Mae gwaith y cregynegwr mawr wedi cyrraedd y lan

Harriet Wood & Jennifer Gallichan

Mae casgliadau molysgiaid Amgueddfa Cymru o bwys rhyngwladol ac yn cynnwys cannoedd o filoedd o sbesimenau. Yn 2008 cyhoeddwyd y llyfr diffiniol ar waith y casglwr mawr César-Marie-Felix Ancey (1860–1906).

Enwodd César-Marie-Felix Ancey lawer o rywogaethau tir a dŵr croyw oedd yn newydd i wyddoniaeth. Daeth cyfran o’i gasgliad i Amgueddfa Cymru ym 1955 fel rhan o gasgliad Melvill-Tomlin.

Er 2004 mae staff Amgueddfa Cymru yn ymchwilio i gasgliad Ancey sydd mewn amgueddfeydd ledled y byd ac erbyn hyn mae ganddynt y rhestr ddiweddaraf a mwyaf cynhwysfawr o’i enwau newydd a’i gyhoeddiadau gwyddonol. Mae’n ddefnyddiol iawn i arbenigwyr ac ymchwilwyr dros y byd.

César-Marie-Felix Ancey

Un o gregynegwyr mawr oes Fictoria oedd César-Marie-Felix Ancey ac roedd ei gyfraniad yn anferth yn ei fywyd byr.

Ganed ef ym Marseille, Ffrainc, ar 15 November 1860 ac roedd ganddo ddiddordeb byw ym myd natur o oed cynnar. Creodd ei gasgliad ei hun o gregyn ac wedyn ysgrifennodd a chyhoeddodd sawl papur ar gregynneg.

Pan oedd yn 23 oed cafodd ei benodi’n gadwraethydd casgliadau pryfetegol Oberthur yn Rennes (Roazhon) yn Llydaw. Dychwelodd wedyn i Marseille i astudio’r gyfraith, llenyddiaeth a gwyddoniaeth a chafodd ei ddiploma ym 1885.

Dwy flynedd wedyn cafodd swydd gyda’r llywodraeth yn Algeria. Ar ôl 13 o flynyddoedd o waith caled cafodd ei ddyrchafu’n weinyddydd dros dro ym Mascara yng ngorllewin Algeria. Cyflawnodd ei holl astudiaethau o folysgiaid yn ei amser hamdden.

Sbesimenau o bob man dan haul

Diddordeb pennaf Ancey oedd malwod bychain y tir. Drwy gyfnewid a phrynu y casglodd sbesimenau o bob man dan haul. Mae’r Cefnfor Tawel ac Asia yn cael eu cynrychioli’n arbennig o gryf yn ei gasgliad ond mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau o Ewrop, Gogledd a De America ac Affrica.

Breuddwyd fawr Ancey oedd taith wyddonol i Ynysoedd Cabo Verde neu Dde America ond ni wireddwyd ei ddymuniad am iddo farw o’r dwymyn pan oedd yn 46 oed.

Chwalu’r casgliad

Ar ôl marwolaeth Ancey aeth ei holl gasgliad at Paul Geret, masnachwr cregyn, a werthodd y cwbl ym 1919 a 1923. Brwydrodd casglwyr preifat mawr yr oes – Tomlin, Dautzenberg, Connolly ac eraill – yn erbyn ei gilydd i gael cyfran o’r casgliad oedd yn cael ei chwalu.

Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o sbesimenau Ancey yn Amgueddfa Cymru (Caerdydd: casgliad Melvill-Tomlin), Sefydliad Brenhinol Gwyddorau Naturiol Gwlad Belg (Brwsel: casgliad Dautzenberg), Muséum National d’Histoire Naturelle (Paris), Amgueddfa Bernice P. Bishop (Honolulu) ac Amgueddfa Hanes Natur (Llundain: casgliad Connolly).

Teyrnged i gyflawniadau Ancey

Ym 1908 lluniwyd rhestr o’i gyhoeddiadau am folysgiaid wedi’i dilyn yn fuan gan restr ar wahân o’r enwau gwyddonol a gyhoeddodd. Gwelwyd o’r ddau gyhoeddiad hyn fod Ancey wedi disgrifio rhyw 550 o enwau gwyddonol mewn 140 o bapurau. Yn anffodus nid oedd yr un o’r ddwy restr hyn yn gyflawn a bu hyn yn ddraenen yn ystlys ymchwilwyr byth ers hynny.

Mae staff yn Amgueddfa Cymru erbyn hyn wedi dod o hyd i holl bapurau Ancey ac wedi llunio llyfryddiaeth gynhwysfawr sy’n rhestru 176 o gyhoeddiadau ac ynddynt 756 o enwau gwyddonol newydd.

O gribo drwy gasgliad Melvill-Tomlin gwyddom fod rhyw 300 o’r enwau hyn yn codi yn ein casgliadau o sbesimenau gan Ancey a bod gennym deipsbesimenau o 155 ohonynt.

Ffrwyth yr ymchwil hon yw The New Molluscan Names of César-Marie-Felix Ancey sef yr ymdriniaeth lawnaf o’i waith erioed.

Mae’r gyfrol yn datgelu gwir faint cyfraniad Ancey i wyddoniaeth a chregynneg gan wneud ei gasgliad yn fwy hygyrch i’r gymuned wyddonol ledled y byd.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Mike Severns
7 Gorffennaf 2021, 20:12
I am looking to buy your book but cannot seem to connect with a seller. Is there any possibility I could order it directly from you?

Also, I need an image with at least four views of Cookeconcha thwingi (Ancey, 1904). If you have a specimen of drawing, would you consider imaging it for me. I am almost finished with a revision of the Hawaiian genus Cookeconcha and need types of the described species.

Please let me know.

Mike