Darganfod cwch o'r Oesoedd Canol mewn aber yn ne Cymru

Gweddillion y cwch yn y mwd

Codi'r cwch o'r mwd am 4.00am ar Awst 27ain 1995

Model o'r cwch wedi ei ail-greu

Ym 1994, darganfuwyd gweddillion cwch mewn mwd trwchus ar Wastadeddau Gwent. Dangosodd profion ar y pren bod y cwch yn dyddio o tua 1194. Dangosodd gwaith cloddio pellach bod darn 7.2m o hyd a 3.9 o led o'r cwch wedi goroesi'n gyfan, sy'n golygu ei fod yn un o'r cychod canoloesol pwysicaf i gael ei ddarganfod ym Mhrydain ers 25 mlynedd.

Codi'r drylliad

Roedd hi'n hanfodol adfer y drylliad, ond roedd angen dewis rhwng ei ddatgymalu ar y safle neu ei symud mewn un darn. Roedd angen rheoli'r amodau'n ofalus iawn wrth ei ddatgymalu, ond oherwydd y llanw uchel, dim ond am ryw awr neu ddwy ar y tro y gellid cyrraedd at y drylliad. Am hynny, yr unig ffordd resymol o weithredu oedd adfer y cwch yn gyfan.

Cafwyd cymorth i godi'r drylliad gan y cwmni oedd yn adeiladu Ail Bont Hafren gerllaw. Gweithiodd tîm o bobl yn ddiflino ddydd a nos dros gyfnod o saith troad y llanw, i gloddio twneli o dan y cwch er mwyn adeiladu crud o drawstiau alwminiwm. Roedd angen bod yn eithriadol o ofalus rhag niweidio'r cwch, gan ei fod mewn cyflwr mor fregus.

Yna cysylltwyd y crud at graen, tynhawyd y ceblau, a chloddiwyd gweddillion y gwaddod i ffwrdd. Codwyd y cwch yn llwyddiannus am 4.00 y bore, cafodd ei gludo i Gaerdydd a'i osod mewn dŵr i atal y pren rhag pydru ymhellach.

Cadwyd cofnod o'r gweddillion wrth eu datgymalu a thynnwyd llun o bob darn o bren yn unigol. Roedd y llong yn cario mwyn haearn pan suddodd, felly bu rhaid ei lanhau'n drylwyr. Defnyddiwyd dŵr a brws meddal i dynnu halwynau haearn o'r gweddillion hynafol.

Gan mai'r gobaith oedd arddangos y cwch yn ei ffurf wreiddiol yn yr Amgueddfa, bu rhaid cadw'r darnau pren mewn modd a fyddai'n caniatáu ar gyfer eu hail-siapio ar ôl eu cadw, neu eu mowldio i'r siâp cywir cyn eu cadw. Mae manteision ac anfanteision i'r ddau ddull.

Cadw'r pren hynafol

Er mwyn cadw pren sy'n llawn dŵr, rhaid defnyddio cwyr sy'n toddi mewn dŵr, sy'n golygu naill ai trochi'r pren am bump i ddeng mlynedd mewn sylwedd crynodedig a'i sychu'n araf mewn aer; neu ei drochi mewn sylwedd gwannach a'i sychrewi i gael gwared ar y dŵr, sy'n creu cynnyrch 'sych' o fewn blwyddyn neu ddwy.

Gyda'r dull cyntaf, byddai'r gwrthrych yn cynnwys mwy o gwyr na phren, felly ni fyddai'n edrych gymaint fel pren, ond byddai'r cwyr yn caniatáu ar gyfer ail-siapio'r prennau. Ar y llaw arall, byddai sychrewi'n creu deunydd a fyddai'n dal i edrych fel pren, gan ei fod yn defnyddio llai o gwyr o lawer. Fodd bynnag, byddai'r prennau'n fwy bregus o lawer na'r rhai a gafodd y driniaeth gyntaf, ac felly ni fyddai modd eu hail-siapio.

Creu model o'r cwch

Penderfynwyd ail-siapio'r prennau i'w ffurfiau gwreiddiol cyn cadw'r pren, felly bu rhaid adeiladu model maint llawn o'r strwythur oedd wedi goroesi, i weld pa siâp terfynol ddylai fod ar y prennau.

Bu rhaid i'r model ail-greu cynllun a siâp yr holl brennau a oroesodd mewn tri dimensiwn. Yna gallai'r model helpu i greu set o fowldiau, wedi'u hadeiladu yn y siâp cywir, i ddal yr estyll yn ystod y gwaith cadwraeth.

Wedi ail-siapio'r gweddillion yn llwyddiannus, cadwyd y prennau gan ddefnyddio'r driniaeth cwyr a sychrewi. Bellach, mae'r prennau sych a sefydlog yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, ac mae'r gwaith ymchwil ar y cwch, a fydd o gymorth wrth osod y darganfyddiad pwysig hwn yn ei gyd-destun hanesyddol, yn parhau.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Evan Chapman Staff Amgueddfa Cymru
20 Ionawr 2020, 10:55

Hi,

Thank you for getting in touch and for your enquiry. The boat discussed in the article are the fragmentary remains of a small medieval boat generally referred to as the Magor Pill Boat. The surviving timbers are now safely preserved and stored at the Museum’s Collection Centre at Nantgarw. As far as I am aware there are currently no plans for its display.

There is also the much larger and better preserved medieval ship found in Newport itself, which is in the care of Newport Museum. More details about this ship and the progress of this project can be found on the website of the Friends of the Newport Ship https://www.newportship.org/

I hope this answers your question.

Kind regards,

Evan Chapman
(Senior Curator: Archaeology & Numismatics)
 

Barrie Jones
11 Ionawr 2020, 12:43
When is the reconstructed Newport medieval Boat going to be Displayed for All to View ?