Wedi'r Oes Iâ...
Cyfnod Mesolithig
Pan oedd y rhewlifiant diwethaf yn ei anterth, tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru yn anghyfannedd; roedd llenni iâ yn gorchuddio'r wlad gyfan ac eithrio rhannau o diroedd arfordirol y de. Adfeddiannwyd y tir gan bobl wrth i'r llenni iâ encilio, a daw'r dystiolaeth gynharaf - gwrthrychau tua 15,000 o flynyddoedd oed - am bresenoldeb pobl yng Nghymru o ogofâu.
Tua 2,500 o flynyddoedd yn ddiweddarach, cynhesodd yr hinsawdd yn sylweddol ac o ganlyniad bu cynnydd ym mhoblogaeth Prydain. Yr enw a roddir ar y cyfnod hwn yw'r cyfnod Mesolithig, a barhaodd hyd nes i ddyn ddechrau amaethu'r tir tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yn ystod y cyfnod Mesolithig, roedd hinsawdd Prydain yn gynhesach ac yn wlypach na heddiw. Esgorodd hyn ar newidiadau i lystyfiant Cymru a datblygiad tirwedd goediog.
Y goeden cyntaf
Y ferywen oedd y goeden gyntaf i ddychwelyd, ac fe'i dilynwyd ymhen dim o dro gan goed bedw, cyll, pin, helyg a gwern. Coed derw, llwyf a phin oedd yn nodweddu iseldiroedd ond roedd coed pin a bedw yn fwy cyffredin ar yr ucheldiroedd. Roedd y dirwedd goediog hon yn gartref i geirw coch, iyrchod, gwartheg gwyllt a moch, oll yn brae posibl ar gyfer helwyr Mesolithig. Yn wir, mae'n dra phosibl y cafodd rhannau o goetiroedd ucheldiroedd Cymru eu difa'n fwriadol er mwyn hyrwyddo tyfiant ir a phorfeydd a fyddai'n denu anifeiliaid y gellid eu hela a'u bwyta.
Un o nodau eraill y cyfnod Mesolithig oedd y newid yn y math o offer yr oedd pobl yn eu defnyddio ar gyfer hela, pysgota a chasglu planhigion. Daeth offer cerrig, yn arbennig, yn llai o ran maint, a deuai offer a wnaed o lafnau carreg bach yn fwyfwy cyffredin.
Burry Holms
Cafwyd hyd i amrywiaeth o offer cerrig ar bentir Nab Head (Sir Benfro), safle yr ymgartrefodd dyn arno gyntaf tua 8600CC. Yn ogystal, wrth gloddio'r safle darganfuwyd dros 700 o leiniau carreg a blaenau driliau a ddefnyddid ar gyfer gwneud tyllau. Awgryma hyn y câi Nab Head ei ddefnyddio fel gweithdy arbennig a oedd yn cynhyrchu gleiniau.
Darganfuwyd gwersyllfa arall sy'n dyddio o'r un cyfnod ar Burry Holms (Gŵyr). Ynys lanwol yw Burry Holms heddiw ond, yn ystod y cyfnod Mesolithig, roedd lefel y môr yn is o lawer ac roedd yr ynys yn fryncyn a godai uwchlaw gwastadeddau dyffryn Hafren. Mae'r codiad diweddaraf yn lefel y môr yn ganlyniad i enciliad ac ymdoddiad y llenni iâ ymhell tua'r gogledd.
Wrth gloddio'r safle, ffeindiwyd i amrywiaeth o ddarganfyddiadau, gan gynnwys adfachau carreg bach (microlithau) fyddai'n cael eu defnyddio wrth hela, a llifiau bychain. Mae'n bosibl y byddai'r rhain yn cael eu defnyddidio i dorri coesau planhigion i wneud gwellt toi, cortyn, neu ffibr ar gyfer gweithio basgedi.
Darganfuwyd offer tebyg iawn yn ystod gwaith cloddio yn Rhuddlan (Sir Ddinbych) ac ar safle Trwyn Du (Ynys Môn), sy'n awgrymu bod grwpiau ledled Cymru mewn cysylltiad agos â'i gilydd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'n bosibl y gallai grwpiau gysylltu â'i gilydd yn gymharol rwydd am y byddai pobl yn treulio rhan o'r flwyddyn yn teithio ar ôl anifeiliaid ac yn chwilio am ffynonellau pwysig eraill o fwyd yn ôl pob tebyg. Yn ystod misoedd cynnes yr haf, mae'n debygol y byddent yn crwydro perfedd gwlad, ond yn y gaeaf troai eu golygon tua'r arfordir neu'r dyffrynnoedd.
Esgyrn anifeiliaid a physgod
Mae'n bosibl mai'r safle Mesolithig mwyaf arwyddocaol i'w ddarganfod yng Nghymru hyd yn hyn yw Goldcliff (Casnewydd). Heddiw, mae'r safle rhwng penllanw a distyll ond, tua 7,500 o flynyddoedd yn ôl, roedd ar gopa ynys fach goediog yng nghanol morfa heli.
Yn ogystal â'r offer cerrig, cafwyd hyd i baill, ac esgyrn anifeiliaid a physgod ar y safle. Credir bod pysgod yn ffynhonnell fwyd bwysig i bobl y cyfnod Mesolithig. O'u gosod ar goesau gwaywffyn pren, byddai'r microlithau carreg (adfachau) yn ddelfrydol ar gyfer pysgota, tra bod tystiolaeth o Ddenmarc yn dangos y byddai pobl yn defnyddio maglau pysgod yn ystod y cyfnod hwn.
O wybod bod digon o anifeiliaid i'w hela, pysgod i'w dal, a phlanhigion i'w casglu, mae'n anodd deall pam y dechreuodd y llwythi Mesolithig droi eu cefnau ar eu ffordd draddodiadol o fyw tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl.
A siarad yn gyffredinol, dyma ddyddiad diwedd y cyfnod Mesolithig a dechrau'r cyfnod Neolithig, pan gymrodd ffermio lle hela, pysgota a chasglu fel y dull pwysicaf o ddigon o gynnal poblogaeth Cymru.
Darllen Cefndir
Late Stone Age hunters of the British Isles gan Christopher Smith. Cyhoeddwyd gan Routledge (1992).