Crochenwaith Rhufeinig yng Nghymru
Daeth y Rhufeiniaid â nifer o bethau newydd i Gymru - ffyrdd, baddonau a threfi ymhlith sawl peth arall - ond gyda'r amlycaf o'r pethau newydd roedd crochenwaith wedi'i fasgynhyrchu.
Câi crochenwaith ei ddefnyddio yng Nghymru dros gyfnod o bedair mil o flynyddoedd cyn y goresgyniad Rhufeinig, ond ar hyd y blynyddoedd roedd yr hyn a gynhyrchwyd yn gynnyrch diwydiant ar raddfa fechan.
Can mlynedd wedi'r goresgyniad Rhufeinig roedd dwsinau o weithdai ym Mhrydain, oedd yn gwerthu eu cynnyrch ar hyd a lled y wlad. Roedd crochenwaith ar gael ym mhobman, ac roedd pawb bron yn ei ddefnyddio.
Un o'r grymoedd allweddol oedd yn gyfrifol am y newid hwn oedd y fyddin Rufeinig a'i heconomi. Defnyddiai'r llengoedd grochenwaith i storio a chludo nwyddau, megis bwyd, diod a defnyddiau crai eraill. Defnyddiwyd crochenwaith wrth goginio a gweini bwyd, ac ar gyfer adeiladu, plymio a gwneud toi. Mewn gair, roedd yn anhepgor.
Fodd bynnag, roedd y crochenwaith yn rhy drwm i'w gario dros bellter ac felly, wrth gyrraedd ardal newydd, byddai angen i'r llengoedd sicrhau ffynonellau newydd i ddiwallu eu hanghenion.
Yn ne Lloegr gallai'r fyddin fanteisio ar ddiwydiannau cynhyrchu crochenwaith datblygedig iawn, gweithdai a fedrai gynyddu eu cynnych er mwyn diwallu anghenion y farchnad newydd hon. Er enghraifft, datblygwyd llestri llathredig du, cynnyrch llwyth y Durotriges yn Dorset, i ddiwallu anghenion y fyddin, a chafwyd hyd i enghreifftiau a fewnforiwyd ar nifer o safleoedd yng Nghymru.
Fodd bynnag, nid oedd cludo crochenwaith i Gymru yn gwneud synnwyr economaidd. Yn ddelfrydol, roedd angen i'r fyddin ddod o hyd i gyflenwr lleol - gorchwyl oedd cryn dipyn yn anoddach oherwydd bod crochenwyr a chrochenwaith yn gymharol brin yng Nghymru.
Un o'r lleng-gaerau cyntaf yng Nghymru oedd yr un ym Mrynbuga (Sir Fynwy), a sefydlwyd rhwng OC55 a 60 gan yr Ugeinfed Leng, yn ôl pob tebyg. Yma, roedd y garsiwn yn ei gynnal ei hunan drwy gynhyrchu ei grochenwaith ei hunan, a thrwy fewnforio serameg o diriogaethau a orchfygwyd yn Lloegr ac ar y cyfandir.
Yng Nghaer, yn OC100, sefydlodd yr Ugeinfed Leng gaer arall. Unwaith eto, diwallodd y lleng y galw am grochenwaith drwy adeiladu rhes o grochendai diwydiannol, sylweddol eu maint, yn Holt (Wrecsam). Ceir odynau milwrol ar safleoedd caerau eraill yng Nghymru hefyd.
Er na allai crochenwyr o Gymry wasanaethu'r fyddin Rufeinig i ddechrau, dros y blynyddoedd datblygodd diwydiannau lleol i ddiwallu anghenion y farchnad enfawr hon. Yn ardal Brynbuga dechreuodd crochenwyr gynhyrchu jariau o fath arbennig a elwir yn 'Llestri Llwyd de Cymru'. Yn ogystal, cynhyrchwyd llestri coginio a gweini eraill ond bu'n rhaid i'r rhain gystadlu'n frwd â'r diwydiant cynhyrchu Llestri Llathredig Du yn ne Lloegr.
Nid y fyddin yn unig oedd yn elwa ar y diwydiannau newydd hyn. Bellach, roedd marchnad ar gyfer y niferoedd mawr o ddarnau o grochenwaith a gâi eu cynhyrchu yng Nghymru i'w chael ymhlith y boblogaeth sifil a'r brodorion hefyd. Ar safleoedd archaeolegol y cyfnod hwn ledled Cymru, mae presenoldeb crochenwaith Rhufeinig yn nodwedd ddiffiniol.
Er y byddai baddonau a filâu wedi aros yn bethau dieithr i nifer fawr o frodorion Prydain, daeth crochenwaith Rhufeinig yn elfen dderbyniol o'r goresgyniad ac yn arf cynnil yn y broses o Rufeineiddio Prydain.
Darllen Cefndir
A Pocket Guide: Roman Wales gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru a'r Western Mail (2001).
Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Roman Pottery, golygwyd gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1993).