Aduniad i berthnasau 460 milion oed o Gymru a Gwlad Belg

Didymograptws

, grapolit 'trawfforch' o fath sy'n gyffredin yn y ddwy ardal.

Pricyclopyge

, trilobit cefnforol â llygaid mawr sydd â dosbarthiad eang ym Mhrydain a gogledd-gorllewin Ewrop;

Tarian pen Ormathops, trilobit dyfnforol sy'n gyfyngedig i Fohemia.

Llanvirn Farm, Abereiddi, Sir Benfro

Tua diwedd y 19eg ganrif, dechreuodd Henry Hicks, llawfeddyg o Dyddewi, ymddiddori yn hen greigiau gogledd Sir Benfro ac, ymhen amser, daeth yn arbenigwr rhyngwladol. Ym 1881, galwodd greigiau Bae Abereiddi yn 'Grŵp Llanvirn', ar ôl fferm gerllaw. Erbyn heddiw, mae'r enw'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac fe'i gwelir mewn cyhoeddiadau daearegol ym mhedwar ban byd — tipyn o beth i fferm fechan ar arfordir gwyntog Sir Benfro.

Bu staff yn Amgueddfa Cymru'n astudio creigiau Llanvirn a'u ffosilau ers dros chwarter canrif ac, yn 2000, gwahoddwyd Dr. R Owens o'r Adran Ddaeareg i archwilio ffosilau o greigiau o Gyfres Llanvirn sydd yn y golwg yn nyffryn Meuse yng Ngwlad Belg. Cymharwyd rhywogaethau o drilobitau a ganfuwyd yn y creigiau hyn â rhai o Ynysoedd Prydain.

Ffosilau yr un fath yng Nghymru a Gwlad Belg

Fel rheol, mae'n rhaid wrth lawer o amser ac ymdrech i ganfod ffosilau yng nghreigiau Llanvirn. Mae'r graptolitau a'r trilobitau a ganfuwyd yng Ngwlad Belg i gyd yn union yr un peth â'r rhai a ganfuwyd yng Nghymru ac Ardal y Llynnoedd. Credir bod y creigiau Llanvirn lle ceir y ffosilau wedi'u gosod yn y môr dwfn.

Yn ystod y cyfnod Ordofigaidd pan gafodd creigiau Llanvirn eu dyddodi, roedd de Prydain, Gwlad Belg a gogledd yr Almaen oll yn rhan o gyfandir bychan o'r enw 'Afalonia', ac roedd y 'Cefnfor Rheig' rhyngddo a chyfandir enfawr Gondwana.

Trilobitau Dall

Mae trilobitau y credir mai dim ond ar wely'r môr yr oeddent yn byw [rhywogaethau dyfnforol] yn tueddu i gael eu cyfyngu i rai ardaloedd yn unig ond mae rhai y credir eu bod yn nofio yn nŵr y môr [rhywogaethau cefnforol] wedi'u dosbarthu'n eang. Mae gan un o'r rhywogaethau o drilobitau a ganfuwyd yng Ngwlad Belg lygaid anferth a chredir ei bod yn rhywogaeth gefnforol. Mae'r ffosil hwn yn gyffredin mewn sawl ardal. Ar y llaw arall, mae un arall, a ddisgrifiwyd gyntaf gan Hicks o Abereiddi, yn ddall, a chredir mai un dyfnforol ydoedd. Fodd bynnag, mae i'r rhywogaeth hon ddosbarthiad eang hefyd ac mae hynny'n anos i'w esbonio; efallai ei bod yn treulio amser maith fel larfa bach, yn cael ei gludo gan lif y dŵr, fel bod i'r ffosilau ddosbarthiad eang; neu efallai mai rhywogaeth gefnforol ydoedd, yn byw mewn talpiau o wymon oedd yn nofio yn y môr ac yn cael ei chario ganddynt.

Mae creigiau Ordofigaidd sy'n iau na rhai Cyfres Llanvirn hefyd yn brigo yn nyffryn Meuse. Maent yn cynnwys rywogaethau o drilobitau a geir hefyd yng ngogledd Cymru a gogledd Lloegr. Mae hyn yn dangos bod Gwlad Belg yn dal yn rhan o Afalonia trwy gydol y Cyfnod Ordofigaidd. Fodd bynnag, mae creigiau a geir rhwng y rhain a chreigiau Llanvirn cynharach yn cynnwys trilobitau sy'n wahanol i'r rhai o Brydain, ond sy'n debyg iawn i ffosilau o Fohemia. Mae'n annhebygol bod rhan o Afalonia wedi gwahanu, wedi symud yn nes at Fohemia ac wedi symud yn ôl eto. Pam felly y mae'r trilobitau hyn yn debyg i rai Bohemia?

Efallai mai'r ateb yw bod yr amgylchedd o dan y môr wedi dod yn debycach i un Bohemia nag i un de Prydain. Er na wyddom beth oedd hydred Bohemia nac Afalonia, mae'n rhaid bod y ddwy ardal yn ddigon agos fel y gallai larfa'r trilobitau groesi rhyngddynt ac felly gael eu dosbarthu'n eang.

Mae'r gwaith hwn wedi cadarnhau bod cysylltiad clos rhwng ffosilau mewn rhannau o Sir Benfro ac yng Ngwlad Belg 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi tynnu sylw at broblemau dosbarthiad ffosilau sy'n dal heb eu datrys yn llawn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.