Gweolyn Llan-gors: campwaith canoloesol cynnar
Ym 1990 ffeindiodd archaeolegwyr oedd yn gweithio ar safle Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, ddarganfyddiad annisgwyl - gweddillion gweolyn, wedi'i addurno'n wych, oedd dros fil o flynyddoedd oed.
Ger glan ogleddol Llyn Syfaddan ceir crannog (ynys o wneuthuriad dyn) a fu'n safle brenhinol a adeiladwyd ar gyfer tywysog Brycheiniog yn y 890au - cyfnod cythryblus yn hanes y dywysogaeth.
Ar y pryd, roedd nifer o dywysogaethau cyfagos yn bygwth Brycheiniog, ac roedd Llan-gors, yn ôl pob golwg, yn noddfa ddiogel. Fodd bynnag, mae cloddiadau a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru rhwng 1989 a 1993 wedi dangos mai byrhoedlog fu'r noddfa hon oherwydd fe'i dinistriwyd gan dân yn gynnar yn y ddegfed ganrif.
Roedd y gwaith ger Llan-gors yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar y gwaddodion siltiog dwrlawn sy'n amgylchynu'r crannog. Yn y fan yma y cafwyd hyd i'r gweolyn, wedi'i ruddo'n wael ac yn frau iawn.
O ganlyniad i driniaeth gadwraeth fanwl bu modd gwahanu a glanhau ei haenau niferus, gwaith a ddangosodd bod y lwmp anhrawiadol hwn ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf o weolion canoloesol cynnar i'w ddarganfod ym Mhrydain hyd yn hyn.
Y defnydd sy'n sylfaen i'r gweolyn yw lliain mân iawn o wehyddiad plaen. Defnyddiwyd edefion sidan a lliain i addurno rhyw ddwy ran o dair o darn o'r gweolyn sydd ar ôl ag adar a chreaduriaid eraill o fewn fframwaith o winwydd, ac mae'r borderi yn cynnwys patrymau ailadroddus neu lewod.
Mae safon crefftwaith y gweolyn yn dal i fod yn destun rhyfeddod. Mae i'r lliain 23 edau i'r centimetr - cyflawniad gwych o ystyried yr offer oedd ar gael yn ystod y nawfed a'r ddegfed ganrif OC.
Ymddengys fod y gweolyn yn rhan o wisg neu diwnig neu ffrog efallai - mae ganddo hem a dolen ar gyfer gwregys - ond, gwaetha'r modd, nid oes digon wedi goroesi i ddangos ffurf fanwl y dilledyn.
Awgryma'r rhannau sydd wedi treulio nad oedd y dilledyn yn newydd pan gafodd ei golli, a gallwn fod yn sicr fod ei berchennog yn wraig neu'n ŵr o gryn statws oherwydd cafodd y sidan a ddefnyddiwyd i'w addurno ei fewnforio i Brydain, ac mae safon y gwniadwaith yn awgrymu y cafodd ei gynhyrchu mewn gweithdy arbenigol.
Felly, sut collwyd y gweolyn gwych hwn? Ceir cliw yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd ar gyfer OC916, sy'n cofnodi bod byddin Fersiaidd o Loegr wedi dinistrio safle dan yr enw Brecenanmere (Brecknock-mere = Llyn Syfaddan) yn y flwyddyn honno a chipio gwraig y brenin a 33 o bobl eraill.
Ai dyma'r digwyddiad a arweiniodd at losgi Llan-gors a cholli'r gweolyn? Mae'n demtasiwn i gredu hynny.
Darllen Cefndir
'A fine quality insular embroidery from Llangors Crannog, near Brecon' gan H. Granger-Taylor a F. Pritchard. Yn Pattern and purpose in insular art gan M. Redknap, S. Youngs, A. Lane a J. Knight, tt91-99. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2001).
'Worn by a Welsh Queen?' gan L. Mumford a M. Redknap. Yn Amgueddfa, cyf. 2, tt52-4 (1999).
'The Llangorse textile; approaches to understanding an early medieval masterpiece' gan L. Mumford, H. Prosser a J. Taylor, mewn C. Gillis and M.-L. B. Nosch (eds), Ancient Textiles: Production, Craft and Society, 158-62. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2007).
sylw - (1)