Croes bren a arferai ddisgleirio gan aur
Dengys archwiliad gwyddonol o groes ganoloesol o Gemais, De Cymru, fod y gwrthrych pren a welwn heddiw wedi cael ei addurno'n wreiddiol â lliwiau llachar coeth a haenau aur godidog.
Tua 1850, darganfuwyd gweddillion ffigwr pren cerfiedig o Grist yn eglwys Cemais, rai cilomedrau i'r gorllewin o Gaerllion, de Cymru.
Gwrthrych o bwysigrwydd eithriadol
Cyn y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg (pan newidiodd Cymru a Lloegr yn swyddogol o fod yn genedl Gatholig i un Protestannaidd), roedd ffigyrau o Grist o'r math hwn yn gyffredin trwy Loegr a Chymru, a'r Crist o Gemais yw'r esiampl mwyaf cyflawn o'r ychydig ddarnau canoloesol sydd wedi goroesi ym Mhrydain, ac felly mae o bwys eithriadol.
Darganfuwyd darnau o ffigwr Cemais 'gyda phenglog ac esgyrn', yng 'ngrisiau'r grog caeedig' yn ystod gwaith atgyweirio a newid yr eglwys tua 1886. Trosglwyddwyd ef i Amgueddfa Cymru ym 1930.
Tybir bod y ffigwr yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond nid yw'r dadleuon sy'n cefnogi'r farn hon erioed wedi cael eu mynegi'n fanwl. Mae dyddio'r ffigwr yn dibynnu ar gymharu cerfluniau eraill, a'r gred bellach yw ei fod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.
Gan fod ffigyrau sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn yn brin, rhaid astudio gwrthrychau o'r cyfandir am gliwiau pellach. Mae ffigyrau croes o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg o Sweden, er enghraifft, yn rhannu nifer o nodweddion tebyg, ond mae'r Crist o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o Fochdre, Sir Ddinbych, sef yr unig ffigwr pren cyffelyb o Gymru, yn dra gwahanol. Mae'n debygol iawn bod Crist Cemais wedi cael ei wneud yn Lloegr neu yng Nghymru.
Ymchwilio a dadansoddi'r groes
Ychydig iawn o'r lliw a arferai orchuddio'r ffigwr pren a welir heddiw, ond arweiniodd gwaith rheolaidd Amgueddfa Cymru at ymchwiliad manwl o arwynebedd y gwrthrych ym 1999.
Cymerwyd darlun pelydr-x o'r ffigwr ac edrychwyd arno o dan olau uwch-fioled (UV) a golau is-goch (IR) cyn ei archwilio o dan y microsgop. Datgelodd hyn batrwm y lliwiau gwreiddiol, a'r gwahaniaethau rhwng y corff â'r breichiau, yr ystyriwyd yn flaenorol eu bod yn ychwanegiadau diweddarach.
Lliwiau cyfoethog a llachar
Yn wahanol i'w gyflwr presennol, yn wreiddiol roedd Crist Cemais yn gyfoethog a llachar ei liw, yn unol â'r hyn a oedd yn boblogaidd drwy'r Oesoedd Canol. Cymerwyd gofal mawr wrth addurno'r ffigwr. Pan oedd yn newydd, byddai wedi disgleirio o dan haenau aur.
Wrth archwilio'r ffigwr datgelwyd tystiolaeth sylweddol o aml-liwiogrwydd (defnyddio nifer o liwiau), a throsbeintio, fel y gwelir mewn enghreifftiau eraill o gerflunwaith canoloesol. Er nad oes llawer wedi goroesi ar y breichiau, mae'r fraich dde'n cynnwys dwy haenen, sy'n awgrymu, efallai, bod y fraich chwith wedi cael ei hailosod, naill ai yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg, neu'n gynharach hyd yn oed.
Datgelwyd o leiaf tair haen o baent, ond tasg anodd oedd eu dyddio. Ymddengys bod yr ail gynllun lliwiau wedi cynnwys eurwaith ar y gwallt; aur, coch a glas ar du fewn y lliain lwynau; manylion brown tywyll a du ar yr wyneb; coron o ddrain gwyrdd; a lliwiau cnawd pinc gwelw, a choch yn pwysleisio'r clwyfau.
Byddai gwaith aml-liwiog o'r math yma wedi bod yn arferol ar gerflun mor bwysig â hwn. Mae ffigwr Cemais yn cynrychioli Crist ar y groes yn glir, ac fe'i portreadir yn fyw, â'i lygaid ar agor.
Mae Crist Cemais yn enghraifft anghyffredin o ffigwr defosiynol, o'r cyfnod cyn y Diwygiad, a fu unwaith yn gyffredin ar Ynysoedd Prydain. Uchder gwreiddiol y ddelwedd drawiadol o ddioddefaint Crist oedd tua 94cm, felly byddai wedi bod yn weledol iawn ac yn destun gweddi, gan chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau pobl bob dydd.