Agos at Natur
Edrychwch yn agos ar strwythurau a phatrymau rhyfedd natur. Mae’r delweddau rhyfeddol hyn i gyd wedi’u creu gan wyddonwyr Amgueddfa Cymru gan ddefnyddio ffotograffiaeth wedi’i chwyddo’n fawr. Datgelir anifeiliaid a phlancton bychan iawn mewn goleuni newydd yn y lluniau syfrdanol hyn, sydd i’w hedmygu am eu harddwch trawiadol yn ogystal â’u gwerth gwyddonol.
Ar y lefel hon o’u chwyddo, mae’r gwirionedd yn syfrdanol, cliciwch ar y delweddau isod i ddarganfod mwy...
Agos at Natur

Mae radwla yn dafod garw neu fand o ddannedd corniog a ddefnyddir gan falwod i rygnu ar ei fwyd, boed yn blanhigyn neu anifail, neu i dyllu i gregyn. Mae Radwla yn gwahaniaethu rhwng gwahanol rywogaethau malwod. Mae Amgueddfa Cymru yn archwilio'r delweddau hyn yn ofalus er mwyn adnabod un rhywogaeth wrth y llall.

Mae diatomau yn fath o algae microsgopig sy'n cynnwys un gell neu grŵp o gelloedd; Mae diatomau yn cynhyrchu cragen silica galed sydd yn aml yn cael ei gadw wedi i'r anifail farw a suddo i wely'r môr. Gall gwyddonwyr echdynnu cregyn diatom a'u defnyddio i ymchwilio i hinsawdd y gorffennol.

Roedd y cregyn a welir yma yn perthyn i anifeiliaid o faint pen pin a elwid yn 'foraminifera', neu fformas. Roedd y rhain yn byw tua 35 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond mae mathau tebyg yn byw ym moroedd heddiw.
Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn
Antarctica'n rhewiDelwedd: Ian McMillan, Prifysgol Caerdydd.
Gall cemeg y cregyn foram hyn ddweud wrthym sut y newidiodd tymheredd y môr dros amser drwy fesur y swm o fagnesiwm yn y cregyn - mae Fforamau yn cymryd elfennau o'r môr i'w cregyn, gan ddefnyddio mwy o fagnesiwm mewn tymheredd cynhesach.
Delwedd: Paul Pearson, Prifysgol Caerdydd.
Mae fforamau yn disgyn i wely'r môr ac yn adeiladu haenau o fwd dros filiynau o flynyddoedd. Mae'r cregyn fforam fel capsiwl amser, gyda'u gwybodaeth gemegol wedi'u cloi ynddynt.
Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn
Antarctica'n rhewiDelwedd: Ian McMillan, Prifysgol Caerdydd.
Os gallwn fesur cynnwys magnesiwm fforamau, mae'n rhoi cofnod i ni o'r newid yn nhymheredd y môr dros amser: po fwyaf o fagnesiwm sy'n bresennol yn y cregyn, y cynhesaf oedd y môr pan fu farw'r fforam.
Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn
Antarctica'n rhewiDelwedd: Paul Pearson, Prifysgol Caerdydd.
Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn
Antarctica'n rhewiDelwedd: Paul Pearson, Prifysgol Caerdydd.
Dysgwch sut mae'r sbesimenau bychan hyn yn helpu gwyddonwyr Amgueddfa Cymru i ymchwilio newid hinsawdd a ddigwyddodd 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn
Antarctica'n rhewiDelwedd: Ian McMillan, Prifysgol Caerdydd.
Mae'r rhain yn cysylltu gyda dannedd a socedi cyfochrog yn y gragen gyferbyn, ac yn cynorthwyo i'w cadw gyda'i gilydd pan maent yn fyw. Y dannedd yw un o'r nifer o nodweddion sy'n cynorthwyo gwyddonwyr i adnabod amrywiol rywogaethau dwygragennog.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Darlun manwl o gragen allanol Spinaxinus sentosus a ganfuwyd yng nghargo organig y llong suddedig Francois Vieljeux. Ar ôl i wyddonwyr yr Amgueddfa chwyddo'r llun a sylwi ar y pigau, galwyd y genws newydd yn 'Spinaxinus'. Gweld:
Cregyn bylchog sy'n bwyta nwyam fwy o wybodaeth.

Dannedd llafnaidd yr Ysbrydwlithen gigysol, pob un tua hanner milimedr o hyd. Mae'r rhain yn llawer hirach ac yn fwy miniog na dannedd rhywogaethau llysysol.

