Paun paentiedig tref Rufeinig Caer-went
Mae astudiaeth o furlun brau o Gaer-went wedi dwyn i'r amlwg rai dylanwadau cosmopolitanaidd oedd yn effeithio ar fywydau brodorion Prydain.
Daeth y goresgyniad Rhufeinig â rhannau o Gymru i gysylltiad uniongyrchol ag arferion a soffistigedigrwydd Rhufain yr ymerodraeth Rufeinig. I frodorion cyfoethog Prydain, cynigiai'r cysylltiad hwn gyfle i rannu ffordd o fyw'r goresgynwyr, ac i'r crefftwyr roedd yn cynnig cyfle i ennill cwsmeriaid newydd a gwneud mwy o elw.
Un grŵp o grefftwyr a elwodd, yn fwy na thebyg, ar y Rhufeineiddio hwn ym Mhrydain oedd yr arlunwyr medrus.
Yn y byd Rhufeinig roedd yn gyffredin i'r cyfoethogion gael paneli lliwgar, patrymau blodeuol, neu olygfeydd o fytholeg wedi eu peintio ar furiau ac weithiau ar nenfydau eu hystafelloedd. Ond, cyn y goresgyniad Rhufeinig, nid oedd murluniau o'r math yma i'w cael ym Mhrydain - dyma grefft newydd ac un y manteisiwyd arni ymhen dim o dro.
Cafwyd hyd i blastr mur peintiedig ar sawl safle yng Nghymru: ar safleoedd milwrol lle'r oedd adeiladau'r pencadlys a'r baddonau yn fynych wedi'u peintio, ac yn y byd sifil lle câi peintiadau eu defnyddio i addurno adeiladau cyhoeddus, plastai trefol a filâu. Yn nhref Rufeinig Caer-went y mae peth o'n tystiolaeth orau am waith yr arlunwyr murluniau.
Un enghraifft sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i archaeolegwyr yw'r paentiad o baun a ddaeth o dŷ a godwyd yng Nghaer-went ddiwedd y drydedd ganrif OC, ac a gloddiwyd yn y 1980au.
Mae gweddillion y paun yn ddarniog iawn ond mae digon ohono wedi goroesi i'n galluogi i ail-greu ei olwg wreiddiol. Byddai wedi cael ei beintio ar ffurf ffresgo, hynny yw, pan oedd y plastr yn dal i fod yn wlyb, a'r lliwiau'n ymdreiddio i'r wyneb wrth iddo sychu.
Er bod y paun ei hun yn gelfwaith, y pigmentau y lluniwyd y paentiad ohono sy'n rhoi'r rhan fwyaf o'r wybodaeth i ni ynglŷn â'r dylanwadau cosmopolitanaidd ar fywyd Prydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid.
Er enghraifft, lliw gwneud yw'r pigment glas. Fe'i ddatblygwyd yn yr Aifft yn gyntaf ond yna fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal, lle aeth gŵr busnes cefnog ati i'w gynhyrchu yn ystod y ganrif gyntaf OC. Fe'i cynhyrchwyd drwy dwymo cymysgedd o dywod, natron a chopor, ac fe'i gwerthwyd ledled yr ymerodraeth ar ffurf pelenni bach a gâi eu malu gan yr arlunydd yn ôl y galw.
Sinabar neu fermiliwm (sylffid mercwrig) yw'r lliw coch llachar yn y llun. Câi ei fwyngloddio yn Sisapo, Sbaen a'i ddosbarthu o Rufain. Roedd masnachu'r lliw mor broffidiol fel y bu'n rhaid i'r llywodraeth sefydlu'r pris er mwyn ei atal rhag codi. Cafwyd hyd iddo ar 20-30 o safleoedd yn unig ym Mhrydain, sydd yn fesur o'i brinder.
Ni chafodd pob un o'r pigmentau eu mewnforio o wledydd tramor - yn ôl pob tebyg cafodd rhywfaint o'r ocr coch yn y paun ei fwyngloddio'n lleol, yn Fforest y Ddena o bosibl. Fodd bynnag, mae presenoldeb y pigmentau egsotig yn dynodi llawer iawn mwy na chwaeth artistig yn unig. Byddai'r paun peintiedig yn datgan i bawb a ymwelai â'r tŷ fod ei berchennog yn gyfarwydd â'r moethusion oedd yn rhan annatod o diriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig, ac y gallent fforddio prynu'r fath bethau moethus.
Darllen Cefndir
Wall-painting in Roman Britain gan N. Davey a R. Ling. Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Astudiaethau Rhufeinig (1981).