Cregyn bylchog sy'n bwyta nwy
Ceir cronfeydd mawr o olew a nwy naturiol yn ddwfn o dan wely'r môr, ond ni ddarganfuwyd tan yn gymharol ddiweddar fod methan yn tryddiferu o arwyneb gwely'r môr. Gelwir y mannau hyn yn 'dryddiferfannau nwy', ac mae rhai anifeiliaid wedi esblygu yn benodol i fanteisio ar yr amgylchedd unigryw hwn.
Diet o fethan a sylffwr
Mae cymunedau o gregyn bylchog yn byw wrth y tryddiferfannau methan hyn sy'n defnyddio'r nwy fel ffynhonnell fwyd. Nid ydynt yn bwyta'r nwy, ond maent wedi esblygu i lochesu bacteria yn eu meinwe sy'n cyflawni'r dasg yn eu lle.
Gelwir yr organebau hyn yn rhai 'cemosymbiotig', ac mae rhai grwpiau o gregyn bylchog wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth addasu i'r amgylchedd hwn.
Mae'r grŵp hwn o gregyn bylchog yn gallu ecsploetio sylffwr hefyd, ac maent yn byw mewn mannau lle ceir haenau o blanhigion yn pydru, o amgylch carcasau pydredig morfilod, wrth agorfaoedd poeth, a hyd yn oed mewn mwd sydd wedi'i lygru ag olew disel.
Oherwydd bod y cregyn bylchog hyn yn dod o amgylchedd anghyffredin, ac yn aml o ddyfroedd dyfnion, mae llawer ohonynt eto i'w hastudio'n fanwl. Anfonwyd nifer ohonynt i Amgueddfa Cymru i gael eu hadnabod a'u disgrifio.
Cregyn bylchog o Chile
Anfonwyd cregyn yn ogystal â sbesimenau byw o gregyn bylchog i'r Amgueddfa yn dilyn darganfyddiad tryddiferfan nwy oddi ar arfordir Chile 700-900m o dan arwyneb y môr.
Roedd un rhywogaeth o'r fath, mewn grŵp o'r enw Thyasira, yn newydd i wyddoniaeth. . Astudiwyd y bacteria ym meinwe tagell y gragen fylchog drwy ddefnyddio microsgop sganio electronig. Cadarnhaodd hyn y symbiosis (dibyniaeth) rhwng y bacteria a'r gragen fylchog.
Darganfuwyd bod rhywogaeth o'r genws Lucinoma yn newydd i wyddoniaeth hefyd, ond hyd yma dim ond cregyn a ddarganfuwyd. Mae'n debygol bod y mwyafrif o'r rhywogaethau sy'n byw ar y safle hwn yn endemig (wedi'u cyfyngu i'r lleoliad hwn) ac nac ydynt yn bodoli unrhyw le arall yn y byd.
Glandir Pacistan
Anfonwyd rhywogaeth fach o Thyasira atom ar draws y byd o Indus Fan oddi ar arfordir Pacistan. Fe'i casglwyd yn ystod astudiaethau o'r ffawna anghyffredin sy'n byw yn nyfroedd ocsigen isel yr ardal.
Canfuwyd y gragen fylchog bitw hon mewn dwyseddau hyd at 500/y metr sgwâr ac mae'n sicr ei fod wedi manteisio ar y bwyd helaeth. Dyma genws arall sydd heb ei astudio, ac mae'r Amgueddfa'n cydweithio â'r Amgueddfa Hanes Natur, Llundain sy'n astudio trefn folecwlar (DNA) y grŵp.
Cragen fylchog â blas am longddrylliadau
Manteisia'r cregyn hefyd ar ffynonellau artiffisial o fethan a sylffwr, ac un o'r rhyfeddaf ohonynt oedd cargo'r llong gynwysyddion suddedig "Francois Vieljeux". Suddodd y llong oddi ar arfordir gogledd Sbaen mewn 1160m o ddŵr, ynghyd â'i chargo o ffa castor a hadau blodau'r haul.
Yn ystod yr ymdrechion i achub y llong sylwyd bod cregyn bylchog wedi setlo ac wedi tyfu ar y cargo. Roedd y cregyn bylchog i gyd yn perthyn i grwpiau cemosymbiotig ac yn ecsbloetio'r sylffwr a ryddhawyd gan y cargo pydredig. Roedd un o'r cregyn bylchog yn Thyasira tebyg i'r sbesimen o Chile.
Basn Cascadia, oddi ar Dalaith Washington
Tarddell boeth yng ngogledd ddwyrain y Môr Tawel yw Baby Bare Seamount sy'n gartref i rywogaeth newydd o Axinus (tebyg i Thyasira). Mae'r safle'n anghyffredin oherwydd nad oes yno enghreifftiau o'r rhywogaethau deufalf eraill sy'n nodweddiadol mewn lleoliadau tryddiferfannau methan ac awyrellau poeth. Ar y cychwyn roedd ffynhonnell maeth yr anifeiliaid yn ddirgelwch gan fod y lefelau methan a hydrogen sylffid mor isel.
Llosgfynyddoedd Mwd Cadiz
Oddi ar arfordir de Portiwgal ceir nifer o losgfynyddoedd mwd a ffurfiwyd gan wasgiannau'r platiau tectonig Affricanaidd ac Ewrasiaidd. Mae'r gwasgiannau'n gwthio hylif sy'n llawn methan a sylffwr o grombil y llosgfynyddoedd i wely'r môr uwchben. Erbyn i'r hylifau gyrraedd yr arwyneb maent wedi oeri, felly gelwir y llosgfynyddoedd yn dryddiferfannau oer. Ceir nifer o rywogaethau o gregyn bylchog Thyasira ar y safleoedd hyn, ond dim ond rhai ohonynt sy'n llochesu'r bacteria cemosymbiotig i'w galluogi i dynnu maeth o sylffwr a methan. Yn sgil cydweithio rhwng yr Amgueddfa a Phrifysgol Cadiz, Sbaen, disgrifiwyd rhywogaeth newydd o'r enw Thyasira vulcolutre, sy'n golygu 'perthyn i losgfynydd mwd'.
Erbyn hyn, mae'r Amgueddfa, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, yn gweithio ar dacsonomeg Thyasira a gasglwyd mewn folcano mwd yn yr Arctig, a misglen o'r genws Idas a gasglwyd o fwd a lygrwyd gan ddisel o dan lwyfan olew ym Môr y Gogledd.
Mae'r gwaith hwn gan Amgueddfa Cymru yn cynorthwyo i ymchwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio'r cregyn bylchog hyn i lanhau mannau llygredig ar wely'r môr.
sylw - (2)
Digital Team,
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
could you help me with this publication? I would Need a PDF, but could not find addresses od the authors:
Wood, H. / Gallichan, J. 2008: The new molluscan names of César-Marie-Felix Ancey including illustrated type material from the National Museum of Wales. - Studies in Biodiversity and Systematics of Terrestrial Organisms from the National Museum of Wales. Biotir Reports 3: I-VI; 1-162; plts. 1-26.
Many thanks for your efforts,
Wolfgang
Hirschpass 44
D-23564 Lübeck