Creaduriaid hud y dyfnderoedd mewn gwydr
Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad hynod o fodelau gwydr manwl prydferth o greaduriaid a wnaed ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y crefftwr gwydr a'r naturiaethwr dawnus Leopold Blaschka.
Amgueddfeydd newydd yn dangos holl blanhigion ac anifeiliaid y byd
Roedd ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod o ddarganfod mawr ym myd gwyddoniaeth. Roedd amgueddfeydd newydd yn agor i'r cyhoedd â'u horielau'n arddangos planhigion ac anifeiliaid o bedwar ban y byd. Doedd hi ddim yn anodd arddangos rhai mathau o anifeiliaid. Gellid tynnu crwyn adar, mamolion, ymlusgiaid a hyd yn oed pysgod, a'u stwffio eto i ail-greu anifeiliaid realistig.
Ond beth am anifeiliaid meddal, fel slefrod môr a milflodau, oedd yn cael eu cadw mewn gwirod? Roedd eu lliwiau'n pylu'n gyflym a'u siapau'n dirywio. Dyfeisiodd y crefftwr gwydr a'r naturiaethwr o'r Almaen, Leopold Blaschka, ateb i'r broblem. Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sefydlodd fusnes llwyddiannus gyda'i fab, Rudolf, yn gwerthu modelau gwydr, o anifeiliaid y môr yn bennaf, i amgueddfeydd ledled y byd.
Leopold Blaschka
Ganed Leopold Blaschka yn Bohemia, sef y Weriniaeth Czech heddiw, ym 1822. Roedd y teulu Blaschka, oedd yn hanu o Fenis, yn grefftwyr gwydr medrus. Dangosodd Leopold ei ddawn artistig yn ifanc iawn. Yn fuan ar ôl gadael yr ysgol, ymunodd â busnes ei dad oedd yn creu addurniadau o fetel a gwydr.
Arbrofodd gyda modelau gwydr o flodau. Yn ddiweddarach, ym 1863, gwnaeth fodelau o filflodau a gafodd eu harddangos yn Amgueddfa Dresden, yr Almaen. Denodd y rhain sylw curaduron amgueddfeydd hanes natur a archebodd setiau o fodelau o filfloau. Yn fuan wedyn, ychwanegol fodelau o slefrod môr a malwod. Erbyn hynny, roedd ei fab, Rudolf, yn gweithio gydag ef.
Roedd y teulu'n awyddus i gadw i fyny â'r galw am eu gwaith. Roedd catalog cynnar o 1871 yn rhestru bron i dri chant o fodelau. Erbyn 1888, roedd catalog a gyhoeddodd eu hasiant Americanaidd, Henry Ward, yn rhestru saith cant!
Roedd y Blaschkas yn dibynnu ar luniau mewn llyfrau wrth greu eu hanifeiliaid gwydr. Portreadau tri-dimensiwn o anifeiliaid na welson nhw erioed â'u llygaid eu hunain yw llawer o'r modelau. Ond yn ddiweddarach, troeson nhw fwyfwy at greu modelau ar sail arsylwadau o anifeiliaid go iawn, naill ai ar deithiau maes, neu o sbesimenau byw mewn acwaria arbennig a adeiladwyd yn eu cartref.
Roedd y catalogau'n disgrifio eu gweithiau cynnar fel 'addurniadau ar gyfer ystafelloedd croeso coeth'. Wrth gymharu'r modelau cynnar â'r rhai hwyrach a wnaed yn y 1880au gwelir symudiad amlwg i gyfeiriad cywirdeb gwyddonol, gan droi cefn ar yr arddull cynharach mwy crand.
Strwythurau cymhleth
Roedd y modelau'n amrywio'n helaeth o ran eu cymhlethrwydd a'u gwneuthuriad. Gwnaed y darnau o wydr clir a lliw, gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau chwythu a thoddi â lamp. Defnyddiwyd deunyddiau eraill hefyd lle roedd angen. Roedd gwifrau copr mân yn ategu neu'n glynu'r teimlyddion a'r tegyll main wrth y brif gorff, ac roedd papur lliw yn dangos y strwythurau mewnol. Defnyddiodd y modelwyr gregyn malwod go iawn mewn ambell i ddarn, a glynu cyrff gwydr yr anifeiliaid atynt.
Daeth y gwaith o gynhyrchu'r anifeiliaid gwydr i ben ym 1890 pan cawsant gontract i gyflenwi modelau o blanhigion ar gyfer Amgueddfa Swoleg Cymharol Havard yn yr Unol Daleithiau.
Bu farw Leopold yn saithdeg tri oed ym 1895. Parhaodd Rudolf i weithio ar ei ben ei hun nes iddo ymddeol ym 1936. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach yn wythdeg dau oed. Erbyn hynny, roedd y cwmni wedi creu 847 o fodelau maint go iawn o blanhigion a dros 3,000 o flodau a chroesdoriadau anatomegol ar raddfa fawr.
Mae rhai o'r modelau o blanhigion sy'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Fotanegol Prifysgol Harvard hyd heddiw, gan ddenu dros 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn anffodus, mae llawer o'r anifeiliaid gwydr wedi cael eu colli neu eu torri dros y blynyddoedd.
Daeth ein casgliad modelau gwydr i'r Amgueddfa mewn dwy ran. Prynodd hen Amgueddfa Dinas Caerdydd 138 o fodelau Blaschka ym 1890. Daeth chwedeg dau o fodelau eraill i'r amgueddfa o'r Amgueddfa Wyddoniaeth yn South Kensington, Llundain, ym 1927. Mae'r enghreifftiau'n amrywio o'r ffurfiau crand cynnar, i enghreifftiau mwy gwyddonol manwl o slefrod môr a milflodau.
Rai o'r modelau gwydr nodedig hyn a gedwir yn y Amgueddfa Cymru