Cwpan llewpart y Fenni

Y cwpan llewpart. 115cm (4.5 modfedd) o uchder.

Manylyn o'r glust ar ffurf llewpart, yn dangos nodweddion ei chrefftwaith cain a smotiau arian.

Y cwpan llewpart yn cael ei osod yn y Microsgop Sganio Electron.

Pelydr-X o'r cwpan.

Microffotograff o wyneb y llewpart.

Darganfuwyd un o'r llestri Rhufeinig gwychaf i'w ddarganfod yng Nghymru ger y Fenni yn 2003, gan Mr Gary Mapps. Mae crefftwaith y cwpan o safon uchel ac, yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal yn ystod y ganrif gyntaf OC. Cafwyd hyd i gwpanau tebyg iawn yn ninas Pompeii, a ddinistriwyd wedi ffrwydrad llosgfynydd Feswfiws yn 79 OC.

Gwaith Cloddio

Dangosodd gwaith cloddio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent fod y cwpan wedi'i osod wyneb i waered mewn pydew bach oedd yn cynnwys corfflosgiad. Roedd y corfflosgiad yn rhan o fynwent ger ffordd Rufeinig, gryn bellter o'r gaer Rufeinig (Gobannium) yn y Fenni, sy'n dyddio o ganol y ganrif gyntaf hyd ddechrau'r ail ganrif. Yn ogystal, yng nghyffiniau'r fynwent hon, ceir mwy a mwy o dystiolaeth am anheddiad sifil sy'n dyddio o'r ail ganrif hyd y bedwaredd.

Cwpan Pwy?

Nid ydym yn gwybod a oedd y cwpan yn eiddo i aelod o'r fyddin Rufeinig oedd yn gwasanaethu neu'n rhan o'r garsiwn yn Gobannium, neu, efallai, yn eiddo i un o frodorion yr anheddiad sifil gerllaw. Pa esboniad bynnag sy'n gywir, roedd y cwpan hwn o'r ganrif gyntaf yn fewnforyn drud ac yn ôl pob tebyg roedd yn eiddo i rywun o fri. A chymaint oedd meddwl y perchennog ohono, mynnai y câi ei gladdu yn yr un bedd â'i lwch.

Gwneuthuriad y Cwpan
  • Castiwyd mewn mowld gan ddefnyddio efydd plwm.
  • Ffurfiwyd mowld clai o amgylch model cŵyr o lewpart.
  • Arllwyswyd efydd i'r gwagle lle fu'r cŵyr, a thorri'r mowld wedi i'r metel oeri.
  • Llenwyd tyllau'r smotiau ar y corff gydag arian, ac mae'n bosib mai ambr oedd y llygaid.
  • Roedd dewis llewpart yn addas iawn ar gyfer cwpan gwin, gan ei fod yn greadur pwysig ym mytholeg y Rhufeiniaid, yn gydymaith i Bacchws, duw gwin, a addolwyd drwy wledda, diota, cerddoriaeth a dawns.

Darllen Cefndir

Things Fall Apart: museum conservation in practice Amguedddfa Genedlaethol Cymru, 2006

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
20 Mehefin 2018, 09:21

Hi there Brandon

Thanks for your message. We have updated the article to reflect your father's key role in the discovery of this amazing artefact.

Best wishes

Sara
Digital Team

Brandon Mapps
18 Mehefin 2018, 16:38
I am the son of Gary Mapps (The founder of the beautiful Roman leopard cup) and I disappointed to see that this article does not include any information on who actually founded it. I ask you politely to please add an additional few sentences to honour the founder of this amazing treasure. Thank you for taking the time to read this, Brandon Mapps.