14 coeden newydd wedi'u darganfod ym Mhrydain ac Iwerddon
Mae botanegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cydweithio â gwyddonwyr o Brifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Rhydychen a Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew i enwi rhywogaethau newydd o goed yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Mae'r cyfan yn brin ac angen eu diogelu.
O'r 14 rhywogaeth sydd wedi'u henwi'n swyddogol yr wythnos hon yn Watsonia, cyfnodolyn gwyddonol Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain, mae chwech i'w gweld yng Nghymru, sef:
- Cerddinen Stirton (Sorbus stirtoniana) — clogwyni Craig Breidden, Sir Drefaldwyn yw'r unig le yn y byd i weld y goeden hon;
- Cerddinen Llangollen (Sorbus cuneifolia) - coeden brin sydd ond i'w gweld ar glogwyni Mynydd Eglwyseg, Sir Ddinbych sy'n gartref i tua 240 o blanhigion;
- Y Gerddinen Gymreig (Sorbus cambrensis) — i'w gweld ym Mannau Brycheiniog i'r gorllewin o'r Fenni a Cherddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hodni (Sorbus stenophylla) — dwy rywogaeth o Gymru sy'n perthyn i'w gilydd yn agos;
- Cerddinen Doward (Sorbus eminentiformis) i'w gweld yn Nyffryn Gwy yng Nghymru a Lloegr yn unig;
- Cerddinen Motley (Sorbus x motleyi) — croesiad newydd sy'n tyfu ar un safle ger Merthyr Tudful, lle mae dwy goeden ifanc wedi'u darganfod.
Broses esblygu ar waith
Mae'r datganiad am Gerddinen Motley yn enghraifft o'r broses esblygu ar waith. Dechreuodd fel croes rhwng Cerddinen y Darren Fach a Chriafolen mewn coedwig ar ôl i un o'r ychydig o'r coed Cerddin y Darren Fach oedd ar ôl ddisgyn yng nghorwynt 1989. Roedd y golau ychwanegol o'r bwlch yng nghanopi'r goedwig yn ei gwneud hi'n bosibl i'r hadau yn y pridd egino a thyfu.
Mae'r coed newydd hyn, yn ogystal â saith rhywogaeth newydd yn Lloegr ac un yn Iwerddon, yn perthyn i'r grŵp Sorbus, sy'n cynnwys coed cerddin a choed criafol. O ganlyniad, mae nifer y math hwn o goed wedi cynyddu dros 50%.
Arweiniwyd y project gan Dr Rich, ac fe'i hariannwyd yn bennaf gan Sefydliad Leverhulme ac Amgueddfa Cymru gyda chyfraniadau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Natural England a Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew.
Mae'n debyg bod rhai o'r coed hyn wedi datblygu'n ddiweddar ac maent yn dangos bod rhywogaethau newydd yn esblygu drwy'r amser. Mae rhai eraill yn hŷn ac wedi bod yn hysbys i ni ers peth amser, ond dim ond nawr y gallwn eu disgrifio fel 'rhywogaethau' diolch i ddulliau DNA modern.
Rrhywogaethau a'r croesiadau newydd
Cymru
Cerddinen Llangollen - Sorbus cuneifolia
- Rhywogaeth newydd o'r Gogledd sydd wedi esblygu o'r Gerddinen Seisnig mwy na thebyg.
- Mae'r enw Lladin cuneifolia yn cyfeirio at fonion culach y dail, nodwedd sy'n wahanol i'r Gerddinen Seisnig.
- Dyma goeden brin sydd ond i'w gweld ar glogwyni Mynydd Eglwyseg i'r gogledd o Langollen yn Sir Ddinbych, sy'n gartref i tua 240 o blanhigion.
Cerddinen Motley - Sorbus x motleyi
- Croesiad newydd sy'n tyfu ar un safle ger Merthyr Tudful yn unig, lle mae dwy goeden ifanc wedi'u darganfod.
