eu holl gefnogaeth.