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Yn perthyn yn agos i sêr môr, mae sêr brau yn cropian ar hyd gwely'r môr gan ddefnyddio eu breichiau hyblyg fel "coesau" i symud. Mae tua 1,500 o rywogaethau o sêr brau yn fyw heddiw, ac yn cael eu darganfod yn bennaf mewn dyfroedd dyfnion, dros 500 metr (1,650 troedfedd) i lawr.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae'r cranc ewin bawd yn cael ei enw o'i gragen sy'n ymdebygu i ewin bawd. Mae i'w weld ym Môr y Gogledd, gogledd ddwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae'r Cornwymon yn anifeiliaid bach dyfrol a elwir yn bryozonas sy'n atgenhedlu drwy ymflaguro a ffurfio cytrefi canghennog ynghlwm â cherrig neu wymon.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae'r mwydyn hwn yn adeiladu ei gartref bregus allan o haenen denau o dywod wedi'u hasio gyda secretiad o gorff y mwydyn. Un darn o dywod yn unig yw trwch y tiwb, gyda'r darnau tywod unigol wedi'u gosod yn dynn yn erbyn ei gilydd, gan ffurfio mosaic hardd.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae mwydod Côn Hufen Iâ yn byw ben i waered ar wely'r môr. Mae gan ben y mwydyn strwythurau tebyg i grib sy'n cribinio drwy'r tywod wrth i deimlyddion bwydo eraill estyn bwyd. Gall y tiwb fod hyd at 3 modfedd o hyd gan amddiffyn rhannau meddal yr anifail. Cyfeirir hefyd ato fel mwydyn ysgithrog. Nodwch y patrwm tebyg i fosaig sydd gan y gronynnau tywod.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae pen y mwydyn hwn yn cario dau grŵp o flew mawr, euraid, ychydig yn grwm. Defnyddir y blew i ryddhau a throi'r tywod, ac mae'r tentaclau yn casglu gronynnau ar gyfer bwyd ac adeiladu tiwb.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae'r sbesimen hwn, o India, yng nghasgliad Rippon Amgueddfa Cymru. Rippon oedd y cyntaf i greu monograff o'r grŵp hwn o Loynod Byw.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Gall hyd yn oed cleren fach fod â nodweddion dychrynllyd wrth edrych yn agos arno o'r blaen! Ychydig gentimetrau yn unig yw hyd corff y sbesimen hwn.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Gwyfyn brith Biston betularia.
Llun: James Turner, Amgueddfa Cymru

Cliciwch ar y ddelwedd nesaf i ddatgelu ei wyneb...
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Casglwyd y sbesimen hwn yn Fujairah, Emiraethau Arabaidd Unedig. Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Casglwyd y sbesimen hwn yn Izmir, Twrci.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Casglwyd y sbesimen hwn ym Maraba, Aseer, Sawdi Arabia
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Casglwyd y sbesimen hwn yn Al-Ajban, Emiraethau Arabaidd Unedig
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae'r ddelwedd hon yn darlunio manylion cywrain gwythiennau'r adain.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae chwimsaethwyr yn eu llawn dwf yn dodwy wyau i mewn i'r planhigyn ac mae'r rhain yn deor i fod yn nymffod. Yn y mwyafrif o rywogaethau mae'n cymryd tua mis i'r nymff ddod yn oedolyn. Gall yr oedolyn fyw am fis neu ddau arall cyn marw.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae gan bob rhywogaeth rannau ceg hir a thenau, fel nodwyddau meddygol, sy'n cael eu defnyddio i drywanu planhigion a sugno'r sudd. Mae rhai pryfed, fel pycs, yn bwydo oddi ar anifeiliaid.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae gwyddonwyr Amgueddfa Cymru wedi bod yn tynnu lluniau cymaint o rywogaethau o chwimsaethwyr sboncyn y dail ag sy'n bosib, er mwyn llunio canllawiau adnabod fel y gall ffermwyr adnabod y pryfed drostynt eu hunain. I wneud hyn, rydym wedi defnyddio technegau ffotograffaidd newydd i gynhyrchu'r delweddau manwl y gwelwch yma.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Chwimsaethwr sboncyn y dail yw'r mwyaf, a'r mwyaf lliwgar o bob sboncyn y dail. Daw eu henw o'r ffaith fod rhai yn poeri sudd ar ôl bwydo.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae Chwimsaethwyr sboncyn y dail yn perthyn i'r grŵp o bryfed sy'n cynnwys pryfed gleision, pryfed cennog, sboncyn llyffant, sicadâu, sboncwyr y coed a llau.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae tua 200 rhywogaeth chwimsaethwyr sboncyn y dail ym Mhrydain. Disgrifiwyd tua 19,000 rhywogaeth yn y byd, ond mae nifer yn fwy yn parhau i fod heb eu darganfod.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae nymff sboncyn y dail yn diosg ei groen nifer o weithiau wrth dyfu. Mae ei adenydd yn datblygu wrth dyfu, gan fod ychydig yn fwy wrth ddiosg bob croen. Mae'r adenydd yn ehangu wrth i'r nymff ddod yn oedolyn. Mae hyn yn wahanol iawn i bryfed megis Gloÿnnod Byw lle mae'r lindysyn yn newid yn syth i fod yn oedolyn mewn proses a elwir yn fetamorffosis.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru

Mae dros 2,300 rhywogaeth o Chwimsaethwyr y gwyddom amdanynt, rhai yn cario afiechydon i goed ffrwythau. Tarwyd coed citrws Brasil a gwinwydd California yn galed gan chwimsaethwyr Homalodisca, felly mae'n bwysig iawn i ni adnabod pa rai sy'n cario afiechydon a'r pha rai nad ydynt.
Delwedd: James Turner, Amgueddfa Cymru