Y Dyn Bicer o Landaf - Bedd o'r Oes Efydd Cynnar yn Llandaf
Wrth adfer tŷ yn ardal Llandaf ym 1992, dadorchuddiwyd slab carreg anghyffredin oedd wedi'i orchuddio gan dywod afon a silt. O dan y slab roedd asgwrn hir a llestr clai.
Daeth yn amlwg mai bicer oedd y llestr — llestr clai addurnedig oedd yn ffasiynol yng ngorllewin Ewrop tua 4,000 mlynedd yn ôl yn ystod 'Cyfnod y Bicer'. Mae'n bosib y byddai'r bicer wedi dal medd, cwrw neu ddiod arbennig arall yn wreiddiol. Roedd y slab cerrig yn dynodi safle bedd.
Gyda chydweithrediad ac anogaeth y perchnogion, fe gynhaliodd yr Adran Archeoleg a Niwmismateg gloddfa yn nhramwyfa'r tŷ, i ail-agor y bedd a chloddio'i gynnwys. Roedd y gistfaen amgylchynol a adeiladwyd o slabiau o graig Radyr, yn anarferol gan ei bod ar ogwydd, ei maen capan yn pwyso ar ongl o 30°, yn wahanol i'r cistfeini bicer siâp bocs mwy traddodiadol.
Ychydig iawn o'r sgerbwd sydd ar ôl. Y disgwyl oedd y câi'r sgerbwd ei ddarganfod ar ei gwrcwd, sy'n nodweddiadol o gyfnod y Biceri, ond dim ond darnau o'r craniwm (top y benglog) ac esgyrn y breichiau a'r coesau oedd wedi goroesi. Dadorchuddiwyd offer bedd ychwanegol, yn cynnwys mynawd efydd (offeryn pigfain ar gyfer torri tyllau mewn pren neu ledr), a naddyn flint — gwrthrychau a gladdwyd wrth ochr yr unigolyn i'w defnyddio yn y 'byd nesaf'. Cysylltir mynawydau â chladdedigaethau benywaidd fel arfer.
Drwy ddadansoddi'r gwaddodion sy'n llenwi'r bedd, gallwn esbonio ffurf anarferol y gistfaen, a pham mai dim ond rhan o'r sgerbwd sydd wedi goroesi. Mae presenoldeb gwaddolion graddedig, a adawyd yn y bedd gan ddŵr, yn awgrymu bod llifogydd wedi ymyrryd ac wedi erydu'r gladdfa. Heddiw, mae'r afon Taf yn llifo heibio gerllaw, a chodwyd yr adeiladau ger man darganfod y bedd ar hen safle gorlifdir yr afon.