Seiniau'r Neanderthaliaid
Darganfuwyd olion Neanderthalaidd sy'n dyddio'n ôl 230,000 o flynyddoedd yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych. Mae'r dannedd hyn a'r offer cerrig sy'n gysylltiedig wedi ysbrydoli'r cyfansoddwr Simon Thorne i greu'r seinwedd Neanderthal i'w chwarae yn yr oriel yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Er nad oedd gan y Neanderthaliaid unrhyw ddyfodol o ran esblygiad, rhyw 600,000 o flynyddoedd yn ôl roeddynt yn rhannu hynafiaid cyffredin gyda phobl fodern fel ni. Mae'r un strwythur i'w clust fewnol a'u llais ag sydd i'n rhai ni. Felly roedd gan y Neanderthaliaid y gallu corfforol i greu a chlywed seiniau. Serch hynny mae rhai o'r farn fod yr ymennydd Neanderthalaidd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol iawn i'n rhai ni. Mae'n bosibl nad oedd y cysylltiadau rhwng gwahanol ardaloedd yr ymennydd mor llithrig ag y maent yn ein hymenyddiau ni. Mae hefyd yn bosibl na allent ffurfio iaith fel modd cyfathrebu.
Mae'n bosibl bod gan y Neanderthaliaid allu mwy na ni i gyfathrebu a mynegi eu hunain drwy gyfrwng cân. Seilir seinwedd Simon ar y llais ac ar seiniau naturiol a recordiwyd yn ystod ymweliad ag Ogof Pontnewydd. Mae'r rhain yn cynnwys diferiadau o nenfwd yr ogof a'r afon sy'n llifo yng ngwaelod y dyffryn. Byddai seiniau cyfarwydd i Neanderthaliaid yn cynnwys rhuo a chyfathrebu anifeiliaid a chân adar. Byddai Neanderthaliaid hefyd wedi cynhyrchu seiniau. Byddai'r rhain yn cynnwys sŵn naddu offer cerrig. Wrth daro nodwl fflint bydd un heb nam arno'n gwneud sŵn clir a bydd y tarwr yn gwybod bod y fflint yn addas i gynhyrchu'r naddion sydd eu hangen i greu casgliad o offer cerrig. Gallai Neanderthaliaid ddefnyddio eu lleisiau ac efallai iddynt ganu eu ffordd drwy'r tir a defnyddio sain i gyfathrebu â'i gilydd wrth hela.
Dychymyg pur yw Neanderthal. Ond mae'n seiliedig ar wyddoniaeth ac mewn ffyrdd newydd, cyffrous mae'n fodd rhoi llais i arddangosfa fud.
Gan: Elizabeth Walker, Curadur Archeoleg Paleolithig a Mesolithig
Seinwedd Neanderthal
- [1mb, MP3]
- [64kb, MP3]