Mil o fathau o gregyn yn Japan

Kristine Chapman

Amgueddfa Gregynegol Hirase

Shintaro Hirase a'i teulu, Medi 1931.

Mae gan y Llyfrgell gyfres o lyfrau cregyn Japaneaidd hardd iawn yn ei chasgliad o folysgiaid.

Enw’r llyfr yw Kai Chigusa, ond mae’n fwy adnabyddus fel Kai sen shu (Darluniau Miloedd o Gregyn) gan Yoichirō Hirase (1859–1925), ac fe’i cynhyrchwyd rhwng 1914 a 1922.

Cregynegwr oedd Hirase, a greodd y casgliad mwyaf o gregyn yn Japan ar droad y ganrif a sefydlu ei amgueddfa gregyn ei hun (Amgueddfa Gregynegol Hirase) yn ninas Kyoto rhwng 1913 a 1919. Roedd ei fab Shintarō Hirase (1884–1939) hefyd yn falacolegwr Japaneaidd, a fu’n addysgu yng Ngholeg Seikei.

Llyfr pedair cyfrol yw hwn, gyda phob cyfrol yn llyfr plygu ‘orihon’. Techneg draddodiadol a ddefnyddir i greu llyfrau yw hon, sy’n cynnwys stribed hir o bapur ag ysgrifen ar un ochr, sydd yna’n cael ei gywasgu trwy ei blygu’n igam-ogam nes ei fod yn mynd i’w gilydd fel consertina. Yn Tsieina y tarddodd hyn, ond cafodd ei ddatblygu’n ddiweddarach yn Japan, lle mae’n gysylltiedig yn bennaf â gweithiau neu lyfrau lluniau Bwdaidd.

Mae pob un o’r pedair cyfrol yn cynnwys tua chant o ddarluniau o gregyn, sy’n creu cyfanswm o 400 i gyd. Yn ôl y sôn, roedd Hirase wedi bwriadu cynhyrchu 10 cyfrol yn wreiddiol, pob un â 100 o ddarluniau, sef ‘Mil o Gregyn’ y teitl.

Torluniau pren wedi’u lliwio â llaw yw pob darlun. Dewisodd Hirase y dechneg hon, yn hytrach na’r un mwy cyffredin ar y pryd – lithograffi – oherwydd ei fod eisiau i’r gwaith fod o ddiddordeb i artistiaid).

Fel llyfrau lluniau yn bennaf, prin iawn yw’r testun, ond mae’r rhagair yn yr iaith Japaneaidd a rhestr y platiau yn ddwyieithog, Japaneaidd a Saesneg.

Mae’r tair cyfrol gyntaf yn eithaf prin, a chafodd cyfrol un ei chomisiynu ym 1914 i goffáu pen-blwydd cyntaf yr Amgueddfa Gregynol. Cynhyrchwyd yr ail a’r drydedd gyfrol ym 1915. Bu oedi wedyn cyn cyhoeddi’r bedwaredd gyfrol, ac ni chafodd ei chyhoeddi tan 1922. Mae copïau o’r bedwaredd gyfrol yn brin iawn erbyn hyn, ac mae llawer yn credu na chyhoeddwyd cymaint o gymharu â’r tair gyntaf.

Amgueddfa Gregynegol Hirase

Fodd bynnag, wyddom ni ddim yn union pryd y cyhoeddwyd ein copi ni o Kai Chigusa. Cafodd ei gynhyrchu gan Unsodo, cyhoeddwr celf blaenllaw yn Kyoto, a ddaliodd ati i’w gyhoeddi wedi marwolaeth Hirase, hyd at ganol y 1930au. Wnaeth y cyhoeddwyr fyth nodi pa argraffiad oedd p’un – y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol sydd ar bob cyfrol, felly mae’n amhosib gwybod pryd y cafodd pob cyfrol ei hargraffu mewn gwirionedd!

Roedd iechyd Hirase’n wael ac roedd dan straen ariannol sylweddol ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, sydd efallai’n esbonio pam na lwyddodd i gwblhau’r cyfrolau eraill. Caeodd ei Amgueddfa Gregynol ym 1919 ac aeth ei gasgliadau o gregyn i’r pedwar gwynt. Aeth nifer ohonyn nhw i’r Smithsonian ym 1921, a llawer mwy i amgueddfa yn Tokyo, sef yr Amgueddfa Gwyddorau Naturiol heddiw. Rhoddwyd y gweddill i’w fab Shintarō.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, aeth casgliad Shintarō i’r Sefydliad Ymchwil Adnoddau Naturiol yn Tokyo. Cafodd rhywfaint ohono ei ddinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond mae’r gweddill mewn storfa yno o hyd.

Fe wnaethom ni brynu’r copi hwn o Kai Chigusa gan Antiquariaat Junk ym 1999 i’w ychwanegu at ein Llyfrgell Tomlin. Roedd Hirase mewn cysylltiad â llawer o gasglwyr cregyn, gan gynnwys John Read le Brockton Tomlin, ac mae archif Tomlin yn cynnwys sawl llythyr, cerdyn post a llun ganddo.

Er nad oedd gan Tomlin ei gopi ei hun o Kai Chigusa, roedd ganddo sawl llyfr arall yn ei gasgliad yn ymwneud â Hirase, fel albwm o luniau i gofio am Arddangosfa Gregynol yn Llyfrgell Kyoto ym 1910. Trefnwyd yr arddangosfa hon gan Hirase, ac roedd yn cynnwys cregyn, llyfrau, darluniau a phaentiadau o’i gasgliadau ei hun, a rhai casglwyr eraill o bedwar ban byd. Dyma ragflaenydd sefydlu ei Amgueddfa ei hun ym 1913, ac mae copi Tomlin o’r albwm hefyd yn cynnwys dau linluniad o’r amgueddfa arfaethedig hefyd.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Leslie A Crnkovic
25 Tachwedd 2020, 14:38
This is a wonderful web pages. I have been putting together an exhibition on Hirase and Japanese slit shells, gathering significant materials, except the expensive items such as are in your collection. It has evolved from 3 to 5, to 8, and now 10 meters. Thank you for sharing this for us all.
LOL
1 Gorffennaf 2020, 02:17
This is intersting