Bywyd ffosil - ar raddfa wahanol
Ffosilau yw gweddillion bywyd hynafol. Mae'r rhan fwyaf o ffosilau anifeiliaid wedi'u gwneud o rannau caled y corff fel esgyrn, dannedd a chregyn. Mewn rhai achosion prin, gall meinwe meddal neu facteria hyd yn oed gael eu ffosileiddio.
Pysgodyn ffosil o Wald yr Haf sydd wedi'i gadw'n dda
Darganfuwyd y pysgodyn ffosil a welir yma ar draeth Kilve yng ngogledd Gwlad yr Haf, ac er ei fod wedi colli'i ben, mae'r gweddill wedi cadw'n dda. Mae'r ffosil tua 11cm o hyd ac mae ei gen yn amlinellu siâp ei gorff. Gellir gweld olion yr esgyll blaen hefyd.
Pholidophorus yw enw'r pysgodyn; mae'n anifail sydd wedi marw allan oedd yn edrych yn debyg i'r pennog modern. Bu farw'r pysgodyn hwn bron i 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl tra'n nofio yn y môr Jwrasig oedd yn gorchuddio Gwlad yr Haf. Cafodd y corff lonydd gan sborionwyr wedi iddo farw ac felly cafodd ei gladdu mewn gwaddod mân. Caledodd y gwaddod yma yn y pen draw i ffurfio carreg a cafodd y pysgodyn ei ffosileiddio y tu mewn iddi.
Manylion microsgopig yn datgelu mwy o weddillion ffosiledig
Er ei fod yn esiampl dda, mae'r pysgodyn ffosil hwn wedi cadw rhywbeth mwy hynod fyth hyd yn oed. Tynnodd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru ddarnau bychan o ganol y ffosil i'w hastudio o dan ficrosgop electron. Wedi chwyddo'r ddelwedd 20,000 o weithiau, daeth rhai manylion bychan i'r golwg — haen o strwythurau pitw hirgrwn. Dyma weddillion ffosiledig bacteria.
Mae bacteria wedi ffosileiddio wedi eu canfod mewn sawl lle yn y byd, ac mae'r mwyaf amlwg mewn ffosilau yn Ne America a'r Almaen. Mae'r bacteria wedi'u cadw mewn calsiwm ffosffad yn aml iawn, am fod calsiwm yn elfen gyffredin mewn gwaddod, a ffosfforws yn cael ei greu wrth i feinwe anifeiliaid bydru.
Sut ydyn ni'n gwybod taw bacteria ffosil yw'r rhain?
Yn gyntaf, maen nhw wedi clystyru at eu gilydd mewn cytrefi ac o faint a siâp tebyg i facteria modern.
Yn ail, mae meinweoedd cellol bregus eraill, fel celloedd embryo a ganfuwyd yng nghreigiau Cambriaidd Tsieina, wedi cael eu cofnodi. Gall meinwe cyhyr wedi ffosileiddio hyd yn oed gadw manylion mewnol celloedd, er enghraifft yng nghreigiau Jwrasig Brasil a chreigiau Mïosenaidd Sbaen. Mae gwyddonwyr yn gweld achosion o ffosileiddio celloedd yn amlach, yn cynnwys bacteria, wrth iddyn nhw edrych yn fanylach ar y ffosilau yn eu casgliadau.
I gloi, mewn achosion prin gall haen denau dywyll o facteria ffosil amlinellu ffosil, gan ddatgelu siâp meinweoedd cnawdol o amgylch y sgerbwd, fel yng nghreigiau Ëosen yr Almaen. Mae hyn yn dweud wrthon ni bod y bacteria wedi ffosileiddio'n gyflym wedi iddyn nhw farw.
Mae'n dod yn gynyddol amlwg bod bacteria yn chwarae rôl bwysig wrth ffosileiddio, gyda'r bacteria eu hunain weithiau yn cael eu cadw.
Wrth edrych ar ffosil, mae'n naturiol meddwl pa fath o anifail neu blanhigyn yw e, ond gellir gwneud rhai darganfyddiadau diddorol drwy ofyn o beth mae'r ffosil wedi ei wneud?. Mae'r ateb wrth edrych yn agosach yn peri syndod yn aml a gall fod yn allweddol i ddysgu sut y cafodd yr organeb ei ffosileiddio yn y lle cyntaf.
sylw - (1)