Gofalu am DNA mewn Casgliadau Gwyddoniaeth Natur
Mae'r argyfwng cynyddol ym mioamrywiaeth y byd wedi creu gofynion newydd i'r casgliadau biolegol sydd gan ein hamgueddfeydd. Hefyd, mae technegau modern yn ein galluogi i edrych ar ein casgliadau mewn ffyrdd newydd megis dadansoddi DNA (Deoxyribonucleic acid). Mae bellach yn bosib echdynnu a darllen DNA o sbesimenau amgueddfa, ond gall hyn ddibynnu ar y ffordd y maent wedi cael eu storio a'u cadw.
Casgliadau unigryw
Cedwir dros dair miliwn o sbesimenau biolegol yn Amgueddfa Cymru. Wrth i'r pwysau ar ein hamgylchedd naturiol gynyddu, daw'r casgliadau hyn yn adnodd pwysicach o hyd. Mae nifer o'r sbesimenau sy'n cael eu casglu bellach naill ai yn ddiflanedig neu mewn cymaint o berygl fel nad oes modd casglu mwy. Mae nifer o'r sbesimenau hyn yn unigryw ac yn hanfodol wrth ein cynorthwyo i ddeall bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
Gall cadw deunydd biolegol fod yn anodd iawn. Mae deunydd biolegol, gan gynnwys DNA, yn dirywio'n gyflym. Mae triniaethau cemegol yn anelu at rwystro'r dirywiad hwn, gan alluogi cadw'r sbesimenau biolegol yn y tymor hir.
Cadwraeth gynnar
Mae cadw sbesimenau amgueddfa yn dyddio yn ôl dros 300 mlynedd. Yn y lle cyntaf sbesimenau sych ac anadweithiol yn unig y gellid eu cadw. Defnyddiwyd alcohol am y tro cyntaf yn yr 17eg Ganrif, cyflwynwyd fformaldehyd (formalin) yn y 19eg Ganrif. Galluogodd y dulliau hyn i ystod eang o sbesimenau gael eu cadw - ond datblygwyd hyn cyn gwybod am DNA.
Gall fod yn anodd iawn cael DNA o sbesimenau a gadwyd gan ddefnyddio formalin. Mae cemegau eraill, megis ethanol (alcohol), yn ddefnyddiol wrth gadw'r sbesimen a'i DNA.
Defnyddio DNA o'r casgliadau
Gellir defnyddio DNA mewn nifer o feysydd astudiaeth, megis gwaith ar esblygiad, adnabod rhywogaethau, ac ecoleg. Mae astudiaethau DNA yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys:
- Ymchwilio i falwod Hunter o Ddwyrain Affrica a defnyddio DNA i astudio sut y maent yn perthyn i'w gilydd.
- Mae cregyn gleision perlau dŵr croyw mewn perygl yng Nghymru. Mae ymchwilwyr yr Amgueddfa yn defnyddio DNA i edrych ar eneteg y boblogaeth sydd yn parhau er mwyn cynorthwyo eu cadwraeth.
- Mae Cennau yn agwedd bwysig o fioamrywiaeth, ond yn anodd eu hadnabod. Mae DNA yn cael ei ddefnyddio i helpu i adnabod cennau.
DNA - adnodd bregus
Yn anffodus, gellir difrodi DNA mewn nifer o ffyrdd. Yn dilyn marwolaeth organeb, mae molecylau DNA yn dirywio yn gyflym iawn. Golyga hyn bod cadwraeth gofalus a chyflym y sbesimenau yn angenrheidiol i sicrhau cadwraeth y DNA yn ogystal â'r sbesimen yn gyfan.
Mae'r amgueddfa yn ymchwilio i ddulliau o gadw DNA. Un dull yw storio mewn rhewgelloedd -80°C neu nitrogen hylifol. Mae rhai amgueddfeydd eisoes wedi sefydlu banciau rhew-feinwe, ond mae'r dulliau hyn yn ddrud.
Mae ymchwil parhaus yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o effeithiau'r triniaethau hyn, gan ein galluogi i gadw'n sbesimenau DNA yn gyfan ar gyfer y dyfodol