Celc arian Llanfaches

Yn 2006, daeth un o'r casgliadau gorau o geiniogau arian o Brydain Rufeinig yr ail ganrif i'r wyneb ger Llanfaches, Casnewydd.
Darganfuwyd celc o 599 denarii arian wedi'u cuddio mewn llestr coginio a wnaed yn lleol. Maen nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru bellach.
Saif Llanfaches rhwng caer yr ail lynges Awgwstaidd yng Nghaerllion a phencadlys y llwythi lleol, Venta Silurum, yng Nghaerwent.
Mae'r 599 denarii arian, sy'n dangos Ymerawdwyr Rhufeinig fel Hadrian a Nero, yn dyddio'n ôl i OC 160, a chyhoeddwyd eu bod yn drysor ym mis Gorffennaf 2007.
Y Denarius, neu Denarii (lluosog), yw'r darn arian Rhufeinig enwocaf, mwy na thebyg. Dyma'r llythyren 'd' a oedd yn rhan o hen system arian '£-s-d' Prydain. Roedd 1 denarius rywbeth tebyg i gyflog diwrnod ar y pryd, i weithiwr cyffredin (meddyliwch am ddameg y winllan yn y Beibl) neu lengfilwr Rhufeinig. Roedd y denarius, felly, yn ddarn gwerthfawr o arian.
Byddai 600 denarii yn swm aruthrol - tybed faint o amser fyddai hi'n ei gymryd i chi gynilo gwerth dwy flynedd o gyflog gros, tybed?
Cliciwch ar y mân-luniau isod i bori trwy ddetholiad o'r celc arian.
Celc ceiniogau Llanfaches

Ffugiad o Hadrian — mae'r ochr arall yn copïo ceiniog Trajan

Ffugiad o Hadrian

Pietas yn offrymu ger allor [Diva Faustina I]

Portread oes o Faustina I

Hadrian, portread pen noeth

Pax (heddwch) yn rhoi arfau ar dân [Trajan]

Dwylo wedi'u plethu: ymerawdwr a'r fyddin [Nerva]

Bwystfil estron [Titus]

Hwch a moch bach [Vespasian] - yn cyfeirio at chwedl y sefydlu

Antoninus Pius (138-61); wedi'i fabwysiadu fel ail olynydd i Hadrian

Fortuna ('ffawd') [Trajan]

Antoninus Pius (138-61)

Hadrian (117-38)

Felicitas ('hapusrwydd') [Trajan]

Liberalitas — haelioni'r ymerawdwr [Hadrian]

Concordia [Antoninus Pius]

Clementia ('trugaredd') [Antoninus Pius]

Italia - talaith arall wedi'i hymgnawdoli [Antoninus Pius]

Sabina, gwraig Hadrian

Vesta, duwies yr aelwyd [Sabina]

L. Aelius (136-8); penodwyd yn olynydd i Hadrian, ond bu farw'n gyntaf

Hadrian fel 'adferwr' Gâl

Faustina II, merch Antoninus Pius, gwraig Marcus

Faustina I, gwraig Antoninus (m.141); argraffiad coffa ('Diva')

Offer offeiriadol [Marcus Aurelius Caesar]

Marcus Aurelius fel Cesar o dan A Pius (139-61)

Taranfollt ar gadair [Antoninus Pius]

Aegyptos - un o'r taleithiau niferus a ymgnawdolir ar geiniogau Hadrian

Aequitas ('fair dealing') or Moneta (the mint) [Antoninus Pius]

Pietas ('ffyddlondeb, dyletswydd') [Hadrian]

Victoria: duwies buddugoliaeth [Hadrian]

Fides publica: 'diffuantrwydd' y wladwriaeth (!) [Hadrian]

Moneta - ymgnawdoliad o'r bathdy a'r arian bath [Hadrian]

Adventus ('cyrraedd') - Hadrian yn cael ei gyfarch gan Roma

Neifion, duw dŵr/y môr [Hadrian]

Iustitia ('cyfiawnder) [Hadrian]

Hercules a'i bastwn [Hadrian]

Salus ('Iechyd'/'lles') [Hadrian]

Diana, duwies hela a ffrwythlondeb [Hadrian]

Libertas ('rhyddid') [Hadrian]

Providentia ('rhagweld') [Hadrian]

Hilaritas ('gorfoledd') [Hadrian]

