Ffosil Ymlusgiad o Dde Cymru
Ddau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Jwrasig cynnar, roedd de ddwyrain Cymru wedi'i orchuddio â môr bas, cynnes, yn llawn bywyd. Un o'r prif ysglyfaethwyr yn y dyfroedd hyn oedd yr ichthyosor, ymlusgiad morol diflanedig, a oedd yn edrych fel dolffin. Gallai'r anifeiliaid hyn gyrraedd dros 15m o hyd, ac roeddent yn ymosod ar bysgod bychain ac anifeiliaid morol eraill megis amonitau a belemnitau.
Darganfuwyd y ffosil nifer o flynyddoedd yn ôl, yn y creigiau ym Mhenarth, ger Caerdydd a chafodd Amgueddfa Cymru ef i'w arddangos yn gyhoeddus. I baratoi'r sbesimen ar gyfer ei arddangos, roedd angen oriau o waith manwl, gofalus i dynnu'r graig a oedd yn gorchuddio'r esgyrn ymlusgiad.
Ffosiliau prin
Mae esgyrn a dannedd unigol ichthyosoriaid yn ffosilau cymharol gyffredin yn ne Cymru, Dorset, a Gwlad yr Haf, yn ogystal â rhannau o Ganolbarth Lloegr a Swydd Efrog, ond mae sgerbydau llawn neu bron yn llawn yn fwy prin. Mae'r sbesimen a ddarganfuwyd ym Mhenarth yn cynnwys rhan isaf y pen ac un o'i aelodau sy'n debyg i rwyf, yn ogystal â darn o'r ysgwydd a nifer o asennau.
Ar ôl iddo farw, claddwyd yr anifail yn y gwaddodion ar wely'r môr, gan ei achub rhag cael ei ysglyfaethu gan anifeiliaid eraill.
Bydd y sgerbwd hwn o gymorth i'n dealltwriaeth o fywyd Jwrasig yng Nghymru. I ddysgu mwy am ichthyosoriaid a bywyd yn y cyfnod Jwrasig, ewch i arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.