Y Forum-basilica Fawr yng Nghaerwent
Dim ond dwy dref Rufeinig a fodolai yng Nghymru hyd y gwyddom, sef Caerfyrddin (Maridunum) a Chaerwent (Venta Silurum). Caerwent oedd y dref fwyaf o bell ffordd. Ar un adeg pentref bach Caerwent, ger Cas-gwent yn ne Cymru, oedd prif dref weinyddol y Silwriaid, y llwyth Celtaidd a boblogai dde-ddwyrain Cymru.
Yn y 1980au cyflawnodd Amgueddfa Cymru raglen gynhwysfawr o gloddfeydd ymchwil i gynnyddu'r wybodaeth am ddatblygiad cynnar y dref Rufeinig hon. Dim ond topiau'r adeiladau a ddatgelwyd gan gloddfeydd cynharach, a roddodd ddarlun o dref o gyfnod Rhufeinig hwyr.
Y Forum-basilica
Fel pob tref Rufeinig, safai'r fforwm (marchnad) yn ei chanol, a'r basilica (neuadd ymgynnull) wrth ei ochr. Archwiliwyd y forum-basilica yn gyntaf ym 1907 a 1909. Adferwyd cynllun yr adeilad bron yn gyfan gwbl, ond nid oedd tystiolaeth bendant ynglŷn â'r dyddiad y cafodd ei adeiladu'n wreiddiol. Yn ystod cloddfeydd yn y 1980au dadorchuddiwyd rhannau mwyaf trawiadol yr adeilad er mwyn eu harddangos, ac yn y diwedd, datryswyd eu hanes strwythurol.
Aed i mewn o'r brif stryd i'r forum, marchnad betryal agored wedi'i hamgylchynu ag ystafelloedd ar dair ochr, drwy fynedfa fwaog. Byddai sgwâr palmantog yn darparu gofod addas i osod stondinau dros dro ar ddyddiau marchnad. Byddai'r rhesi o ystafelloedd, a osodwyd y tu ôl i golofnres orchuddiedig, yn cael eu defnyddio fel siopau, tafarndai a swyddfeydd. Mae'n debygol y byddai ail lawr wedi bod uwch eu pen, gyda rhagor o ystafelloedd, a theras efallai.
Mae'r basilica'n cynnwys y neuadd fawr yn ogystal ag amrywiaeth o ystafelloedd a siambrau. Byddai'r neuadd fawr wedi cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus mawr a seremonïau. Hyd yn oed cyn dechrau'r gloddfa, safai rhai o'r muriau gymaint â 2m uwch lefel y tir, gan iddynt gael eu hymgorffori i adeiladau amaethyddol a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ôl yr arfer, mae'r brif neuadd yn cynnwys corff a dwy ystlys wedi'u rhannu gan golofnresau a gynhaliai lofft olau fel sydd mewn eglwysi mawr. Roedd seiliau'r muriau oedd yn cynnal y colofnau bron 2m o ddyfnder. Safai'r colofnau mawr cerrig, a gerfiwyd o dywodfaen lleol, yn 9m o uchder. Amcangyfrifir bod y basilica dros 20m o uchder.
Rhedai ffos o dan lawr y basilica i gario dŵr glaw oedd wedi cronni yn y cafnau o amgylch parc y forum. Defnyddiwyd blociau anferth o dywodfaen lleol, rhai ohonynt yn pwyso mwy na thunnell, ar gyfer ochrau a chaead y ffos, a gorchuddiwyd y llawr gyda theils to. Roedd modd cael mynediad i'r draen i'w lanhau drwy dwll archwilio hanner-cylch, a dorrwyd o un o'r meini capan.
Yn y canol roedd yr aedes, neu'r gysegrfa, lle byddai cerfluniau o'r Ymerawdwr a duwiau dinesig wedi'u gosod. Roedd y llawr yn y rhan hon yn uwch na gweddill y basilica, gan ei gwneud yn fwy amlwg. Ar ochr orllewinol yr aedes roedd ystafell y curia neu siambr y cyngor. Mae'r mur deheuol tua 2m o uchder wedi goroesi ac wedi'i orchuddio â phlastr sy'n cynnwys dyluniadau pensaernïol. Ym mlynyddoedd olaf ei hanes, addurnwyd y llawr â phaneli mosäig.
Roedd sianelau bob ochr i'r mosaigau, a chanfuwyd ceudodau cyfatebol yn y plastr ar y mur deheuol. Eu swyddogaeth oedd dal fframwaith pren y meinciau yr eisteddai cynghorwyr y cynulliad llwythol arnynt. Ar ochr ddwyreiniol yr ystafell roedd sylfaen gerrig ar gyfer llwyfan bren gyda grisiau, lle byddai ynadon wedi llywyddu cyfarfodydd y cyngor.
Adeiladwyd yr adeilad mawr hwn ym mlynyddoedd cynnar yr ail ganrif O.C. Roedd adeiladau'r forum-basilica ymysg y rhai mwyaf a godwyd ym Mhrydain tan ddyfodiad eglwysi cadeiriol anferth yr Oesoedd Canol, ac mae'n rhaid eu bod wedi gosod straen aruthrol ar adnoddau a chyllid.
Mae'n ymddangos bod y basilica wedi cael ei ail-adeiladu, yn gyfan gwbl bron, yn hanner olaf y drydedd ganrif. Tynnwyd y llechi o do'r brif neuadd a dymchwelwyd y colofnau. Yn ystod yr ail-adeiladu atgyfnerthwyd y muriau a chodwyd y lloriau oherwydd ymsuddiant, mae'n debyg. Mae'n bosibl y cafwyd problemau strwythurol o'r cychwyn cyntaf, oherwydd torrwyd dau dwll enfawr drwy'r lloriau gwreiddiol er mwyn archwilio'r seiliau.
Parhaodd y basilica i weithredu fel y pencadlys gweinyddol tan y 330au, pan newidiwyd y defnydd a wnaed o'r adeilad. Darganfuwyd nifer o aelwydydd yng nghorff yr adeilad, sy'n arwydd ei fod yn safle gweithgarwch diwydiannol ysgafn ar un adeg. Tuag ugain neu ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cafodd y basilica ei ddymchwel. Mae arian a fathwyd yn y 390au yn arwydd o weithgaredd ar y safle hwn. Erys natur yr anheddiad hwn, mewn cyfnod pan oedd gweddill y dref yn dadfeilio, yn ansicr.
Mae'r cloddfeydd yng Nghaerwent wedi datgelu llawer am hanes yr adeilad anferth hwn, ac nid yw'r nodweddion a ddisgrifir wedi cael eu gweld yn unrhyw le arall ym Mhrydain.