Peli Camffor ac Arsenig, Llau Llyfrau a Phryfed Arian - Peryglon Llysieufa'r Amgueddfa

Sbesimen wedi'i ddifrodi gan chwilen bisgedi

Gwneud profion i ganfod lefelau anwedd arian byw yng nghypyrddau'r llysieufa

Enghraifft o afliwio a achoswyd gan blaleiddiaid. Dangosodd gwaith ymchwil bod y sbesimen hwn wedi'i drin ag arsenig, arian byw a bariwm — sy'n niweidiol i'r sbesimen ac i iechyd

Mae dros 250,000 o sbesimenau o blanhigion wedi'u sychu o bedwar ban byd yn Amgueddfa Cymru, rhai ohonynt yn dyddio 'nôl i'r 18fed ganrif. Gall plaleiddiaid tocsig a ddefnyddiwyd ar y sbesimenau hyn dros y blynyddoedd wneud drwg iddynt a pheryglu iechyd y rhai sy'n gweithio arnynt.

Rhoddir plaleiddiaid ar y sbesimenau i wrthsefyll plâu fel llau llyfrau, chwilod bisgedi a phryfed arian. Mae plâu wedi bod yn fygythiad i sbesimenau o fyd natur erioed a gallant gael effaith ddinistriol ar gasgliad botanegol gan ddifa manylion pwysig neu hyd yn oed sbesimenau cyfan.

Erbyn hyn, gwyddom fod rhai mathau o blaleiddiaid a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn niweidiol ac yn wenwynig. Gallai pobl sy'n trafod y casgliadau beryglu eu hiechyd, yn enwedig gan na wyddom faint o gemegau a pha fath o gemegau a ddefnyddid yn y plaleiddiaid.

Cafodd samplau bychan o ddalenni o lysieufa'r Amgueddfa eu dadansoddi i weld pa gemegau oedd mewn un sampl. Er enghrafft, pe bai arian byw ac arsenig wedi'u defnyddio ar ddalen yn y llysieufa, byddai un prawf yn canfod y ddau fetal.

Gwelwyd mai'r cemegau a ddefnyddid amlaf oedd carbon deusylffid, clorid mercwrig, methyl bromid, naphthalin, paradiclorobensen a pyrethroidau.

Arian Byw

Canfuwyd llawer o arian byw yn y samplau papur a chymerwyd camau ar unwaith i ddiogelu pobl oedd yn trafod sbesimenau. Gall arian byw gael ei gymryd i'r corff trwy ei anadlu, ei amsugno a'i lyncu a gall ei effeithiau amharu ar ffrwythlondeb, gall achosi mwtadu genynnol, cryndod, nam ar y golwg, newidiadau difrifol i'r bersonoliaeth a hyd yn oed ddifrod i'r ymennydd.

Mesurwyd faint o anwedd arian byw oedd yn y llysieufa ac roedd y darlleniadau ym mhob safle lle cymerwyd darlleniadau ymhell islaw y safon iechyd a diogelwch a argymhellir. Rhoddwyd offer monitro ar ddillad unigolion.

Peli Camffor ac Arsenig

Er ei bod yn anodd mesur arsenig yn fanwl, canfuwyd peth ohono ar y rhan fwyaf o'r sbesimenau y cynhaliwyd profion arnynt. Canfuwyd naphthalin ar yr holl samplau, yn ôl y disgwyl. Defnyddiwyd peli camffor, a wnaed o naphthalin, yng nghypyrddau'r llysieufa tan y 1980au.

Llwyddodd y prosiect i ganfod y cemegau a'r metalau peryglus a oedd yn olion y plaleiddiaid a bwriedir parhau i fonitro ansawdd yr aer a'r staff fel y gellir parhau i weithio yn y llysieufa heb berygl.

Ar ôl gwneud y profion, lluniwyd cronfa ddata yn nodi'r sbesimenau, y plaleiddiaid, y llygryddion a'r peryglon i iechyd ac i'r sbesimenau. Defnyddiwyd y gronfa hon i helpu i ganfod peryglon yn llysieufeydd sefydliadau botanegol eraill.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.