Blwmiau Algaidd

Katherine Slade

Gwymon Gwyrdd o rywogaeth Ulva yn tyfu ar arfordir creigiog Bae Gorllewinol Dale, Sir Benfro.

Blwm algaidd a ffurfiwyd gan phytoplankton oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon. Gellir ei weld fel rhuban glas golau ar hyd ochr chwith y ddelwedd. © Nasa.

Sbesimen wedi'i gadw o Dorgoch neu Arctic Charr (Salvelinus alpinus). Casglwyd o Lyn Peris yn 1978.

Mae lliw Bara Mawr yn amrywio o wyrdd pan yn ifanc i borffor a brown

Gwelir Porphyra yma, y gwymon a ddefnyddir mewn Bara Lawr, yn tyfu ar arfordir creigiog...

...ac fel sbesimen mewn llysieufa yn Amgueddfa Cymru.

Mae blwmiau algaidd yn datblygu wrth i nifer anferth o algâu neu facteria gronni yn y môr neu mewn dŵr ffres. Gall blwmiau algaidd dyfu mor fawr nes y gellir eu gweld o'r gofod.

Beth yw Blwmiau Algaidd?

Dyma beth a geir wrth i nifer anferth o algâu neu facteria gronni yn y môr neu mewn dŵr ffres. Gall blwmiau algaidd dyfu mor fawr nes y gellir eu gweld o'r gofod. Gall nifer o wahanol fathau o algâu a bacteria ffurfio blwmiau. Dau grŵp pwysig yw gwymon gwyrdd a bacteria gwyrddlas (cyanobacteria).

Beth sy'n eu hachosi?

Mae blwmiau algaidd yn ffurfio dan amgylchiadau ffafriol, fel arfer ble mae lefelau maeth a thymheredd uchel, a cheryntau dŵr gwan. Gall llygredd o'n cartrefi, gweithiau carthffosiaeth, gwrtaith a thail o ffermydd achosi lefelau maeth uchel mewn llynnoedd ac yn y môr.

Os bydd hinsawdd y byd yn cynhesu, bydd tymheredd dŵr yn codi hefyd. Golyga hyn y gall blwmiau algaidd ffurfio'n amlach. Maent wedi dod yn fwy cyffredin o amgylch y DU yn barod yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Beth yw'r effeithiau?

Wrth i'r blwm algaidd dyfu mae'n atal golau rhag cyrraedd planhigion yn y dŵr, gan achosi iddynt farw a phydru. Mae pydredd bacteriol yn lleihau lefelau ocsigen yn y dŵr sydd yn ei dro yn achosi i anifeiliaid y dŵr farw.

Wrth i'r blwm bydru, mae'r algae yn rhyddhau nwy hydrogen sylffid gwenwynig.

Mae rhai algâu a cyanobacteria yn creu tocsinau sy'n medru lladd anifeiliaid eraill yn y dŵr. Mewn rhai achosion gall y tocsinau yma gronni mewn pysgod cragen fel cocos, a'u gwneud yn wenwynig i bobl eu bwyta.

Allwn ni ei atal rhag digwydd eto?

Er bod blwmiau algaidd yn ffenomena naturiol, gall ein gweithredoedd ni beri iddynt ddigwydd yn amlach. Gall rheolau llymach ar ddefnyddio gwrtaith wrth ffermio a thrin dŵr gwastraff yn well fod o gymorth i'w lleihau. Yr unig ffordd o warchod pobl wedi i flwm algaidd ffurfio yw i'w cadw draw o'r dŵr. Nid yw gwarchod bywyd gwyllt yn dasg mor hawdd.

Blwmiau Gwymon

Gwymon gwyrdd yw Letys y Môr (rhywogaeth Ulva) sy'n gallu ffurfio blwmiau algaidd. Yn haf 2009 cafwyd adroddiadau o flwmiau gwymon gwyrdd anferth yn ne'r DU a gogledd Ffrainc.

Yn yr achos yma nid y gwymon ei hun sy'n wenwynig i bobl ar y traeth ond y nwyon hydrogen sylffid. Yr unig ddioddefwr yn 2009 oedd ceffyl anffodus a dorrodd drwy'r gramen ar bentwr dwfn o wymon a chael ei wenwyno gan yr hydrogen sylffid a ryddhawyd.

