Gwregys Llandoche
Ym 1994 aeth archaeolegwyr ati i ddatgladdu'r casgliad mwyaf o gladdiadau canoloesol cynnar i'w ddarganfod yng Nghymru hyd yma, yn ogystal â chofnodi tystiolaeth am arfer claddu anghyffredin.
Roedd Ideal Homes Cymru Cyf. wedi rhoi contract i archaeolegwyr Cotswold Archaeology i gloddio tir a glustnodwyd ar gyfer codi tai newydd yn Llandoche (Bro Morgannwg).
Gorweddai'r safle ar gyrion mynwent yr eglwys blwyf bresennol, a safai, yn ôl y sôn, ar safle mynachlog ganoloesol gynnar Dochdwy Sant. Yma, datgladdwyd dros 800 o gladdiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif hyd yr unfed ganrif ar ddeg.
Mae astudiaeth fanwl o'r sgerbydau gan Louise Loe (Prifysgol Bournemouth) wedi bwrw goleuni newydd ar boblogaeth Cymru yn ystod y cyfnod o dan sylw, ond roedd un bedd yn arbennig yn anarferol iawn.
Gorweddai claddiad 631 yng nghanol y fynwent. Sgerbwd gŵr ifanc ydoedd, rhwng 25 a 35 oed, a rhyw 1.75m o daldra (5.75 troedfedd). Awgryma'r arbrofion dyddio radiocarbon, yn seiliedig ar ddarn o'i asgwrn, y bu farw'r gŵr rhwng OC340 a 660. Fodd bynnag, nid ei hynafiaeth oedd yn destun syndod ond yn hytrach y ddau wregys haearn a wisgai am ei ganol.
Roedd deupen y ddau wregys yn sownd wrth ei gilydd y tu ôl i'w gefn. Wedi i'r pennau tapr gael eu gwthio drwy glustennau, cawsant eu morthwylio gan rywun arall, a'i gwnâi'n amhosibl i'r wisgwr eu tynnu oddi amdano heb gymorth. Mae'n amlwg nad ategolyn ffasiynol yn unig mo'r gwregys, ond pa ddiben arall oedd iddo?
Yn ôl un awgrym, mae'n bosibl y câi'r gwregysau eu gwisgo fel gweithred o edifeirwch - diben nid amhriodol yng nghyd-destun cymuned fynachaidd. Gwyddys am achosion tebyg yn ystod yr Oesoedd Canol. Er enghraifft, arferai Begga, gweledydd o fynach ym mynachlog Much Wenlock (Sir Amwythig) yn gynnar yn yr wythfed ganrif, wisgo 'an iron girdle about his loins for the love of God'.
Ceir tystiolaeth o blaid esboniad arall - fod y gwregysau haearn yn fath ar wregys torllengig - ar y cyfandir lle cafodd y defnydd o wregysau torllengig eu cofnodi gyntaf mewn testunau Rhufeinig. Cafwyd hyd i enghreifftiau hefyd mewn claddiadau yn dyddio o'r chweched a'r seithfed ganrif yn Ffrainc, yr Almaen, Swistir a Sbaen.
Felly, pa un o'r ddau ddehongliad sy'n gywir - gwregys edifahŷwr neu wasgrwym dorllengig? Ychydig o'r ddau yw'r ateb, mae'n debyg. Yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar arferid credu bod y gallu i oddef dioddefaint yn cynnig llwybr tua'r nefoedd. Felly, roedd goddef poen torllengig ynddo'i hunan yn rhan, o bosibl, o weithred edfeiriol y gobeithiai gwisgwr y ddau wregys hyn elwa arno yn y byd a ddaw.
Darllen Cefndir
'Llandough' gan A. Thomas a N. Holbrook. Yn Current Archaeology, cyf. 146, tt73-7 (1996).
'An early-medieval girdle from burial 631', gan M. Redknap. Yn N. Holbrook a A Thomas 'An early-medieval monastic cemetary at Llandough, Glamorgan: excavations in 1994', Medieval Archaeology 49 (2005), 53-64.