Atgynhyrchu Pennau Saethau Rhufeinig Evan Chapman Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru Copïau o bennau saethau Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell. Defnyddiai'r Rhufeiniaid sawl math gwahanol o bennau saethau. Roedd gan y rhai mwyaf nodweddiadol gyfres o esgyll: tair asgell oedd gan rai cynnar, ond mae enghreifftiau o rai â phedair asgell wedi'u canfod sy'n perthyn i'r drydedd ganrif OC. Un rheswm posibl am y newid hyn yw ei bod hi'n haws cynhyrchu'r fersiwn â phedair asgell. Yn 2008 cynhaliwyd Pencampwriaeth Saethyddiaeth Maes y Byd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a cynhaliodd yr Amgueddfa sawl arddangosfa fach ar saethyddiaeth. Cynhyrchwyd nifer o bennau saethau Rhufeinig yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa saethyddiaeth Rufeinig i ddangos sut fyddai pennau saethau Rhufeinig newydd sbon yn edrych. Yn sgil gwaith cadwraeth gofalus ar rai o bennau saethau Rhufeinig yr Amgueddfa, gwelwyd digon o fanylion gwreiddiol i ddatgelu'r broses gynhyrchu a ddefnyddiodd y Rhufeiniaid. Roedd gof Amgueddfa Sain Ffagan am greu copïau yn yr un modd a bu'n arbrofi nes ei fod yn medru creu copïau oedd yn debyg iawn i'r gwreiddiol. Dangosodd y gwaith arbrofol hyn ei bod yn haws ac yn gynt cynhyrchu'r math â phedair asgell oherwydd bod modd creu'r esgyll mewn jig. Gan fod mwy o ofod rhwng yr esgyll ar y fersiwn tair asgell roedd yn rhaid taro'r esgyll i siâp yn unigol, ac roedd un asgell yn y ffordd wrth geisio gweithio ar un arall. Ai dyma pam y dechreuwyd cynhyrchu fersiynau pedair asgell? Os yw hyn yn wir, pam oedd y Rhufeiniaid yn cynhyrchu pennau saethau â thair asgell yn y lle cyntaf? Seiliwyd offer saethyddiaeth Rhufeinig ar dechnoleg y Dwyrain Agos. Yno, cai'r pennau saethau metel gwreiddiol eu castio mewn efydd. Copïo ffurf tair asgell y pennau saethau efydd yma wnaeth y Rhufeiniaid yn syml iawn. Andrew Murphy, gof Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig Darllen Pellach Bishop, M.C.&Coulston, J.C.N. 2006 Roman Military Equipment, from the Punic Wars to the Fall of Rome (Rhydychen: Oxbow Books) Chapman, E.M. 2005 A Catalogue of Roman Military Equipment in the National Museum of Wales, BAR British Series 388 (Rhydychen) sylw - (5) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. michael ware 21 Ebrill 2019, 18:20 I have copied the arrow head jig as much as I was able to. I have made the slots larger at the back end for the hevier part of the head and tapered the slots....... waiting for a smith made crank bellows to put it through its paces. Does the set-up sound correct to you? If I am in error in any way, could you please let me know. Thanks for any information....... Mike Ware Sara Staff Amgueddfa Cymru 1 Mawrth 2017, 11:08 Hi there Mozart,Thanks for your enquiry - I will ask our blacksmith and let you know.Best wishes,SaraDigital Team Mozart Paiva 27 Chwefror 2017, 02:24 Would be possible to have a close pictures of this JIGs so I can try to reproduce it? Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru 16 Mawrth 2016, 11:09 Hi Daniel, have you tried looking at a Re-Enactors' Market? There are a few running in the UK according to google. They are really interesting places to visit, and to meet like-minded history buffs too!SaraDigital Team Daniel Humphreys 13 Mawrth 2016, 13:54 Do you know where I would be able to obtain a couple various types of reproduced arrow head types for use in my display. I do roman medical and want to show the types of arrow heads available, causing some wound types and possible procedures. Any assistance would be appreciated. Daniel Humphreys