Ysguboriau
Cloddio'r ysguboriau ym Mrynbuga. Y llinellau llorweddol sy'n croesi'r llun yw sylfeini'r ysguboriau pren, ac yng ngwaelod y ffosydd gwelir tyllau ar gyfer pyst fertigol. Ar yr ochr chwith, gellir gweld pydew diweddarach yn torri drwy un o ffosydd y sylfeini. Llefydd na chafodd eu cloddio yw'r llinellau fertigol.
Porth Dwyreiniol
Adluniad o'r Porth Dwyreiniol, Brynbuga (gan Martin Dugdale). Roedd y porth, a godwyd o bren yn yr un ffordd â gweddill y gaer, yn cynnwys dau dŵr y naill ochr a'r llall i lôn ddwbl, oedd wedi'u cysylltu â thramwyfa uwchlaw'r ffordd.
Ysguboriau
Adluniad o'r tair ysgubor fawr ym Mrynbuga (gan Martin Dugdale). Roedd lloriau'r adeiladau hyn uwchlaw'r ddaear er mwyn atal tamprwydd, llygod a phryfetach rhag cyrraedd y grawn a bwydydd eraill a gâi eu storio ynddynt.
Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion.
Cedwir darganfyddiadau'r cloddiadau ym Mrynbuga yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion.

Datgelodd cloddiadau yn y 1960au gaer oedd unwaith yn gartref i Ugeinfed Leng Rhufain.

William Camden (1551-1623) oedd y cyntaf i gofnodi'r cysylltiad rhwng y Rhufeiniaid a Brynbuga (Sir Fynwy), gan gyfeirio at y dref fel safle Burrium. Fodd bynnag, dim ond ar ddiwedd y 1960au y daethpwyd o hyd i leng-gaer gynnar o dan ran ddeheuol y dref.

Yn ôl pob tebyg, fe'i codwyd tua OC55 gan yr Ugeinfed Leng fel canolfan ar gyfer goresgyniad de Cymru, ac fe'i lleolwyd i reoli'r llwybrau i'r gwastadeddau arfordirol tua'r de ac i fryniau a mynyddoedd Brycheiniog tua'r gogledd.

Arwynebedd y gaer oedd 19.5 hectar (48 erw) a châi ei hamddiffyn gan ffos allanol ar ffurf V, a rhagfur o glai a thywyrch â ffesin o bren. Ar ben y rhagfur roedd llwybr, ambell i dŵr pren a phorth ar y naill ochr a'r llall.

Datgelodd cloddiadau helaeth rhwng 1965 a 1976 ddau grŵp o ysguboriau - a ddefnyddiwyd i storio'r nwyddau angenrheidiol i fwydo byddin fawr y goresgyniad - gweithdy a rhan o dŷ swyddog, i gyd wedi'u codi o bren. Awgryma gwaith mwy diweddar efallai fod catrawd o farchfilwyr cynorthwyol (a elwid yn ala) wedi'i lleoli yma gyda milwyr y lleng.

Yn dilyn ad-drefnu'r fyddin Rufeinig yn OC66 neu 67, trosglwyddwyd yr Ugeinfed Leng o Frynbuga i Wroxeter (Sir Amwythig). Sefydlodd y symudiad hwn linell o gaerau yn ymestyn o Gaer-wysg i Lincoln, ac o ganlyniad disodlwyd y gaer ym Mrynbuga.

Fodd bynnag, roedd Brynbuga yn nwylo a than ofal garsiwn bach tan OC74-75, pan sefydlwyd lleng-gaer newydd wyth milltir i lawr y dyffryn yng Nghaerllion (Casnewydd) - man oedd yn llai tebygol o ddioddef llifogydd ac yn haws i'w gyflenwi o'r môr. Hyd yn oed wedyn, ni chefnodd y Rhufeiniaid yn gyfan gwbl ar Frynbuga, ac ar safle'r gaer sefydlwyd caer atodol/uned waith fach. Daeth oes y gaer i ben cyn diwedd y ganrif gyntaf OC, ond mae'n ymddangos y bu'r uned waith yn weithredol dros gyfnod hirach o lawer.

Heddiw, nid oes unrhyw ran o'r gaer wedi goroesi uwchlaw'r ddaear i ddynodi'r rhan y chwaraeai'r dref fach hon yng ngoresgyniad Cymru. Cafodd y gaer ei ddatgymalu'n systematig gan y Rhufeiniaid ac mae unrhyw ddarnau o bren a adawyd ar ôl wedi hen bydru a diflannu.

Darllen Cefndir

Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Fortress Excavations 1968-71 gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1981).

Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Fortress Excavations 1972-74 and Minor Excavations on the Fortress and Flavian Fort gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1989).

sylw(3)

ANDREW LILLEY
27 Rhagfyr 2017, 10:58
I worked on the site in 1969 and I'm certain that's me at the bottom right of the picture.
How can I get a good print.
It was a fantastic dig.We were just behind the correctional institution.Pam Quennel was assistant site coordinator as I remember.Many students lived on the site from all over the world.We had great times around campfires and at the local(was it the Red Lion?)
I remember the head at the site was Chris whose surname illudes me he was from Cardiff Uni but lived in High Wycombe.
We were paid 30s per week with meals and Friday off so we would bundle down to Bath or Cardiff or Newport.
Fantastic times.
Andrew
Amgueddfa Cymru
16 Mai 2016, 10:15
Dear Barbara,
Unfortunately there are no remain of the fortress above ground. The fortress was systematically demolished by the Romans and any timbers left have long since rotted away.
Barbara Daniels
15 Mai 2016, 18:39
A brilliant article. Where are these remains now? I live in Usk and have never seen a reference to them.

Gadael sylw