Hadrian (117-38)

Hadrian (117-38)

Roma - duwies/ymgnawdoliad o'r ddinas [Hadrian]

Hadrian fel gubernator (llywiwr) y Byd

Oceanus, ymgnawdoliad o'r afon sy'n amgylchynu'r ddaear [Hadrian]

Hadrian (117-38)

Virtus ('gwroldeb') [Trajan]

Hadrian yn cael ei fabwysiadu fel etifedd Trajan [Hadrian]

Felicitas ('hapusrwydd') [Trajan]

Anrhydeddu tad Trajan

Colofn Trajan, Rhufain - sy'n dal i sefyll heddiw

Llumanau milwrol [Trajan]

Cerflun marchog o Trajan

Trajan mewn gorymdaith orfoleddus

Ymgnawdoliad o dalaith Arabia, gyda chamel [Trajan]

Tlws o arfau [Trajan]

Ceres, duwies amaethyddiaeth [Trajan]

Dacian wedi'i drechu [Trajan]

Tlws o arfau a Dacian wedi'i ddal [Trajan]

Via Traiana, ffordd newydd yn ne'r Eidal [Trajan]

Spes ('gobaith') yn dal blodyn [Trajan]

Mawrth, duw rhyfel [Trajan]

Concwest Dacia [Trajan]

Tragwyddoldeb, yn dal yr haul a'r lloer [Trajan]

Trajan (98-117)

Hercules, yn gwisgo croen llew ac yn dal pastwn [Trajan]

Nerva (96-8)

Minerva [Domitian Augustus]

'Cytgord y byddinoedd' [Nerva]

Domitian, Augustus (81-96)

Julia Titi, merch Titus a chariad Domitian

Titus, Augustus (79-81)

Venus [Titus Augustus]

Blaidd gyda Romulus a Remus [Domitian Caesar]

Pegasus [Domitian Caesar]

Iau [Vespasian]

Vespasian

Vespasian

Judaea - atal y gwrthryfel Iddewig [Vespasian]

Vespasian (69-79), cyn-gadlywydd Legio II Augusta

Vitellius (OC 69)

Vitellius (OC 69)

Otho (OC 69) a'i wig drawiadol

Iau, Pennaeth y Duwiau [Nero]

Nero (OC 54-68)

Pegasus
Pennau
Yn wahanol i'n darnau arian ni heddiw - sydd ag un llywodraethwr yn unig arnynt ac ychydig iawn o gynlluniau gwahanol - roedd arian bath ymerodraeth Rhufain yr ail ganrif yn llawn amrywiaeth: mae celc Llanfaches yn cynnwys ceiniogau â llun 12 ymerawdwr gwahanol a phedair o'u gwragedd neu gariadon.
Cynffonnau
Roedd dwsinau o gynlluniau gwahanol ar gefnau'r ceiniogau - a oedd fel cronicl o amcanion, gwerthoedd a llwyddiannau ymerodrol (i'r rhai a oedd yn ddigon brwd neu lythrennog hyd yn oed, i'w deall). Roeddynt yn cynnwys: hanes a chwedloniaeth, yr ymerawdwr a'i orchestion, y fyddin, yr ymerodraeth, duwiau Rhufeinig, ymgnawdoliad o gysyniadau haniaethol, a'r byd naturiol hyd yn oed.
Felly, dyma gyfle i ddod i adnabod y llywodraethwyr Rhufeinig, eu gwragedd a'u cariadon yn well, a deall y negeseuon y tu ôl i rai o'r ceiniogau mwyaf diddorol yn y casgliad.
Y cyd-destun ehangach
Mae'n ymddangos mai arian wedi'i gynilo oedd celc Llanfaches (yn hytrach nag arian nad oedd mewn defnydd ar y pryd) - felly ai rhan o gynilion gorfodol a dewisol ychwanegol milwr Rhufeinig oedden nhw? Neu gynilion yn sgil oes o fasnachu yn nhref gyfagos Caerwent? Beth bynnag oedden nhw, roedd cyflog milwrol yn hollbwysig i wasgaru'r arian bath newydd; mae wyth celc o gyfnod Antoninus Pius (138-61 OC) wedi'u darganfod yma yng Nghymru, a chelc Llanfaches yw'r mwyaf o bell ffordd.
sylw - (1)
Diolch yn Fawr,
Trefor