Yn ffodus, nid yw Letys y Môr yn tyfu mor fawr â hynny fel arfer. Mae'n nhw'n gyffredin ar arfordir creigiog y DU ac, fel mae'r enw'n awgrymu, yn edrych fel letys tenau, lliw gwyrdd llachar.

Cyanobacteria Tocsig

Yn haf 2009 ffurfiodd cyanobacteria (Anabaena spiroides) flwm algaidd allai fod wedi bod yn wenwynig yn Llyn Padarn, ger Llanberis. Dyma un o dri llyn lle mae Torgoch, neu Arctic Charr (Salvelinus alpinus), yn tyfu yng Nghymru. Daeth diffyg ocsigen yn fygythiad i'r pysgodyn prin hwn. Cafwyd effaith ar yr economi leol hefyd gyda phobl yn cael eu hatal rhag ymweld â'r llyn.

Beth allwch chi wneud

Gallwn ni i gyd helpu i leihau'r siawns o flwmiau algaidd yn ffurfio yr haf hwn drwy ddefnyddio llai o hylif a phowdwr golchi gartref. Mae'r ffosffadau yn y cynhyrchion yma yn cael eu golchi drwy'r draeniau i'r llynnoedd ac i'r môr lle maent yn dod yn faeth i algae. Gallant gyfrannu hyd at 25% o'r maethion a ryddheir mewn carthffosiaeth. Edrychwch am gynhyrchion sy'n well i'r amgylchedd am eu bod yn cynnwys llai o ffosffad.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae'r bwyd Cymreig Bara Lawr wedi ei wneud o fath o wymon coch. Gelwir y gwymon yma yn Porphyra, ond lafwr yw'r enw cyffredin. Gelwir gwymon Porphyra yn nori yn Asia ac maent yn cael eu prosesu mewn modd gwahanol i wneud y gwymon a ddefnyddir ar ffurf llenni mewn sushi.

Gwymon a'r Amgueddfa

Mae tri prif grŵp o wymon: gwymon gwyrdd, gwymon coch a gwymon brown. Mae Letys y Môr sy'n galli achosi problemau yn y DU a Ffrainc yn wymon gwyrdd, ac mae tacsonomegwyr yn eu dosbarthu i rywogaeth Ulva.

Gwyddonwyr yw tacsonomegwyr sy'n astudio dosbarthiad ac esblygiad organebau. Mae'r tacsonomegwyr yn Amgueddfa Cymru yn astudio nifer o wahanol grwpiau. Maent yn defnyddio casgliadau gwyddonol helaeth yr Amgueddfa o anifeiliaid a phlanhigion er mwyn gwneud hyn. Mae'r casgliadau yn adnodd amhrisiadwy o wybodaeth fanwl gywir a sylfaen dacsonomig gref. Mae tua 5,000 sbesimen algae yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ac mae'n dal i dyfu.

Mae gwymon yn rhan o grŵp eang a elwir yn algae. Ein casgliad algâu hynaf a phwysicaf o bosibl yw casgliad Lewis Weston Dillwyn, oedd yn ffigwr pwysig yn hanes Cymru. Roedd nifer o'r sbesimenau a gasglodd yn dod o Abertawe a'r ardal, ei gartref. Mae'r casgliad yn cynnwys algâu sy'n 200 mlwydd oed. Maent yn rhan o'r deunydd gwreiddiol a ddefnyddiodd Dillwyn wrth baratoi ei waith arloesol ym 1809, British Confervae.

Mae'r gwaith hwn yn cynnwys lluniau lliw prydferth o algae ac roedd yn gam pwysig ymlaen i algoleg. Cyn ei gyhoeddi, dim ond 34 rhywogaeth algae oedd wedi eu disgrifio; cododd hyn i 177 gyda chyhoeddi'r British Confervae.

Asiantaeth yr Amgylchedd: Os ydych chi'n gweld blwm algaidd, rhowch wybod i ni drwy ffonio rhif rhadffôn 0800 80 70 60.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.