Teils llawr addurnedig o Gastell Rhaglan
Gellir gweld tair canrif o ffasiwn a dylunwaith mewn casgliad o deils llawr addurnedig a ddarganfuwyd yn ystod gwaith adeiladu ar safle Castell Rhaglan ym 1947.
Ym 1549 olynodd William Somerset (1526-1589) ei dad gan ddod yn drydydd Iarll Caerwrangon a pherchennog Castell Rhaglan. O'i ganolfan yn ne-ddwyrain Cymru dechreuodd ar yrfa a sicrhaodd lwyddiant iddo yn llysoedd Edward VI (1547-53), Mari (1553-58) ac Elisabeth I (1558-1603). Fe'i claddwyd yn eglwys y plwyf yn Rhaglan.
Nid yw'n syndod fod y fath gymeriad amlwg wedi ceisio ffordd o fyw oedd yn gydnaws â'i statws cymdeithasol uchel, ac arwydd o'r uchelgais hwn oedd y gwaith ailadeiladu helaeth a wnaed ganddo ar y gaer-blasty roedd wedi ei hetifeddu.
Aeth ati i weddnewid y castell drwy fabwysiadu rhaglen foderneiddio gynhwysfawr oedd yn effeithio ar bob rhan o'r adeilad a'r tir: cafodd y neuadd a'r llety, y gegin a'r ystafelloedd gwasanaeth eu gwella, ychwanegwyd oriel hir a chrëwyd gardd yn null y Dadeni.
Cafodd celfi'r castell eu gwella hefyd drwy ychwanegu eitemau oedd yn adlewyrchu ffasiwn Ewropeaidd y dydd. Mae'r thema hon i'w gweld yn glir yng nghapel y castell.
Mae'r capel yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, pan roedd ganddo lawr deils priddwaith coch trwchus ag addurn wedi'i fewnosod ar eu hwynebau mewn lliw gwahanol. Yn aml, roedd gan deils deuliw o'r fath gynlluniau wedi'u mewnosod â chlai gwyn - yn achos Rhaglan, tarianau a monogramau yn bennaf - a byddai gwydredd clir yn cael roi drostynt cyn eu tanio. Y teils hyn oedd y ffasiwn diweddaraf yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cheir hyd i enghreifftiau nodedig ym Mhalas Clarendon yn Wiltshire ac, yn fwy lleol, yn Abaty Tyndyrn.
Tua 1460 disodlwyd y rhain gan deils deuliw ac arnynt gynlluniau nodweddiadol o un o ddiwydiannau cynhyrchu teils Dyffryn Hafren - ac un o'r rhai sydd wedi'i ddyddio orau - ym Malvern, Swydd Caerwrangon. Mae'n rhaid bod y lliwiau melyn llachar a brown euraid wedi creu cefndir cyfoethog ar gyfer trysorau'r capel.
Nid oedd yr Iarll William yn hoff o'r fath gynlluniau. Gan dynnu ar ei brofiad o ffasiynau'r cyfandir, cafodd ei ysbrydoli gan gynnyrch yr Iseldiroedd Sbaenaidd a manteisiodd ar ei gyfoeth sylweddol i brynu teils priddwaith wedi'u gwydro ag alcam a'u peintio mewn dull unlliw a oedd yn boblogaidd yn ystod cyfnod y Dadeni.
Y canlyniad oedd trawsffurfio'r capel mewn modd dramatig, gan oleuo'r tu mewn ac ychwanegu cywreinrwydd i'w addurnwaith.
Gwaetha'r modd, ar ôl i Raglan gael ei adael yn wag yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr, ychydig iawn o newidiadau eraill yr Iarll i gelfi'r castell a phryd a gwedd ei ystafelloedd, sydd wedi goroesi. Yn hytrach, dyfalu'n unig a fedrwn ynglŷn â'r moethusrwydd y bu'n gyfrifol amdano, a myfyrio ar natur fyrhoedlog y cyfoeth hwnnw, sydd wedi goroesi ar ffurf casgliad bach o deils llawr peintiedig a llond dwrn o eitemau eraill.
Manylion am y Teils
- Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o gapel Castell Rhaglan; fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Wessex. Mae'n portreadu dau aderyn yn bwydo o goeden ganolog. Defnyddiwyd teils ac arnynt yr un cynllun yn Abaty Tyndyrn a Chastell Gwyn gerllaw.
- Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan. Dyma a ddywed y testun Lladin: 'Bydded i heddwch Christ drigo yn eich plith hyd byth. Amen'.
- Teilsen faiolica, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, o lawr y capel a osodwyd gan yr Iarll William, cyn 1572 yn ôl pob tebyg. Yn ôl pob tebyg, mewnforiwyd y teils hyn o'r Iseldiroedd Sbaenaidd, Antwerp efallai, lle sefydlwyd diwydiant cynhyrchu teils maiolica yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Darllen Cefndir
Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru (2003).
'The chapel at Raglan Castle and its paving tiles' gan J. M. Lewis. Yn Castles in Wales and the Marches gan J. R. Kenyon a R. Avent, tt143-60. Gwasg Prifysgol Cymru (1987).
The medieval tiles of Wales gan J. M. Lewis. Amgueddfa Cymru (1999).