Llysieulyfrau cynnar - Tadau Almaenig botaneg
Ceir nifer o lyfrau o'r cyfnod cyn 1701 yn Llyfrgell Amgueddfa Cymru, yn cynnwys dau incwnabwlwm (llyfrau a argraffwyd cyn 1501) o waith Pliny ar fyd natur sy'n dyddio o 1481 a 1487.
Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o 'lysieulyfrau' o'r 16eg a'r 17eg ganrif. Ymhlith y rhain, ceir enghreifftiau o weithiau tri dyn a ddisgrifiwyd fel tadau Almaenig botaneg, sef Hieronymous Bock (1498-1554), Otto Brunfels (1489-1534) a Leonhard Fuchs (1501-1566).
Llysieulyfrau
Mae llysieulyfrau argraffedig yn rhoi manylion planhigion ac yn nodi pa salwch y gallai pob un ohonynt ei wella. Yr hyn a wnaeth waith y tri dyn hyn yn arbennig yw bod llawer o'r disgrifiadau a'r darluniau o'r blodau yn eu llyfrau wedi'u seilio, ar y cyfan, ar y blodau eu hunain yn y maes yn hytrach na'u bod wedi'u copïo o waith awduron eraill.
Hieronymous Bock (1498-1554)
Gan nad oedd lluniau yn llysieulyfr Bock ym 1539, bu'n rhaid iddo roi disgrifiadau manwl a chywir. Mae gan yr Amgueddfa argraffiad diweddarach, darluniedig, a gyhoeddwyd ym 1552. Er bod y tudalennau cyntaf ar goll, mae prif gorff y testun yn gyflawn a cheir ynddo ddarluniau cywrain wedi'u lliwio â llaw.
Dim ond y planhigion eu hunan a ddangosir yn y rhan fwyaf o'r torluniau pren ond, weithiau, dangosir adar a phobl, er enghraifft yn y darlun amrwd braidd o effeithiau bwyta ffigysen!
Otto Brunfels (1489-1534)
Ail gyfrol Herbarum Vivae Eicones (1531) yw'r gwaith gan Otto Brunfels sydd yn y Llyfrgell. Ystyr y teitl yw 'lluniau byw o blanhigion' ac roedd yr awdur yn un o'r bobl gyntaf i droi at fyd natur ei hunan wrth dynnu lluniau ar gyfer llyfr.
Leonhard Fuchs (1501-1566)
Ceir dau lyfr gan Fuchs yn y Llyfrgell, sef De Historia Stirpium (1542) a Plantarum Effigies (1549). Er mai dim ond rhai o'r disgrifiadau o blanhigion a ysgrifennwyd gan Fuchs a bod y rhan fwyaf wedi'u cymryd o lyfrau eraill, ansawdd y lluniau sy'n gwneud y llysieulyfr hwn yn un o lyfrau pwysicaf yr 16eg ganrif.
Fersiwn poced o gyfrol 1542, i'w defnyddio yn y maes, yw'r Plantarum Effigies; ychydig iawn o ysgrifen sydd ynddo, ar wahân i fynegai i'r planhigion a ddarluniwyd. Gyda phob torlun pren, rhoddir enw'r planhigyn mewn tair neu fwy o ieithoedd — pump fel rheol (Groeg, Lladin, Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg).
Ceir llysieulyfrau pwysig eraill o'r un cyfnod yn Llyfrgell Amgeddfa Cymru hefyd, yn arbennig weithiau Rembert Dodoens (1516-1585) a John Gerard (1545-1612).
Rembert Dodoens (1516-8155)
Cyhoeddwyd llysieulyfr Dodoens mewn Fflemeg ym 1554. Gan yr Amgueddfa y mae'r argraffiad Saesneg cyntaf, a gyhoeddwyd ym 1578. Fe'i cyfieithwyd gan Henry Lyte ac mae'n cynnwys defnydd newydd a anfonodd Dodoens ei hunan at Lyte i'w gynnwys yn yr argraffiad newydd.
John Gerard (1545-1612)
The Herball gan Gerard (1597) yw un o'r llysieulyfrau pwysicaf a ysgrifennwyd yn Saesneg. Roedd Gerard yn brif arddwr mewn sawl lle yn ardal Llundain ac roedd hefyd yn gyfrifol am erddi William Cecil, Arglwydd Burghley, Ysgrifennydd Gwladol ac Arglwydd Drysorydd Elisabeth l. I Cecil y cyflwynodd Gerard y gwaith pwysig hwn.
Mae gan y Llyfrgell gopi o argraffiad 1633 a'r gwaith gwreiddiol hefyd.
Ymhlith y llysieulyfrau eraill yng nghasgliadau'r Llyfrgell mae enghraifft Almaenig anghyflawn o hanner cyntaf yr 16ed ganrif. Bu unwaith ym meddiant dyn o'r enw Morris Owen o Sir Gaernarfon a ysgrifennodd mewn inc, tua 1767, enwau Cymraeg y gwahanol blanhigion; rhoddir yr enwau Saesneg hefyd gan amlaf.
Mae cryn ddiddordeb yn y llyfr hwn, a'r llysieulyfrau eraill, hyd heddiw, yn enwedig gan bobl sy'n astudio hanes botaneg a fferylliaeth yn ogystal â chan bobl sy'n ymddiddori yn hanes y llyfr argraffedig.