- Dyma enghraifft o'r broses esblygu ar waith. Dechreuodd fel croes rhwng Cerddinen y Darren Fach a Chriafolen mewn coedwig ar ôl i un o'r ychydig o'r coed Cerddin y Darren Fach oedd ar ôl ddisgyn yng nghorwynt 1989. Roedd y golau ychwanegol o'r bwlch yng nghanopi'r goedwig yn ei gwneud hi'n bosibl i'r hadau yn y pridd egino a thyfu.
- Darganfuwyd y goeden am y tro cyntaf ym 1999 gan Graham Motley o Gyngor Cefn Gwlad Cymru pan oedd yn monitro'r Gerddinen Ley brin, ac mae'r goeden wedi'i henwi ar ei ôl.
Cerddinen Stirton - Sorbus stirtoniana
- Rhywogaeth newydd, sydd bellach wedi'i chydnabod fel coeden wahanol i'r Gerddinen ddail main.
- Mae tua 40 o goed i'w gweld ar glogwyni Craig Breidden, Sir Drefaldwyn.
- Mae hi wedi'i henwi er anrhydedd i'r Athro Charles Stirton er mwyn cydnabod ei waith ysbrydoledig yn sefydlu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
- Mae rhai o'r coed yn tyfu yn yr Ardd Fotaneg.
Y Gerddinen Gymreig - Sorbus cambrensis a Cherddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hodni - Sorbus stenophylla
- Dwy rwyogaeth newydd o Gymru sy'n perthyn yn agos i'w gilydd.
- Mae astudiaethau biocemegol wedi dangos bod y rhywogaethau hyn yn wahanol i'w gilydd ac i'r Cerddin dail llwyd y credid eu bod yn perthyn iddynt cynt.
- Credir bod tua 100 o blanhigion y Gerddinen Gymreig yn ardal ddwyreiniol Bannau Brycheiniog i'r gorllewin o'r Fenni.Darganfuwyd Cerddinen Dyffryn Llanddewi Nant Hodni am y tro cyntaf ym 1874 gan y Parch. Augustin Ley.
- Mae'n debyg bod tua 100-200 o blanhigion yn Nyffryn Llanddewi Nant Hodni.
Lloegr
Cerddinen Ceunant yr Avon - Sorbus x avonensis
- Croesiad rhwng y Gerddinen Wen a'r Gerddinen Ddail Llwyd.
- Fe'i darganfuwyd am y tro cyntaf gan Dr Tim Rich, Ashley Robertson a Libby Houston pan oeddent yn astudio coed cerddin yng Ngheunant yr Avon yn 2004.
- Dim ond yng Ngheunant yr Avon, Bryste y mae wedi cael ei gweld hyd yn hyn, ond mae'n bosibl ei bod i'w gweld yn lleol yn ne-orllewin Lloegr lle mae'r rhieni yn tyfu gyda'i gilydd.
Cerddinen Houston - Sorbusx houstoniae
- Croesiad rhwng y Gerddinen Wen a Cherddinen Bryste.
- Dim ond un enghraifft sydd, ar glogwyn yng Ngheunant yr Avon, ac ni ellir ei chyrraedd heb ddefnyddio rhaffau. Darganfuwyd y goeden gan Ms Libby Houston yn 2005.
Cerddinen Coed Leigh - Sorbus leighensis
- Rhywogaeth newydd sydd wedi bod yn hysbys i ni ers yr 1980au. Dim ond yn ddiweddar, trwy gyfrwng dulliau DNA, y bu'n bosibl nodi'r gwahaniaethau rhwng y goeden hon â'r Gerddinen Ddail Llwyd.
- Mae'n gyffredin yng Nghoedwig Leigh ar ochr Gwlad yr Haf Ceunant yr Avon.
- Credir bod tua 100 o goed yn bodoli.
Cerddinen Margaret - Sorbus margaretae
- Mae hon yn perthyn i Gerddinen y Graig a'r Gerddinen Ruddgoch.
- Fe'i nodwyd fel rhywogaeth ar wahân am y tro cyntaf gan Margaret E. Bradshaw pan oedd hi'n cynnal arolwg o goed Cerddin prin yn ne-orllewin Lloegr ym 1984, ac mae wedi'i henwi ar ei hôl.
