Lluniau natur: Darluniau botanegol
Swynwyd dyn erioed gan flodau, gan eu harddwch, a'r posibiliadau ar gyfer iachâd a gwybodaeth. Mae Amgueddfa Cymru yn dal casgliad unigryw o dros 9,000 darlun botanegol, yn pontio pum canrif.
Yn dilyn arddangosfa fechan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym 1942, cafodd y darluniau eu storio. 50 mlynedd yn ddiweddarach ail ddarganfuwyd ystod ac arwyddocâd y casgliad, a gwerthfawrogwyd eu lluniadaeth goeth yn llawn.
Mae'r casgliad yn cynnwys gwaith yn amrywio o ysgythriadau proffesiynol i ddyfrlliwiau amatur, ac yn cynnwys nifer o eitemau gan feistri cydnabyddedig megis Georg Dionysius Ehret a Pierre Joseph Redouté.
500 mlynedd o ddarluniau botanegol
Mae'r casgliad yn dilyn datblygiad darluniau botanegol a'r berthynas rhwng celf a gwyddoniaeth o lysieulyfrau canol oesol yr Oesoedd Tywyll, pan oedd dyn yn ofni Natur, drwy'r Oleuedigaeth a'r teithiau darganfod, hyd at ddarluniau cyfoes yr 21ain Ganrif.
Blodeulyfrau
Erbyn 1600, ar ôl y llysieulyfrau blociau pren cynnar, arweiniodd y broses o ysgythru ar fetel at ddarluniad manach o bob manylyn bach, gan chwyldroi darluniau botanegol. Flora Londinensis (1777-87) gan William Curtis yw un o'r blodeulyfrau Prydeinig enwocaf, yn rhestru'r holl blanhigion o fewn deng milltir i Lundain. Blodeulyfr Ewropeaidd pwysig o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Flora Danica (1763-1885) a gymrodd bron i gan mlynedd i'w chwblhau.
Yn yr 17eg Ganrif, tyfwyd planhigion am eu harddwch yn ogystal â'u defnydd ymarferol a gwyddonol. Cynhyrchodd y cyfoethog flodeugerddi yn darlunio'r planhigion prin a hardd ar eu hystadau, tra bod canllawiau gwyddonol yn llawn darluniau manwl o ystod eang o blanhigion.
Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o brintiadau gwreiddiol o'r 17eg Ganrif, gan gynnwys gwaith gan Redouté, Sowerby, Fitch, a Sydenham Edwards, a anwyd yng Nghymru.
Cyflwyno tacsonomeg
Ym 1753 datblygodd y naturiaethwr o Sweden, Carl Linnaeus system newydd o enwi a dosbarthu pob peth byw. Cafodd popeth ddau enw yn Lladin: enw genws ac enw rhywogaeth. Cafodd hyn effaith sylweddol ar steil y darluniau botanegol. Roedd y pwyslais bellach ar organau rhywiol y planhigyn, er mawr ddychryn i'r gymdeithas foneddigaidd.
Derbyniwyd y system Linnaeaidd newydd yn rhannol drwy safon uchel y darluniau a gynhyrchwyd gan G. D. Ehret ar y pryd. Mae gan yr Amgueddfa ddarluniau gan Ehret o Plantae Selectae (1750-73) a hefyd gasgliad gan J. S. Miller o Botanical Tables (1785) Bute, a gomisiynwyd gan John Stuart, 3ydd Iarll Bute.
Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gwaith gan Redouté, Kirchner ac Elizabeth Blackwell. Darluniodd Backwell lysieulyfr o'r enw A Curious Herbal i ryddhau ei gwr o'i garchariad mewn carchar i ddyledwyr.
Teithiau darganfod
Botanegwyr ar y teithiau epig o ddarganfod yn y 18fed a'r 19eg ganrif oedd y cyntaf i gofnodi a chasglu'r planhigion egsotig a welwyd yn y tiroedd pellennig, heb eu mapio. Am y tro cyntaf, gwelodd Ewropeaid luniau o ffrwythau egsotig megis afalau pîn, paw-paws a phomgranadau.
Mae esiamplau yn y casgliadau yn cynnwys Banks' Florilegium a gweithiau o Curtis's Botanical Magazine.
Brwdfrydedd Fictoraidd
Daeth brwdfrydedd aruthrol am wyddoniaeth yn y cyfnod Fictoraidd. Daeth ysgythriadau o blanhigion newydd yn gyffredin drwy newyddiaduron a chylchgronau poblogaidd, megis Carter's Floral Illustrations a Paxton's Floral Garden.
Arweiniodd darganfyddiad Victoria regia, y lili'r dŵr enfawr o'r Amazon, at elyniaeth rhwng garddwyr tai mawr Lloegr, yn cystadlu am y cyntaf i lwyddo i'w gael i flodeuo ym Mhrydain. Joseph Paxton, garddwr Chatsworth, enillodd y ras. Dywedir mai strwythur y ddeilen enfawr ysbrydolodd ei gynllun ar gyfer Crystal Palace.
sylw - (1)