- Dim ond ar glogwyni arfordir gogledd Dyfnaint a Gwlad yr Haf y mae'n tyfu, a chredir bod o leiaf 120 o goed yno.
Cerddinen Dim Parcio - Sorbus admonitor
- Nodwyd bod y Gerddinen Dim Parcio yn wahanol i Gerddinen Dyfnaint (a oedd yn fwy cyffredin) am y tro cyntaf yn yr 1930au, ond dim ond yn ddiweddar y profwyd ei bod hi'n rhywogaeth wahanol drwy wneud gwaith dadansoddi biocemegol.
- Mae'r enw yn tarddu o gyfnod yn yr 1930au pan oedd arwydd 'Dim Parcio' wedi'i hoelio ar goeden ger encilfa fechan yn Watersmeet, Gogledd Dyfnaint.
- Mae'r goeden hon yn gyffredin yn ardal Watersmeet, Gogledd Dyfnaint lle mae o leiaf 110 o goed yn tyfu.
Criafolen Proctor - Sorbus x proctoris
- Croesiad newydd rhwng Criafolen a Chriafolen Sichuan.
- Mae'n cael ei henwi ar ôl Dr Michael Proctor, uwch fotanegydd blaenllaw o Brifysgol Caerwysg, yn dilyn ei waith rhagorol ym maes coed Cerddin Prydeinig.
- Dim ond un goeden sydd wedi'i darganfod yn y gwyllt yng Ngheunant yr Avon, lle mae problem o safbwynt cadwraeth. Gan mai coeden yr ardd o Tsieina yw un o'i rhieni, mae perygl y gall genynnau'r Griafolen Sichuan ledaenu i'r coed criafol cynhenid yng Ngheunant yr Avon. I atal hyn, un dewis posibl fyddai dinistrio/tynnu'r unig enghraifft o'r goeden hon!
Cerddinen Robertson - Sorbus x robertsonii
- Croesiad newydd sy'n gyfuniad o'r Gerddinen Wen a'r Gerddinen Ddeilgrwn.
- Dim ond un goeden sydd wedi'i darganfod hyd yn hyn, ond gallai fod yn gyffredin yn ne-orllewin Lloegr.
- Fe'i canfuwyd am y tro cyntaf gan Dr Tim Rich, Ashley Robertson a Libby Houston pan oeddent yn astudio coed cerddin yng Ngheunant yr Avon.
- Mae'n cael ei henwi ar ôl Dr Ashley Robertson am ei waith rhagorol ym maes esblygu coed cerddin yng Ngheunant yr Avon.
Cymru a Lloegr
Cerddinen Doward - Sorbus eminentiformis
- Rhywogaeth newydd, sydd i'w gweld yn Nyffryn Gwy yng Nghymru a Lloegr yn unig.
- Mae'n debyg bod poblogaeth y goeden yn llai na 100, ac mae'r mwyafrif i'w gweld ar y Great Doward.
Iwerddon
Cerddinen Maura Scannell - Sorbus scannelliana
- Rhywogaeth newydd a nodwyd fel un wahanol ym mis Medi 2008.
- Mae pum coeden i'w gweld ym Mharc Cenedlaethol Killarney, Swydd Kerry, Gweriniaeth Iwerddon, ac mae'n debyg eu bod yn tarddu o groesiad rhwng Cerddinen y Graig a Chriafolen.
- Mae'n cael ei henwi ar ôl Maura Scannell, cynt o Erddi Botaneg Cenedlaethol Glasnevin, un o brif fotanegwyr Iwerddon sydd â gwybodaeth heb ei hail am fotaneg y wlad.
Cyfeiriadau:
- Rich, T. C. G. a Proctor, M. C. F. (2009). Some new British and Irish Sorbus L. taxa (Rosaceae). Watsonia 27: 207-216.
- Rich, T. C. G., Harris, S. A. a Hiscock, S. J. (2009). Five new Sorbus (Rosaceae) taxa from the Avon Gorge, England. Watsonia 27: 217-228.
sylw - (1)